Ymunodd ) y Brifysgol â Keysight Technologies, cwmni sy'n arwain y farchnad ym maes dylunio, efelychu a datrysiadau trwy brofion, i gyflwyno seminar hyfforddi undydd ar dechnegau profi a mesur ar gyfer systemau cyfathrebu.
Cafodd myfyrwyr peirianneg electronig, ymchwilwyr, a chwmnïau telathrebu lleol ddarlithoedd technegol gan arbenigwyr Keysight, ar bynciau megis gofal a chynnal a chadw offer, i leihau risg prawf a gwella cywirdeb mesuriadau.
Yn ystod y dydd, cafodd y myfyrwyr glywed am y cyfleoedd sydd gan Keysight i'w cynnig o ran gyrfaoedd a lleoliadau, a sgwrsio am eu hastudiaethau gyda myfyrwyr gradd Meistr, PhD ac Ymchwilwyr ôl-Ddoethurol presennol y Ganolfan DSP. Roedd y diwrnod hefyd yn cynnwys taith o labordai ymchwil ac arloesi’r Ganolfan DSP, sy’n cynnwys llawer o ddarnau o offer profi Keysight sydd o’r radd flaenaf, ac arddangosiadau byw o dechnegau cyfathrebu digidol y Ganolfan DSP.
Mae'r Seminar Hyfforddiant yn un agwedd ar rodd 'Gwerth Cymdeithasol' Keysight, fel rhan o'i dendr i gyflenwi offer project Bargen Twf Gogledd Cymru y Ganolfan DSP. Caiff y seminar hyfforddi ei chyflwyno'n flynyddol am bum mlynedd a'r nod yw hybu sgiliau a chyflogaeth leol, a chyfrannu yn y pen draw at lesiant economaidd a chymdeithasol y gymuned.
Roedd y Seminar yn gyfle gwych i fyfyrwyr gryfhau eu gwybodaeth o wyddoniaeth profi a mesur, ac i gysylltu â chymheiriaid, aelodau o’r staff, a gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Gobeithiwn y bydd yr hyfforddiant yn gefn i’w hastudiaethau ac y bydd yn fodd i atgyfnerthu eu brwdfrydedd i ddilyn gyrfa yn y technolegau cyfathrebu.
Roedd yn bleser cydweithio â Keysight i drefnu a chyflwyno’r digwyddiad, ac i arddangos yr ymchwil arloesol mewn cyfathrebu sy’n seiliedig ar DSP sy’n digwydd yma ym Mhrifysgol Bangor, gyda chefnogaeth offer arbenigol Keysight. Rydym yn edrych ymlaen at barhau â’r bartneriaeth gyda Keysight i gyflwyno digwyddiad llwyddiannus arall y flwyddyn nesaf.
Mae rhagor o wybodaeth a lluniau o'r digwyddiad ar gael ar dudalennau a y Ganolfan Prosesu Signalau Digidol.Â