Y Brifysgol yn Croesawu fforwm Gweinidogol Iwerddon-Cymru
Cynhaliwyd trydydd Fforwm Gweinidogol Iwerddon-Cymru yn y brifysgol ar y 19eg a鈥檙 20fed o Hydref. Roedd y fforwm, sy'n rhan o Raglen Iwerddon-Cymru, yn dathlu'r cydweithio hirsefydlog rhwng Iwerddon a Chymru mewn gwahanol feysydd gan feithrin cyfeillgarwch ac arloesedd. 聽
Dechreuodd y digwyddiad nodedig hwn gyda chyfarfod rhwng Prif Weinidog Cymru a T谩naiste Iwerddon, a buont yn trafod materion sydd o ddiddordeb i鈥檙 ddwy wlad. 聽聽
Yn dilyn hynny cafwyd derbyniad ar y cyd yn Neuadd Powis lle croesawyd ynghyd arweinwyr project, rhanddeiliaid a Gwyddelod ar wasgar, gan ailddatgan yr ymrwymiad i gynnal perthynas gref. Fe wnaeth Iain Quick, Cynrychiolydd Llywodraeth Cymru yn Iwerddon, groesawu'r Prif Weinidog Mark Drakeford a'r T谩naiste Miche谩l Martin. 聽
Yn ystod yr ymweliad deuddydd, mynegodd y T谩naiste Miche谩l Martin ei ymroddiad i'r berthynas "unigryw" sy'n rhwymo Iwerddon a Chymru 芒鈥檌 gilydd. Cydymaith Mr Martin, sydd hefyd yn gwasanaethu fel Gweinidog Materion Tramor a Gweinidog Amddiffyn Iwerddon, yn yr ymweliad 芒 Bangor oedd Simon Harris, Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Ymchwil, Arloesi a Gwyddoniaeth Iwerddon. 聽
Yn ystod yr ymweliad bu鈥檙 T谩naiste a Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn edrych ar wahanol safleoedd yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys Porthladd Caergybi, Hyb Hydrogen Morlais, ac ysgol cyfrwng Cymraeg a chanddi gysylltiadau hanesyddol ag Iwerddon. 聽Tra aeth Simon Harries, y Gweinidog dros Addysg Bellach ac Uwch, Ymchwil, Arloesi a Gwyddoniaeth (Iwerddon) a Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig yn y Senedd i D欧 Gwyrddfai, yr hyb datgarboneiddio dan arweiniad Adra gyda mewnbwn Prifysgol Bangor yn ogystal ag M-Sparc, sef parc gwyddoniaeth y brifysgol. 聽聽
Ar ben hynny, cyflwynwyd y gweinidogion i brojectau a ariannir gan Cymru Ystwyth, gan ganolbwyntio ar bedair thema ganolog. Yn benodol, rhoddodd Shelagh Malham, sy鈥檔 Athro mewn Bioleg M么r gyflwyniad ar fentrau Glas Cynaliadwy, tra bod Enlli Thomas, sy鈥檔 Ddirprwy Is-ganghellor Dros Dro a Phennaeth Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau, a Gwyddorau Cymdeithas anerchiad hynod werthfawr am ddiogelu ieithoedd. 聽Rhoddodd John Parkinson, sy鈥檔 Athro yn yr Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon gyflwyniad ar Arloesi a chan yr Athro Einir Young, sy鈥檔 Uwch Gymrawd Ymchwil yn Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, a Gwenan Griffith, sy鈥檔 Swyddog Cynaliadwyedd, cafwyd cyflwyniad ar y thema Cymunedau a Diwylliant. 聽
Yn nhrydydd Fforwm Gweinidogol Iwerddon-Cymru tynnwyd sylw unwaith eto at y cysylltiad parhaus rhwng y ddwy genedl a'u hymrwymiad i hyrwyddo cydweithio ar gyfer dyfodol disglair. Trwy鈥檙 bartneriaeth hon mae rhagolygon cyffrous yn yr arfaeth i'r ddwy wlad mewn sawl gwahanol faes.聽