Pum munud gydag Enillwyr Cenedlaethol: Cynog Prys a Rhian Hodges
Yn dilyn eu llwyddiant yng Ngwobrau Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, aeth yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas (HGGC) ati i holi’r Dr Cynog Prys a’r Dr Rhian Hodges (CPaRH) ynghylch eu llwyddiant ac i ddod i wybod mwy am eu gwaith gwych.
Ìý
HGGC: Sut mae’n teimlo cael eich gwobrwyo â Gwobr Adnodd Cyfrwng Cymraeg Rhagorol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni?Ìý
CPaRH: Mae'n anrhydedd enfawr ennill y wobr hon. Roedd cael y cyfle i gydweithio ar y gyfres yma o adnoddau cyfrwng Cymraeg Cymdeithaseg yn brofiad gwych, yn enwedig gan ein bod wedi gallu cydweithio efo cymaint o bobol dalentog, fel y cartwnydd Huw Aaron, y dylunydd Justin Davies, a'r terminolegwyr yng Nghanolfan Bedwyr, ac, heb os, athrawon Cymdeithaseg brwdfrydig Cymru. Rydym yn hynod ddiolchgar iddyn nhw am eu cyfraniadau pwysig i'r gwaith. Diolch hefyd i'r Coleg Cymraeg am gyllido'r gwaith!Ìý
HGGC: Tybed sut ddaeth y gyfres o lyfrau cartwnau i fod?Ìý
CPaRH: Roedd y ddau ohonom yn gweld bwlch mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion ysgol sy'n astudio Lefel A Cymdeithaseg. Prin iawn oedd y ddarpariaeth. Mae yna demtasiwn wedyn i ddisgyn i astudio'r pwnc drwy gyfrwng y Saesneg, gan fod mwy o ddeunyddiau ar gael i gefnogi’r broses dysgu. Roedden ni'n gweld y gyfres hon fel cyfle i fynd i'r afael â hyn a chreu adnoddau deniadol ac apelgar. Mae'r ddau ohonom hefyd yn hoffi cartwnau ac yn gweld potensial y cyfrwng fel un a all gefnogi profiad dysgu disgyblion a myfyrwyr fel ei gilydd.Ìý
HGGC: Pam oeddech chi’n teimlo fod angen cyfres o’r fath?Ìý
CPaRH: Mae'r ddau ohonom yn gweithio yn maes cynllunio ieithyddol ac yn gweld pwysigrwydd galluogi siaradwr Cymraeg i barhau i ddefnyddio'r iaith ym mhob agwedd ar fywyd. Er bod ganddon ni ddarpariaeth Cymdeithaseg lawn ym Mhrifysgol Bangor, roedd llawer o siaradwyr Cymraeg yn ein cyrraedd ni ac wedi astudio eu Lefel A drwy gyfrwng y Saesneg. Roedden ni’n gweld y gyfres hon fel cyfle i gefnogi disgyblion ac athrawon ledled Cymru i wneud dewis positif o blaid addysg cyfrwng Cymraeg. Mae hyn yn ofnadwy o bwysig wrth ystyried dyfodol siaradwyr Cymraeg, yn enwedig wrth iddynt symud o addysg i'r gweithle.Ìý
HGGC: Mae creu a chynhyrchu’r llyfrau wedi bod yn ffrwyth cryn dipyn o gydweithio gyda gwahanol unigolion a mudiadau. Sut mae hynny wedi bwydo’r hyn sydd wedi’i gynhyrchu?Ìý
CPaRH: Roedd cael gweithio efo cartwnydd yn ffantastig. Cawsom lot o hwyl yn meddwl am gartwnau doniol, yn trafod syniadau, ac ceisio meddwl am ffurf ddeniadol i gyfleu cysyniadau cymdeithasegol allweddol mewn ffurf weledol. Gobeithio ein bod ni wedi llwyddo i greu adnoddau cofiadwy ac addysgiadol!Ìý
Roedd o'n grêt hefyd gweithio efo terminolegwyr Prifysgol Bangor i safoni termau a bathu termau newydd. Mewn nifer o achosion, nid oedd termau Cymraeg ar gyfer rhai cysyniadau cymdeithasegol. Gwnaethpwyd gwaith reit fanwl yn bathu termau newydd ac maent bellach wedi cael eu cynnwys yn y Termiadur. Rydym yn gobeithio fod hyn yn gwneud cyfraniad hirdymor i'r gwyddorau cymdeithas.Ìý
HGGC: Sut ymateb mae’r gyfres wedi’i chael?Ìý
CPaRH: Mae'r ymateb wedi bod yn wych! Mae ysgolion ledled Cymru yn defnyddio'r gyfres i ddysgu Lefel A Cymdeithaseg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae nifer o ysgolion hefyd yn defnyddio'r gyfres ar gyfer Bagloriaeth Cymru, yn enwedig y llyfr ar Ddulliau Ymchwil. Mae nifer o brifysgolion Cymru hefyd yn defnyddio'r gyfres fel cyflwyniad i'r maes, neu fel llawlyfr i gyflwyno eu myfyrwyr i hanfodion y broses ymchwil.Ìý
HGGC: Oes gennych chi brosiect cydweithredol arall ar y gweill?Ìý
CPaRH: Hoffem barhau i gynhyrchu adnoddau addysgol cyfrwng Cymraeg. Mae o'n ofnadwy o bwysig rhoi'r cyfle i bobl astudio yn y Gymraeg. Dyma ein cyfraniad bach ni tuag at y miliwn o siaradwyr Cymraeg!Ìý
HGGC: Diolch yn fawr ichi a llongyfarchiadau enfawr eto!