Academydd yn ennill gwobr association of european operational research societies
Mae academydd o Brifysgol Bangor, Dr Chrysovalantis Vasilakis, sy’n uwch ddarlithydd mewn economeg, wedi ennill gwobr yr Association of European Operational Research Societies (EURO) am bapur gorau’r European Journal of Operational Research (EJOR) yn y categori Theori a Methodoleg.
Meddai Chrysovalantis, "Mae’n anrhydedd i dderbyn y wobr hon ac rwy'n falch iawn. Mae'n braf cael cydnabyddiaeth i'n hymdrechion. Mae fy nghyd-awduron a minnau'n ymfalchïo yn y papur hwn gan ei fod nid yn unig yn gwneud cyfraniad sylweddol i lenyddiaeth academaidd ond hefyd yn rhoi mewnwelediadau i lunwyr polisi ar sut y dylent ddelio â digwyddiadau annisgwyl fel COVID-19 yn y dyfodol. Ar ben hynny, mae'r wobr hon yn nodi dechrau ymdrech ar y cyd gan yr Ysgol Fusnes i symud ymlaen ymhellach ym maes dadansoddi data trwy gyflwyno a chefnogi rhaglenni academaidd newydd."