Caiff y cyllid sylweddol ei ddefnyddio i ymchwilio i effeithiau amgylcheddol posib datblygiad arfaethedig cenhedlaeth newydd o ffermydd gwynt ar y m么r ar yr amgylchedd morol.
Yn sgil llwyddiant ysgubol datblygiadau ynni gwynt ar y m么r fel ffynhonnell ynni adnewyddadwy dros y degawd diwethaf, tybir mai ehangu鈥檙 dull hwn o gipio ynni bedair gwaith drosodd fydd asgwrn cefn siwrnai鈥檙 Deyrnas Unedig (a llawer o genhedloedd arfordirol eraill) at gyflawni SeroNet erbyn 2050.
Er bod dros 99% o鈥檙 genhedlaeth bresennol o ddatblygiadau ffermydd gwynt y m么r yn y Deyrnas Unedig yn y dyfroedd arfordirol aflonydd llanwol bas sydd o鈥檙 herwydd, yn gymysg iawn, ar gyfer yr ehangu enfawr arfaethedig bydd angen datblygiadau mawr yn y moroedd dyfnach yn bellach o鈥檙 lan, fel sydd yn yr arfaeth eisoes ym M么r y Gogledd a'r M么r Celtaidd.聽 Mae gan y dyfroedd dyfnach hynny haenau o dymheredd gwahanol sy'n newid drwy'r tymhorau ac sy鈥檔 cynnal gwahanol ecosystemau/pysgod a rhywogaethau eraill.
Eglura鈥檙 Cymrawd Ymchwil 脭l-ddoethurol, Dr Ben Lincoln,
鈥Er mwyn datblygu mewn dyfroedd dyfnach bydd angen dylunio sylfeini cwbl wahanol i鈥檙 tyrbinau, ac yn lle鈥檙 genhedlaeth bresennol o dyrbinau sefydlog ar wely'r m么r, defnyddir llwyfannau arnofiol newydd. Mae hynny鈥檔 codi cwestiynau ynghylch ag effeithiau posib y datblygiadau newydd hynny ar natur a鈥檙 amgylchedd.鈥
Caiff y moroedd sgafell eu hystyried ymhlith y moroedd mwyaf cynhyrchiol yn fiolegol ar y blaned. Bydd yr ymchwil newydd yn archwilio effeithiau鈥檙 datblygiadau newydd ar yr ecosystemau sensitif, ac yn enwedig 么l aflonydd llif y llanw heibio鈥檙 fflotiau, a鈥檙 cymysgu cysylltiedig rhwng dyfroedd o wahanol dymereddau a halltedd.
Gallai鈥檙 datblygiadau esgor ar rai agweddau cadarnhaol ar yr ecosystem forol, megis gwrthweithio rhai o effeithiau cefnfor sy鈥檔 cynhesu. Y gobaith yw y bydd yr ymchwil newydd yn arwain dyluniad a chynllun y datblygiadau newydd hanfodol hynny er mwyn sicrhau eu bod yn gynaliadwy o ran gwarchod y bywyd gwyllt lleol.
A allai鈥檙 ffermydd gwynt arnofiol effeithio鈥檔 gadarnhaol ar bysgodfeydd?
Yn ogystal 芒 gwarchod bywyd gwyllt, gallai鈥檙 datblygiadau newydd helpu cynhyrchu pysgodfeydd newydd, fel y cynigiwyd mewn papur gan wyddonwyr Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor John Simpson a Paul Tett 36 mlynedd yn 么l!
Dywed Ben Lincoln:
鈥淢ae gwynt arnofiol ar y m么r yn gyfle gwych i helpu鈥檙 Deyrnas Unedig gyrraedd SeroNet, ac o ran creu swyddi. Mae dros 50 mlynedd o ymchwil arloesol yma yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion yn dangos inni y gallai gwella dyluniad y fflotiau a chynllun y ffermydd gwynt helpu lliniaru effeithiau negyddol y newid yn yr hinsawdd, yn ogystal 芒 helpu tyfu pysgodfeydd cynaliadwy newydd yn y rhanbarthau hynny. Gobeithiwn y bydd ein hymchwil arfaethedig yn helpu sicrhau鈥檙 effeithiau cadarnhaol mwyaf posibl a chynaliadwyedd y datblygiadau hynny.鈥
Mae'r ymchwil newydd yn cynnwys Tom Rippeth, Ben Lincoln, Ben Powell a Martin Austin.