Canolfan Dementia Gwynedd ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr di-d芒l yn dod i Fangor
Mae gwasanaeth newydd, Canolfan Dementia Gwynedd, wedi ymuno 芒 Hwb Iechyd a Lles Heneiddio a Dementia ym Mhrifysgol Bangor.
Yn un o chwe Chanolfan Dementia ar draws Gogledd Cymru, mae鈥檙 ganolfan yn cynnig gwybodaeth, addysg, cyngor a chymorth hirdymor wedi鈥檜 teilwra i bobl sy鈥檔 byw gyda dementia, eu gofalwyr di-d芒l, a鈥檜 teulu.
Mae鈥檙 Ganolfan bellach yn rhan o鈥檙 Hwb Iechyd a Lles Heneiddio a Dementia, gan ddod 芒 th卯m ymchwil y Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia () ynghyd 芒 gwasanaethau lleol i gyflwyno rhaglen o gymorth 么l-ddiagnostig i bobl sy鈥檔 byw gyda dementia a鈥檜 gofalwyr. Ar hyn o bryd mae鈥檙 ganolfan yn gartref i nifer o grwpiau cefnogaeth sy鈥檔 cyd-daro ag ymchwil, megis y Gr诺p Cefnogi Dementia Prin ac Addysgwyr Dementia Prifysgol Bangor (gr诺p Caban).
I ddathlu agoriad Canolfan Dementia Gwynedd (Bangor) mae croeso i bawb ymweld 芒鈥檙 Hwb yn Adeilad Ardudwy ar Safle鈥檙 Normal, Ffordd Caergybi, Bangor ar ddydd Iau 5ed Hydref, rhwng 10yb a 4.30yp, i ddysgu am y ganolfan a鈥檙 cymorth sydd ar gael ac am waith t卯m ymchwil DSDC.
Mae Ffion Travis, sy'n cydlynu Canolfannau Dementia Gwynedd yn esbonio; 鈥淢ae鈥檙 canolfannau鈥檔 rhan o Lwybr Cymorth Cof Dementia Gogledd Cymru sydd 芒鈥檙 nod o symleiddio cymorth dementia i bobl yng Ngogledd Cymru. Gall unrhyw un ymweld 芒'r canolfannau. Rydyn ni yma i roi cymorth, gwybodaeth a chyngor i chi; nid oes angen atgyfeiriad neu ddiagnosis diweddar o ddementia arnoch.鈥
Am fwy o wybodaeth, ac i ffeindio eich Canolfan Dementia agosaf, cysylltwch 芒聽01492 542212. I ddysgu mwy am y mathau o weithgareddau a chefnogaeth sydd ar gael yn y Canolfannau Dementia ymwelwch 芒'r dudalen Facebook:聽
Rhith Daith Dementia Gwynedd
Bydd cyfle hefyd i gael profiad rhith-realiti ar yr efelychydd dementia (bws) sy鈥檔 ymweld 芒鈥檙 ganolfan ar y 5ed o Hydref. Mae'r efelychydd dementia yn rhoi profiad i berson ag ymennydd iach o'r hyn y gallai dementia fod. Bydd yn brofiad amhrisiadwy i helpu i ddeall yn well sut mae pobl 芒 dementia yn llywio amgylcheddau, tasgau, a'r synhwyrau. Mae聽archebu lle yn hanfodol ar gyfer y bws, ac mae lleoedd yn gyfyngedig. Cysylltwch ag Emma Quaeck (emmajaynequaeck@gwynedd.llyw.cymru) neu ffoniwch 07768 988095聽