Sefydliad Confucius Yn Cynnal Ei Trydydd Ysgol Haf Mandarin Ar-Lein!
Cynhaliodd Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor ysgol haf iaith a diwylliant Tsieineaidd wythnos o hyd ar-lein rhwng 24 a 28 Gorffennaf. Cynlluniwyd y rhaglen rithwir unigryw hon i drochi cyfranogwyr yn rhyfeddodau iaith, diwylliant a thraddodiadau Tsieina o鈥檜 cartrefi eu hunain.
Trwy gydol yr wythnos, cafodd myfyrwyr brofiad cyflawn a oedd yn cynnwys dwy wers Mandarin ddifyr bob dydd, ynghyd 芒 gwers ddiddorol am ddiwylliant Tsieina. Yn ogystal, cafodd y cyfranogwyr gyfle i weithio ar brojectau unigol a oedd yn caniat谩u iddynt ymchwilio'n ddyfnach i feysydd o ddiddordeb iddynt.
Ar ddiwrnod olaf yr ysgol haf, cafodd y cyfranogwyr y cyfle i arddangos eu gwaith caled a'u hymroddiad trwy gyflwyno eu projectau. Roedd y brwdfrydedd a鈥檙 creadigrwydd a ddangoswyd yn eu cyflwyniadau yn wirioneddol ganmoladwy. I ddathlu eu cyflawniadau, trefnwyd cwis tair rownd ryngweithiol, yn canolbwyntio ar y wybodaeth a'r sgiliau newydd a ddysgwyd gan y myfyrwyr yn ystod yr wythnos.
Roedd y projectau鈥檔 ymdrin ag amrywiaeth o bynciau difyr, megis cyfryngau Tsieina, celfyddyd gymhleth seremon茂au te Tsieina, atyniad sinema Tsieina, a daearyddiaeth hynod ddiddorol Tsieina. Roedd pob project yn dangos lefel hynod o ymrwymiad a gloywder.
Ychwanegwyd at lwyddiant yr ysgol haf ymhellach gan yr adborth hynod gadarnhaol a gafwyd gan y cyfranogwyr. Roedd eu sylwadau yn dyst i ymroddiad y sefydliad i ddarparu profiad dysgu cyfoethog a difyr.
'Diolch am gwrs anhygoel; roedd yn wirioneddol ysbrydoledig. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ymweld 芒 Tsieina nawr.'
'Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle, ac rwy'n bwriadu astudio'r iaith a'r diwylliant ymhellach.'
'Diolch yn fawr iawn; Rwyf wedi ei fwynhau'n fawr ac yn edrych ymlaen at y digwyddiad nesaf.'
'Diolch yn fawr iawn am gyfle dysgu ardderchog - wnes i fwynhau pob munud ohono a byddaf yn bendant yn cadw llygad am ddigwyddiadau i ddod yn y dyfodol.'
'Diolch am gyflwyniad hyfryd i iaith a diwylliant Tsieina.'
'Roedd y dysgu yn rhagorol. Roedd Shan a Mengling, y prif diwtoriaid, yn ysbrydoliaeth.'
'Cefais wersi鈥檙 Ysgol Haf yn hynod ddiddorol ac roeddwn wrth fy modd 芒鈥檙 amrywiaeth o bynciau a gyflwynwyd dros yr wythnos gyfan. Yr unig welliant y gallaf ei gynnig ydi o ran hyd y cwrs; byddwn i鈥檔 mwynhau cwrs ychydig yn hirach.'
Dywedodd Dr Davitt, Cyfarwyddwr Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor, pa mor falch a diolchgar oedd hi am ymrwymiad y myfyrwyr a'r gwaith caled a wnaed gan y staff i wneud yr ysgol haf yn llwyddiant ysgubol. "Rydym wedi ymroi i gyflwyno iaith a diwylliant Tsieina i bawb, ac mae'r ymateb gwych gan y cyfranogwyr yn cryfhau ein penderfyniad i barhau i feithrin dealltwriaeth trawsddiwylliannol," meddai Dr Davitt
Mae Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn parhau鈥檔 ddi-syfl yn ei ymdrechion i ddarparu addysg o鈥檙 radd flaenaf mewn iaith a diwylliant Tsieina, ac mae mentrau o鈥檙 fath yn chwarae rhan hanfodol yn yr ymgais i gyrraedd y nod hwnnw.
Yngl欧n 芒 Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor聽 Mae Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn fenter gydweithredol rhwng Prifysgol Bangor a鈥檙 China University of Political Science and Law (CUPL) yn Beijing. Ei nod yw cynnig iaith, diwylliant ac addysg Tsieineaidd, meithrin cyd-ddealltwriaeth a phontio bylchau diwylliannol rhwng cenhedloedd.