Mae 'Rheol y Coed' a ddatblygwyd gan Leonardo da Vinci yn disgrifio sut mae tynnu lluniau o goed a fabwysiadwyd i raddau helaeth gan wyddoniaeth wrth fodelu coed a sut maent yn gweithredu.
Nawr, mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor yn y Deyrnas Unedig a Phrifysgol Gwyddorau Amaethyddol Sweden (SLU) wedi darganfod bod y rheol hon yn groes i鈥檙 rhai sy'n rheoleiddio strwythurau mewnol coed.
Perodd diddordeb Da Vinci mewn tynnu lluniau iddo edrych ar gymarebau meintiau gwahanol wrthrychau, gan gynnwys coed, fel y gallai greu lluniau mwy union ohonynt. I ddarlunio coed yn iawn, canfu鈥檙 hyn a elwir yn 'Rheol y Coed' sy'n nodi bod "holl ganghennau coeden ar bob cam o'i huchder yn gyfartal o ran trwch 芒'r boncyff o'u rhoi ynghyd."
Credid y gellid cymhwyso 'Rheol y Coed' Leonardo hefyd i'r sianeli fasgwlaidd sy'n cludo d诺r trwy鈥檙 goeden, a bod maint y sianeli unigol yn lleihau ar yr un gymhareb, wrth i鈥檙 canghennau gulhau, gan ychwanegu at gyfaint y boncyff.聽 Cafodd y 'rheol' honno ei derbyn fel rhan o theori graddio metabolig.
Ond dangosodd gwyddonwyr Prifysgol Bangor ac SLU mewn erthygl yn y cyfnodolyn adnabyddus a adolygir gan gymheiriaid, PNAS (18 Medi 2023, www.pnas.org/doi/10.1073/pnas.2215047120), nad yw'r model hwnnw鈥檔 gwbl gywir o鈥檌 gymhwyso i strwythurau fasgwlaidd mewnol coed.
Gwrthiant hydrolig
Er mwyn i dd诺r a maetholion symud yn effeithlon drwy'r goeden, o'r gwreiddiau i frigau鈥檙 dail, mae'n rhaid i'r system fasgwlaidd gynnal 'gwrthiant hydrolig'.
Mae Ruben Valbuena a Stuart Sopp o Brifysgol Bangor ac SLU wedi cyfrifo, er mwyn i鈥檙 gwrthiant hydrolig weithio, y daw pwynt nad oes coel ar 'Reol y Coed' mwyach.
Er mwyn cludo hylifau o鈥檙 gwreiddiau i frigau鈥檙 dail yn effeithlon, mae angen i sianeli fasgwlaidd y goeden gynnal dimensiwn penodol i gynnal gwrthiant hydrolig. Felly, mae'n rhaid i'r planhigyn leihau ei gyfaint wrth iddo gyrraedd ei eithafion, gan beri cymhareb uwch o鈥檙 capilari i f脿s y planhigyn.
Eglura Dr Ruben Valbuena (Athro yn SLU ac Athro Er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor),
鈥淓r ei fod yn gymorth mawr i arlunwyr, sef yr hyn yr oedd Da Vinci鈥檔 ei fwriadu, nid yw Rheol y Coed Leonardo yn gweithio ar lefel ficro鈥.
鈥淐redwn fod ein cyfrifiadau鈥檔 mireinio theori graddio metabolaidd ymhellach ac yn gwella dealltwriaeth o鈥檙 system blanhigion yn ei chyfanrwydd. Efallai y bydd ein hailgyfrifiadau hefyd yn esbonio pam mae coed mawr yn fwy agored i sychder, a gallant hefyd fod yn fwy agored i newid yn yr hinsawdd.鈥
Dywedodd y cyd-awdur Stuart Sopp, sydd ar hyn o bryd yn astudio at radd PhD yng Ngwyddorau鈥檙 Amgylchedd ym Mhrifysgol Bangor:
鈥淯n o'r nodau oedd llunio cymhareb i鈥檞 defnyddio i amcangyfrif biomas coed a charbon mewn coedwigoedd. Bydd y gymhareb newydd yn gymorth wrth gyfrifo daliant carbon byd-eang y coed.鈥