Arddangos Prifysgol Bangor yn y Brifwyl
Bydd Prifysgol Bangor yn arddangos y cyfan sydd ganddi i鈥檞 gynnig i ymwelwyr ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol Ll欧n ac Eifionydd ym Moduan, Gwynedd, rhwng 05-12 Awst 2023.
Mae'r stondin eleni yn gartref i Theatr Bangor, man lletygarwch, lle pwrpasol i UMCB ac arddangosfa gan Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion yn dangos yr astudiaeth i鈥檙 llen i芒 Brydeinig-Wyddelig ac yn dathlu llong ymchwil y Brifysgol, y Prince Madog.
Theatr Bangor
Bydd amserlen lawn o ddigwyddiadau drwy gydol yr wythnos gyda llawer o weithgareddau cyffrous o bob rhan o鈥檙 brifysgol, gan gynnwys podlediadau byw, trafodaethau panel, sgyrsiau a cherddoriaeth. Mae digwyddiadau traddodiadol y Brifysgol yn eu h么l hefyd, gan gynnwys yr Aduniad Cyn-fyfyrwyr a gyflwynir gan Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Bangor, Andrew Edwards a Llywydd UMCB, Celt John, gyda pherfformiad gan Aelwyd JMJ. Ddydd Gwener, mae Prynhawn Prosecco UMCB yn ei 么l, gyda pherfformiad gan Fand Pres Llareggub.
Y Parth Gweithgareddau
Gwahoddir y cyhoedd i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau cyffrous:
- Dewch i weld parc saffari rhithrealiti tanddwr cyntaf y byd, OceanRift, a ddatblygwyd gan arbenigwr graffeg gyfrifiadurol Prifysgol Bangor, Ll欧r ap Cenydd, sydd wedi bod yn gweithio gyda鈥檙 cwmni technoleg enfawr, Meta.
- Tr茂wch cacennau afal iachach ac ymunwch yn y frwydr yn erbyn gwastraff bwyd, wrth i鈥檙 Ganolfan Biogyfansoddion gydweithio gyda Pennotec, y cwmni o Bwllheli, a鈥檙 cwmni pobi The Pudding Compartment.
- Dewch i ddysgu sut mae eich corff yn gweithio ac archwilio modelau anatomegol gydag Ysgol Feddygol Gogledd Cymru.
- Plymiwch i'n moroedd lleol gydag Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion, trwy wneud amrywiaeth o weithgareddau ymarferol ar bynciau gan gynnwys rhaeadrau tanddwr, llosgfynyddoedd y m么r ac ysglyfaethwyr y m么r!
- Ymgollwch yn swigen Bangor 鈥 gyda鈥檙 busnes cynaliadwy, Dr Zigs Giant Bubbles, a sefydlwyd gan un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor, Paola Dyboski-Bryant.
Holwch am Fangor
Gwahoddir ymwelwyr i ymuno 芒 staff y Brifysgol am banad a sgwrs yn ein pabell fawr, lle gall darpar fyfyrwyr glywed mwy am ein cyrsiau israddedig ac 么l-radd, cael Canllaw Cyrsiau a chwpan arbennig Eisteddfod 2023 y gellir ei defnyddio dro ar 么l tro - am ddim!
Y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Prifysgol Bangor yw prif noddwr Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod eleni. Dewch i鈥檙听 D么m Gwyddoniaeth a Thechnoleg bob dydd am 2pm i fwynhau sgyrsiau hynod ddiddorol gan Brifysgol Bangor, sy鈥檔 trafod pynciau fel gofal iechyd cynaliadwy, dathlu merched dylanwadol mewn gwyddoniaeth, a datblygiadau mewn monitro firysau.
Bydd gan y brifysgol hefyd dri chaban pren yn y pentref ei hun, fydd yn gartref i Ysgol Feddygol Gogledd Cymru a'r Ysgol Gwyddorau Iechyd, yr Ysgol Seicoleg, Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer a'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg. Bydd stondin pob ysgol hefyd yn cynnal amserlen hwyliog o weithgareddau bob dydd.
Amserlen y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg听
Yn rhan o Brifysgol Bangor, bu Parc Gwyddonieth M-SParc yn gyfrifol am drefnu鈥檙 pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg ar ran yr Eisteddfod. Maent hefyd yn cynnal sioe ar draws yr wythnos gyfan. Dewch i'w Cwt o fewn y Babell Gwyddoniaeth a Thechnoleg am weithgareddau gan gynnwys dylunio ac argraffu 3D, gwneud mygiau, a mesur eich 么l troed carbon!
Meddai鈥檙 Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-ganghellor y Gymraeg, Cenhadaeth Ddinesig a Phartneriaethau Strategol:
鈥淢ae presenoldeb Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod yn un o uchafbwyntiau mwyaf nodedig y calendr blynyddol, ac mae鈥檔 braf cael croesawu鈥檙 digwyddiad yn 么l i鈥檙 gogledd, ac i'n cymuned, am y tro cyntaf ers cyn y pandemig.
鈥淢ae鈥檙 Eisteddfod yn darparu llwyfan i ni gynnig blas o鈥檙 cyfoeth, y creadigrwydd a鈥檙 amrywiaeth o waith arloesol a wneir gan y brifysgol yng nghyd-destun y Gymraeg a dwyieithrwydd yng Nghymru. Rwy鈥檔 falch iawn bod staff a myfyrwyr ar draws y brifysgol wedi ymateb yn frwd unwaith eto i鈥檙 digwyddiad, i arddangos rhaglen orlawn ac amrywiol o weithgareddau a digwyddiadau. Mae ein cyfraniad i鈥檙 Eisteddfod yn dyst i ansawdd ac amrywiaeth yr arbenigedd sy鈥檔 bodoli yma ym Mangor, ac yn ddathliad o鈥檔 cyfraniad allweddol i dwf yr iaith Gymraeg yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn economaidd.鈥