Ìý
Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Remote Area Risk International i helpu i ddatblygu’r dulliau ymarferol ²¹â€™r hyfforddiant y maent yn ei gynnig ar eu cyrsiau meddygaeth anghysbell a gofal estynedig yn y maes. Nhw yw un o ddarparwyr mwyaf blaenllaw’r Deyrnas Unedig yn y maes yma. Yr hyn sy’n gwneud y gwaith hwn yn werth chweil yw gwybod bod graddedigion y cwrs yn mynd yn eu blaenau i gymhwyso’r wybodaeth ²¹â€™r sgiliau technegol y maent yn eu dysgu i wella gofal cyn-ysbyty a lleihau marwolaethau mewn lleoliadau lle mae adnoddau’n brin, megis ar allteithiau ac mewn trychinebau.
Ìý
Cawsom ein cyflwyno i Sam gan gyswllt dibynadwy a phrofiadol iawn yn y maes Achub Mynydd. Mae gan y tîm yn y Sefydliad Ffisioleg Ddynol Gymhwysol brofiad helaeth o’r pwnc dan sylw. Fel gyda phopeth y byddwn ni yn ei wneud, mae’r ffocws ar wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r rhai sydd ei angen, mewn sefyllfaoedd eithafol.
Ìý