Cyhoeddodd Advance HE enillwyr y Cynllun Cymrodoriaeth Addysgu Cenedlaethol (NTFS) ar gyfer 2023, ac mae'r Athro Graham Bird o Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor ymhlith y Cymrodyr Dysgu Cenedlaethol newydd.
听
Mae hanner cant a phump o Gymrodyr Addysgu Cenedlaethol newydd, a 1143 yw鈥檙 cyfanswm ers lansio鈥檙 cynllun yn 2000. Caiff yr holl enillwyr eu cydnabod am eu cyfraniad rhagorol i addysgu rhagorol ac ysbrydoli cydweithwyr mewn addysg uwch.听
Gweler rhestr lawn 听
Dyfarnodd Advance HE hefyd 15 Gwobr Gydweithredol ar gyfer timau Rhagoriaeth Addysgu. Cewch weld y rheini yma: 听
Dywedodd Alison Johns, Prif Weithredwr, Advance HE,听听
鈥淟longyfarchiadau i鈥檙 holl Gymrodyr Addysgu Cenedlaethol newydd a thimau CATE ar ennill y fath glod sy鈥檔 cydnabod ac yn gwobrwyo eu hymrwymiad i addysgu a dysgu a鈥檙 effaith ar lwyddiant y myfyrwyr.听
鈥淩ydym yn falch iawn o gynnal y gwobrau i sector addysg uwch y Deyrnas Unedig a dathlu鈥檙 bobl frwd hynny sy鈥檔 gwneud cymaint o wahaniaeth i addysg y myfyrwyr ac i ymarfer eu cydweithwyr. Edrychwn ymlaen at weithio gyda鈥檙 Cymrodyr Addysgu Cenedlaethol newydd ac enillwyr CATE a rhannu eu harferion rhagorol gyda chydweithwyr ledled y sector.鈥澨
Ymunodd Yr Athro Graham Bird 芒 Phrifysgol Bangor yn 2010, a gwnaeth gyfraniad arwyddocaol at ragoriaeth addysgu a dysgu dros y 13 mlynedd diwethaf. Daeth yn Gyfarwyddwr Cwrs Daearyddiaeth (2011), ac ers hynny bu鈥檔 ymgymryd 芒 rolau 芒 chyfrifoldebau cynyddol: Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu鈥檙 Ysgol yn 2012; Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu鈥檙 Coleg yn 2014; Dirprwy Bennaeth yr Ysgol yn 2016, ac yn 2020 daeth yn Ddirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol Addysgu a Dysgu.
Mae Graham yn Uwch Fentor yn y Brifysgol, fel adolygydd ar geisiadau Cymrodoriaethau AAU o bob categori yn y Sefydliad. Cafodd ei gydnabod yn Brif Gymrawd AAU yn 2021.
Mae parch mawr i Graham yn genedlaethol. Mae鈥檔 aelod o Bwyllgor Cyfle a Chyflawniad Myfyrwyr HEFCW, ac mae鈥檔 cadeirio Adolygiad Datganiadau Meincnodi Pwnc yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Daearyddiaeth (2021). O ran y gweithgaredd olaf yma, penododd Graham Banel Adolygu cynhwysol, ac ymhlith y prif flaenoriaethau roedd ffocws ar dadgoloneiddio'r cwricwla, ac mae hyn yn symudiad effeithiol sy鈥檔 treiddio drwy鈥檙 ddisgyblaeth yn genedlaethol.
Dywedodd y Dirprwy Is-Ganghellor Addysg, Yr Athro Nichola Callow,
鈥淢ae Prifysgol Bangor yn falch iawn bod yr Athro Graham Bird wedi ennill Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol (NTF) eleni. Mae Graham yn arweinydd uchel ei barch am addysgu a dysgu ac mae wedi dylanwadu鈥檔 ddirfawr ar y polisi a鈥檙 ddarpariaeth sefydliadol o ran ein ymateb i'r pandemig, cadw gafael ar fyfyrwyr a dilyniant, technoleg ac ehangu mynediad. Mae Graham yn deilwng iawn o ennill Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol, ac edrychwn ymlaen at weld effaith ei brojectau nesaf.鈥
Rwyf wrth fy modd ennill Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol. Mae'n anrhydedd fawr 鈥榗yrraedd y nod' mewn cynllun gwobrau cystadleuol iawn. Rwy'n meddwl mai'r hyn sy'n arbennig o bleserus yw bod y dyfarniad yn cael ei wneud yn seiliedig ar farn aseswyr o'r Sector Addysg Uwch yn ehangach yn y Deyrnas Unedig, sydd, yn fy marn i, yn gymeradwyaeth wych o'm gwaith innau a鈥檙 hyn rydym yn ei wneud yma ym Mhrifysgol Bangor.听
鈥淲rth lunio鈥檙 cais bu鈥檔 rhaid imi feddwl am yr hyn rydw i鈥檔 ei wneud a鈥檙 hyn a鈥檌 gwnaeth yn wych. Nid yw'n broses hawdd imi! Roedd fy nghais yn cynnwys fy ymarfer addysgu a fy ngweithgareddau yn arwain addysgu a dysgu ym Mangor. Yn enwedig o ran yr olaf, yr hyn sy鈥檔 amlwg yw na fyddwn i wedi llwyddo heb imi weithio gyda rhai cydweithwyr gwych yn y Brifysgol.鈥
Mae panel annibynnol o uwch arweinwyr addysg uwch, sy鈥檔 cynrychioli pedair gwlad y DU, yn sicrhau ansawdd y Cynllun Cymrodoriaeth Addysgu Cenedlaethol a鈥檙 Wobr Gydweithredol am Ragoriaeth mewn Addysgu ac yn argymell enillwyr.
Dywedodd yr Athro Becky Huxley-Binns (NTF, PFHEA), Dirprwy Is-Ganghellor dros Addysg ym Mhrifysgol Hull, a Chadeirydd Panel Cynghori Gwobrau Rhagoriaeth Addysgu y DU 2023,
鈥淏ob blwyddyn wrth i ni ddewis enillwyr NTFS a CATE, rydyn ni鈥檔 syfrdanu o glywed am y bobl hynod a dawnus hyn sy鈥檔 addysgu gyda鈥檙 fath broffesiynoldeb, angerdd ac ymrwymiad at addysg uwch. Doedd eleni ddim gwahanol.
鈥淢ae鈥檙 gwobrau hyn yn hynod bwysig o ran cydnabod a dathlu鈥檙 bobl hyn a rhannu鈥榬 'hyn sy鈥檔 gweithio' fel bod cydweithwyr yn gallu adeiladu ar eu harbenigedd听 a bod myfyrwyr yn medru manteisio ar ymarfer gwych o ran addysgu a dysgu.鈥