Mae disgwyl y bydd y galw byd-eang am bren yn cynyddu hyd at 170% erbyn 2050. Dangosodd astudiaeth newydd yn bwysigrwydd cyflawni targedau sero net trwy ddefnyddio pren gwastraff yn well, ac mae鈥檔 cynnig atebion yngl欧n 芒 chyflawni hynny.
Caiff pren o goedwigoedd rheoledig ei gydnabod fwyfwy鈥檔 ffynhonnell bwysig o fioddeunyddiau adnewyddadwy. Gall sicrhau manteision mawr o ran lleihau鈥檙 cynhesu byd-eang, gan gynnwys dal carbon deuocsid o'r atmosffer wrth i goed dyfu, storio'r carbon hwnnw mewn cynhyrchion a gynhyrchir o'r pren a gaiff ei gynaeafu, a lleihau allyriadau trwy ddefnyddio鈥檙 cynhyrchion hynny yn lle deunyddiau fel concrit a dur.
Canfu t卯m o ymchwilwyr o Brifysgol Bangor, Prifysgol Galway yn Iwerddon a Woodknowledge Wales, trwy wneud dadansoddiad trylwyr o gylch bywyd cyfan y system dan sylw, nad ydym yn sicrhau鈥檙 manteision gorau lle mae sero net yn y cwestiwn o ran y ffordd y mae cynhyrchion pren yn cael eu defnyddio yn y Deyrnas Unedig.
Byddai adennill y 'gwastraff' pren yn adnodd arbennig
Er bod llai nag 1% o bren gwastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi yn y Deyrnas Unedig, caiff llawer gormod o gynhyrchion pren eu llosgi ar 么l cael eu defnyddio unwaith fel biomas i gynhyrchu trydan neu wres, yn hytrach na鈥檜 hailddefnyddio neu鈥檜 hailgylchu鈥檔 gynhyrchion newydd sy'n dal i storio carbon. Mae aneffeithlonrwydd y system bresennol hefyd yn golygu bod coed yn cael eu cynaeafu ar gyfradd uwch o lawer nag sydd ei angen i ddarparu pren newydd ar gyfer gweithgynhyrchu. Mae o鈥檙 pwys mwyaf i鈥檙 Deyrnas Unedig. Yn 2022 costiodd ein mewnforion o gynhyrchion pren 拢11.5 biliwn.
Mae鈥檙 dystiolaeth a gynhyrchwyd gan yr ymchwil yn dangos y byddai gwella鈥檙 defnydd o gynhyrchion pren gwastraff yn sicrhau gostyngiad cyflym a pharhaus o 78% mewn allyriadau carbon erbyn 2050 o鈥檌 gymharu 芒鈥檙 dull presennol sy鈥檔 ddull untro鈥檔 bennaf. Mae鈥檙 manteision uniongyrchol i ddatgarboneiddio鈥檔 deillio o鈥檙 gostyngiad yn y galw am bren sydd newydd ei gynaeafu ac mae鈥檔 ategu鈥檙 manteision arafach, mwy hirdymor sydd i blannu coedwigoedd newydd i gynhyrchu pren. O gyfuno鈥檙 holl ddulliau gallem sicrhau gostyngiad mewn allyriadau sy鈥檔 cyfateb i 258.8 miliwn tunnell o garbon deuocsid, yn gronnol erbyn 2050 (sy鈥檔 cyfateb i 61% o gyfanswm allyriadau tiriogaethol net y Deyrnas Unedig yn y flwyddyn 2021 yn unig).
Mae'r astudiaeth yn tynnu ar gyfweliadau gydag arweinwyr y diwydiant, ac mae hefyd yn archwilio sut y gellid cyflwyno model mwy cylchol ar gyfer defnyddio pren. Mae'n nodi:
-听听听听听听听 听bod angen i'r diwydiant gydweithio mewn ffyrdd newydd i sicrhau鈥檙 cydgysylltiad traws-sector angenrheidiol;
-听听听听听听听 mae angen cynigion ar gyfer ymyriadau polisi gan y llywodraeth megis cynlluniau dadadeiladu gorfodol ar gyfer adeiladau, ac;
-听听听听听听听 mae angen i weithgynhyrchwyr ymestyn y cyfrifoldeb am sut mae eu cynhyrchion yn cael eu defnyddio (a'u hailddefnyddio) i sicrhau'r buddion gorau ar gyfer arafu鈥檙 cynhesu byd-eang.
Dywedodd Eilidh Forster, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Bangor ac awdur arweiniol yr astudiaeth 鈥淎r hyn o bryd dim ond cyfran fechan o'r pren sydd ei angen y mae'r Deyrnas Unedig yn gallu ei gynhyrchu, ond eto pe gallem adennill y 'gwastraff' pren byddai鈥檔 adnodd arbennig. Gallai gwell tryloywder, adroddiadau a rheolaeth dros bren a adferwyd greu llu o gyfleoedd busnes cylchol鈥.
Mae plannu coedwigoedd newydd i gynhyrchu pren i ateb galw鈥檙 dyfodol yn flaenoriaeth bwysig iawn ar gyfer cyflawni sero net. Fodd bynnag, bydd yn cymryd sawl degawd i wireddu鈥檙 buddion hynny, ac ni allwn fforddio aros mor hir 芒 hynny i ostwng cyfradd bresennol y cynhesu byd-eang. Felly, rhaid gweithredu ar fyrder hefyd i wneud defnydd mwy effeithiol ar y cynhyrchion pren presennol a鈥檜 hailddefnyddio i leihau鈥檙 pwysau yr ydym yn ei roi ar goedwigoedd y byd i ddiwallu ein hanghenion.鈥
Esboniodd David Styles, Athro Cysylltiol mewn Amaeth-gynaliadwyedd ym Mhrifysgol Galway a chyd-awdur yr astudiaeth 鈥渋 gynyddu effeithlonrwydd y system gyfan yn sylweddol bydd angen gwneud newidiadau sylweddol yn y diwydiannau sy鈥檔 defnyddio coed yn y Deyrnas Unedig, a pholis茂au gan y llywodraeth a gaiff eu targedu鈥檔 well, i wella鈥檜 cydgysylltiad yn sylweddol gan gynnwys y coedwigo, yr adfer ac ailddefnyddio pren yn well.鈥
听
听
Mae鈥檔 anodd creu economi cylchol ond mae鈥檔 gwbl hanfodol os ydym am gyrraedd ein targedau datgarboneiddio yn y dyfodol yn ogystal 芒鈥檔 hanghenion am adnoddau at y dyfodol. Mae鈥檙 papur yn dangos hyd a lled y fuddugoliaeth ac mae鈥檔 gwneud awgrymiadau ymarferol yngl欧n 芒 chyrraedd y nod.鈥 Esboniodd hefyd fod 鈥淲oodknowledge Wales yn arbrawf yn y math o gydgysylltu traws-sector y mae鈥檙 ymchwil yn ei hyrwyddo.