Cronfa Bangor yn cefnogi Gardd Llesiant Neuadd Rathbone
Yn ddiweddar cafodd y Gwasanaethau Myfyrwyr grant o £6,000 gan Gronfa Bangor, a weinyddir gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr, i ddatblygu man agored a chroesawgar y tu allan i Neuadd Rathbone.
Mae tystiolaeth gref i awgrymu bod treulio amser mewn mannau gwyrdd, ymgysylltu â byd natur a phrofi’r awyr agored yn cael effaith gadarnhaol ar les. Mae’r tîm wedi defnyddio’r cyllid i greu gofod sy’n annog myfyrwyr i gynnal a datblygu iechyd meddwl cadarnhaol wrth ymgysylltu â’r 5 Ffordd at Lesiant, sef Cysylltiad, Bod yn Egnïol, Bod yn Sylwgar, Dal ati i Ddysgu a Rhoi.
Mae grwpiau o fyfyrwyr wedi cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu elfennau o'r ardd. Yn ystod y digwyddiad cyntaf plannwyd bron i 2,000 o fylbiau gwanwynol, gan gynnwys eirlysiau, cennin Pedr, tiwlipau a chlychau’r gog. Nid oedd gan lawer o'r myfyrwyr unrhyw brofiad blaenorol o arddio ac, er gwaethaf y gwynt a'r glaw, roedd presenoldeb ac adborth y myfyrwyr yn wych.
Fel rhan o’r project, cyflwynwyd gweithdy gan Elfennau Gwyllt a fu’n gweithio gyda myfyrwyr a staff i adeiladu dau westy chwilod mawr, i annog bioamrywiaeth pryfetach ar y safle, ynghyd â sawl blwch adar. Caiff y lawnt ei thorri yn llai aml i annog bioamrywiaeth trwy adael i ran ohoni ddychwelyd i fod yn dir gwyllt a cheisiwyd cyngor hefyd ynglŷn â pha fath a pha nifer o goed ffrwythau cynhenid i’w tyfu yn yr ardd. Yn ogystal â'r gweithgareddau a gafodd eu cynnal, mae'r defnydd o'r ardd wedi cynyddu ers gosod meinciau picnic hygyrch, newydd. Prynwyd byrddau gwybodaeth hefyd.
Dywedodd Gian Fazey-Koven, Pennaeth Llesiant a Chefnogi Myfyrwyr, a wnaeth y cais am y cyllid, “Dan ni wedi llwyddo i gael hwyl wrth ymgysylltu â myfyrwyr ar y project hwn. Fe wnaeth y myfyrwyr gymryd rhan heb fod arnyn nhw angen gweld effaith uniongyrchol eu gwaith - roedd yn ddigon jest cymryd rhan a chyfrannu. Er efallai na fydd rhai myfyrwyr yn gweld y bylbiau'n blodeuo'r gwanwyn nesaf nac yn gwybod pa bryfetach sydd wedi ymgartrefu yn y gwestai chwilod, maen nhw wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau a fydd o fudd i fyfyrwyr y dyfodol. Dan ni’n ddiolchgar iawn i Gronfa Bangor am y cyllid sydd wedi golygu bod modd i ni wneud hyn. Mae’r grant wedi darparu sylfaen gref, a byddwn yn parhau i ddatblygu’r ardd a dwi’n siŵr y bydd yr ardd yn cael effaith am flynyddoedd lawer.”
Dywedodd Emma Marshall, Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr, “Roedd Pwyllgor Dyrannu Cronfa Bangor yn falch gallu ariannu’r project hynod gadarnhaol yma. Mae'n wych gweld bod yr ardd eisoes wedi bod o fudd i fyfyrwyr a staff ac y bydd yn parhau i wneud hynny wrth i'r ardd ddatblygu”.