鶹ý

Fy ngwlad:
Pen ac ysgwyddau Grace Williams

Cyhoeddi trefniannau o alawon gwerin Cymreig gan Grace Williams am y tro cyntaf

Bydd casgliad o drefniannau o alawon gwerin gan un o gyfansoddwyr enwocaf Cymru o’r ugeinfed ganrif, Grace Williams, yn gweld golau dydd am y tro cyntaf erioed diolch i nawdd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Bangor.

Mae hi’n fraint o’r mwyaf cael perfformio a chyhoeddi’r gweithiau hyn. Rwy’n falch iawn y bydd rhai o drefniannau hyfryd Grace Williams, a gyfrannodd yn helaeth at dwf a datblygiad cerddoriaeth yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif, yn dod i sylw’r genedl am y tro cyntaf.
Elain Rhys,  Myfyriwr Gradd Meistr, Adran Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio Prifysgol Bangor

۳ɲԱ𲵴ǻ:

“Fy ngobaith yw y bydd fy ymchwil yn dwyn sylw haeddiannol i gyfansoddwraig na chafodd gydnabyddiaeth deilwng yng Nghymru nac ar Ynysoedd Prydain yn ystod ei hoes.

“Mae’r diffyg cyhoeddiadau ac ymdriniaeth o’r gweithiau hyn yn creu’r camargraff nad oedd gan Grace Williams lawer o amser ar gyfer cerddoriaeth draddodiadol ei gwlad. Roeddwn yn awyddus iawn i ymchwilio ymhellach i hyn a rhoi sylw i’w harddull leisiol gan geisio torri tir newydd. Mae ffynonellau pwysig megis gohebiaeth rhwng Grace Williams a’i ffrind, y cerddor Enid Parry (1911-1998), yn awgrymu’n gryf i’r gwrthwyneb - fod alawon traddodiadol yn agos iawn at ei chalon a’i bod wedi treulio peth amser yn ystod ei gyrfa yn ymddiddori yn yr alawon hyn. Wrth ddarllen trwy’r ohebiaeth a chraffu’n fanylach ar y gerddoriaeth, amlygir gwedd newydd - un llawer mwy Cymraeg a Chymreig, elfen bwysig am Grace Williams sydd wedi ei hanwybyddu i raddau helaeth gan ymchwilwyr y gorffennol.

“Hoffwn ddiolch i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am gymorth y grant bach er mwyn ariannu’r prosiect cyhoeddi sydd wedi caniatáu i’r trefniannau hyn weld golau dydd am y tro cyntaf. Hefyd hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Gronfa James Pantyfedwen am ariannu’r cwrs meistr ym Mhrifysgol Bangor ac i’r Athro Pwyll ap Siôn am ei gymorth a’i arweiniad ar y prosiect.”

Meddai Dr Dylan Phillips, Uwch Reolwr Academaidd ac Ysgrifennydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

“Mae cronfa grantiau bach y Coleg yn cefnogi nifer o brosiectau diddorol a chreadigol, ac roedd yn bleser gan y Coleg ariannu’r cynllun arloesol hwn i gyhoeddi gweithiau coll Grace Williams. Mae Elain wedi gweithio’n galed i gasglu ynghyd y trefniannau unigryw hyn, ac edrychwn ymlaen at ddathlu ei gwaith ymchwil a chlywed yr alawon arbennig yn y cyngerdd.”

Ychwanegodd Yr Athro Pwyll ap Siôn, Athro mewn Cerddoriaeth yn Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, "Dyma brosiect dadlennol sy'n taflu goleuni newydd ar berthynas Grace Williams a'i hetifeddiaeth Gymraeg a Chymreig. O'r diwedd, mae un o gyfansoddwyr pwysicaf Cymru yn dechrau derbyn y sylw sy'n ddyledus."

For an admission ticket to the 'Celebrating Grace Williams' concert on 3 November at Neuadd Powis, 鶹ý, contact Elain Rhys on muua63@bangor.ac.uk, or visit for further information. The arrangements can be purchased on the publishing company website,

Darganfyddwch ragor am ein Adran Gerddoriaeth - canolfan o ragoriaeth gerddorol ers dros ganrif yma