Cofio Gŵyl Canol yr Hydref: Taith Ddiwylliannol!
Daeth Gŵyl hyfryd Canol Hydref i ben. Rhoes i’r cynulleidfaoedd werthfawrogiad dwfn o draddodiadau a threftadaeth Tsieina. Cynhaliwyd yr ŵyl fel dathliad diwylliannol yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, ar 29 Medi. Bu’n llwyddiant ysgubol ac yn gyfuniad cyfareddol o gelf, diwylliant a hanes. Roeddem wrth ein bodd i gael ein cydweithwyr o Gymdeithas Tsieina yng Nghymru i ymuno â ni i gyflwyno gweithdy swynol ar grefftio llusernau Tsieineaidd.
Roedd uchafbwyntiau’r ŵyl yn dyst i fywiogrwydd diwylliant Tsieina:
Perfformiad Dawns: Unodd gosgeiddrwydd ac dweud straeon yn llyfn wrth i ddawnsiwr gludo’r gynulleidfa drwy hen chwedlau Tsieina. Roedd ei pherfformiadau yn dyst i rym symudiad fel iaith gyffredin.
Perfformiad Tai Chi: O dan arweiniad tawel ein meistr Tai Chi, canfu pawb gydbwysedd a llonyddwch, a ddangosai apêl bythol yr ymarfer sy’n fodd i hyrwyddo lles corfforol a chytgord mewnol.
Gweithdai Caligraffeg a Chlymau Tsieineaidd: Cafodd y darpar artistiaid a’r selogion gyfle i ymchwilio i galigraffeg Tsieineaidd, a harddwch y ffurf gelfyddydol gywrain hon. Yn y cyfamser, daeth symbolaeth gyfoethog y clymau Tsieineaidd yn fyw yn nwylo'r cyfranogwyr wrth iddynt greu eu darnau unigryw eu hunain.
Gweithdy Torri Papur: Datblygodd crefft gain torri papur o flaen llygaid y cyfranogwyr, gan roi cyfle iddynt feistroli'r dechneg oesol hon a ddaeth i lawr trwy’r cenedlaethau. Roedd y dyluniadau cywrain a luniwyd yn ystod y gweithdy yn dyst i greadigrwydd a thraddodiad.
Roedd Gwyl Canol Hydref yn siwrne hyfryd mewn i ddiwylliant Tseina, a wnaeth argraff drawiadol ar fynychwyr o bob oedran. Fel ddywedodd Mike Pattison, a fynychodd y digwyddiad, ‘Hollol arbennig i weld cymaint o gelf a chrefft gwirioneddol Tseiniaidd a dawnswyr ysblennydd yma ym Mangor!’ Mae’r dyfyniad yma yn mynegi yn fywiog y rhyfeddod a’r gwerthfawrogiad a deimlwyd gan y rai gafodd y cyfle i brofi’r digwyddiad.
I Ellie, roedd yr ŵyl yn gyfle i archwilio a dysgu mewn dyfnder am draddodiadau Tseiniaidd. Rhanodd yn frwdfrydig ‘Es i o stondin i stondin, a roedd hi’n hynod o ddiddorol, addysgiadol, a newydd! Ro’n i ‘di clywed am Ŵyl Canol Hydref o’r blaen, ond roedd hi’n grêt i glywed mwy am y dathliad – yn enwedig chwedl y lleuad, y gwningen, a’r rheswm dros y gacen lleuad.’
Gwnaeth Chiara, sy’n astudio ym Mangor, ffeindio’r ŵyl yn enwedig o drawiadol. Dywedodd, ‘Nes i wir fwynhau, yn enwedig y dawnsio. Rwy’n dawnsio yn yr Eidal, a roedd hi mor dd ai weld math wahanol o symudiad ag i ddysgu am ochr ysbrydol y ddawns.’
Y perfformiadau bywiog wnaeth yr argraff fwyaf ar fwynhâd Caitlin o’r digwyddiad, wrth iddi ddatgan, ‘Roedd e’n wych iawn, nes i fwynhau’r dawnsio a’r creu llusernau yn enwedig!’
Y cyfle am brofiadau newydd ac i ehangu gorwelion oedd at ddant Danah, ar y llaw arall. Dywedodd, ‘Ro’n i erioed wedi profi Tai Chi o’r blaen, felly roedd hynny’n rili dda, a ro’n i wir yn hoffi dysgu am y farddoniaeth a’r lleuad. Doedden id dim di gweld dawnsio Tseiniaidd o’r blaen, felly roedd hwna’n wir ddiddorol, ag oedd hi’n grêt i gael tro arni, er yn heriol i gofio’r symudiadau i gyd!’
Nid yn unig bod Gŵyl Canol Hydref wedi dod a blas o ddiwylliant Tseina i Fangor – ymhellach creodd ofod i rhannu diwylliannol a gwerthfawrogiad, lle i fynychwyr fel Ellie, Chiara, Caitlin, a Danah gysylltu â thraddodiadau, mwynhau perfformiadau hudolus, a gwerthfawrogi dynfder treftadaeth Tseiniaidd.
Diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y digwyddiad, y perfformwyr ac arweinwyr y gweithdai, y gwirfoddolwyr ymroddedig a’r cyfranogwyr brwdfrydig. Gyda'n gilydd, buom yn dathlu amrywiaeth ac yn creu cysylltiadau trawsddiwylliannol, gan ymgorffori ymdeimlad o undod a gwerthfawrogiad.
I gael cipolwg ar uchafbwyntiau'r ŵyl, ewch i’n tudalen .