Mae adolygiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor a gyhoeddir yn y cyfnodolyn BMC Public Health wedi dangos sut y gall 鈥榶myrraeth dechnolegol鈥 gan rieni ddylanwadu ar iechyd meddwl a chanlyniadau ymddygiadol y glasoed.
Mae ymyrraeth dechnolegol yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio'r ymyrraeth neu'r tarfu a achosir gan dechnoleg yn ein bywydau bob dydd, yn enwedig yn ein perthnasoedd rhyngbersonol. Mae'n cyfeirio at yr effaith negyddol y gall technoleg fel ffonau clyfar, cyfrifiaduron, a dyfeisiau digidol eraill, ei chael ar ein rhyngweithiadau wyneb yn wyneb, cyfathrebu, a'n llesiant cyffredinol.
Gellir dangos ymyrraeth dechnolegol mewn ffyrdd amrywiol, megis pan fydd unigolion yn blaenoriaethu eu dyfeisiau dros dreulio amser o ansawdd gydag eraill, gwirio eu ffonau'n gyson yn ystod sgyrsiau, neu pan fydd hysbysiadau a chyfryngau cymdeithasol yn tynnu eu sylw drwy'r amser pan fyddant yng nghwmni ffrindiau neu deulu. Yn flaenorol, canfuwyd bod hyn yn arwain at lai o gysylltiadau rhyngbersonol, llai o sylw ac ymgysylltu mewn rhyngweithio bywyd go iawn, a mwy o deimladau o unigedd a datgysylltu.
Dangosodd yr adolygiad fod y glasoed yn cydnabod bod rhyw lefel o ymyrraeth dechnolegol gan rieni yn rhan nodweddiadol o'r amgylchedd digidol rydym yn byw ynddo. Fodd bynnag, dangosodd astudiaethau fod mwy o ymyrraeth dechnolegol gan rieni yn gysylltiedig 芒 mwy o debygolrwydd o gymryd rhan mewn ymddygiad treisgar (e.e. seiberfwlio) a chanlyniadau iechyd meddwl gwaeth (e.e. iselder a gorbryder) ymhlith y glasoed. Dangosodd rhai astudiaethau fod risgiau'r glasoed o brofi iechyd meddwl gwaeth yn cael eu dylanwadau gan gynhesrwydd rhieni a ffactorau seicolegol personol (e.e. hunan-barch, hynawsedd, niwrotiaeth).听听
Mae'r astudiaeth yn amlygu pwysigrwydd ffactorau cyd-destunol, fel amlder y defnydd o ddyfeisiau a hyd y defnydd ohonynt, wrth archwilio'r maes ymchwil hwn.听
Meddai Donna Dixon, darlithydd mewn addysg ac astudiaethau plentyndod ac ieuenctid ym Mhrifysgol Bangor,
鈥淕all dylanwad aflonyddgar technoleg ym mywydau dyddiol teuluoedd, yn enwedig o fewn perthnasoedd rhyngbersonol, arwain at canlyniadau pellgyrhaeddol. Mae ein hastudiaeth yn datgelu bod mesurau rhagweithiol yn hollbwysig, gan bwysleisio pwysigrwydd ystyried ffactorau cyd-destunol fel amlder a hyd y defnydd o ddyfais. Dylai rhieni archwilio鈥檔 feirniadol eu defnydd o sgrin tra ym mhresenoldeb plant, er mwyn lleihau gwrthdyniadau a gosod esiampl gadarnhaol ar gyfer y genhedlaeth nesaf.鈥
Mae cydnabod bod technoleg yn rhan o'r amgylchedd teuluol newydd, yr angen am fesurau rhagweithiol i leihau effaith negyddol ymyrraeth dechnolegol mewn aelwydydd, yn enwedig o ran plant a'r glasoed, yn cael ei bwysleisio. Mae'n hanfodol bod oedolion yn ymwybodol o'u defnydd o sgrin ym mhresenoldeb plant a phobl ifanc, gan fod eu hymddygiad yn gosod esiampl hanfodol ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Mae Dr Catherine Sharp, un o awduron y papur, yn pwysleisio, "Mae ein hastudiaeth yn tanlinellu'r angen am ddull gwybodus o ddefnyddio technoleg yn amgylchedd y teulu. Mae'n hanfodol bod oedolion yn ymwybodol o'r canllawiau a gynigir gan Brif Swyddogion Meddygol y DU ac i weithredu strategaethau sy'n arwain at arferion digidol iechach ar gyfer llesiant holl aelodau'r teulu."
Teitl y papur ymchwil yw "
听