I nodi'r achlysur, mae'r Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd, mewn cydweithrediad 芒 th卯m Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni, yn lansio tudalen we Alumni Bangor GIG75 fel menter arbennig i anrhydeddu cyfraniadau ein cyn-fyfyrwyr i鈥檙 proffesiwn gofal iechyd.
Dros y blynyddoedd, mae Prifysgol Bangor wedi hyfforddi miloedd o raddedigion yn llwyddiannus ar gyfer gyrfaoedd yn y GIG. O nyrsys a ffisiotherapyddion i radiograffwyr, bydwragedd, meddygon cyswllt, gwyddonwyr biofeddygol, a seicolegwyr, mae cyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor wedi chwarae rhan ganolog wrth ddarparu鈥檙 gofal gorau posibl i gleifion.
Mynegodd Dr Elizabeth Mason, Pennaeth Dros Dro yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd, ei gwerthfawrogiad, gan ddweud, "Mae pen-blwydd y GIG yn 75 oed yn garreg filltir ryfeddol, sy'n arddangos y cyflawniadau a wnaed ar draws pob agwedd ar ofal iechyd. Mae wedi bod yn fraint i fod yn dyst i鈥檔 graddedigion yn cael effaith ystyrlon ar ddatblygu gofal cleifion.
Estynnir ein diolch a'n hedmygedd diffuant i'r GIG a'n cyn-fyfyrwyr uchel eu parch a byddwn yn parhau i ddathlu'r garreg filltir hynod hon yn y seremon茂au graddio sydd i ddod.
Hoffem hefyd estyn ein diolch i鈥檔 holl gydweithwyr ym Mhrifysgol Bangor, sy鈥檔 chwarae rhan hollbwysig wrth gefnogi, addysgu a pharatoi ein myfyrwyr ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae eu harbenigedd a鈥檜 hymroddiad yn cyfrannu鈥檔 sylweddol at lwyddiant ein graddedigion ac ansawdd a phroffesiynoldeb gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gynhyrchir gan Brifysgol Bangor.''
Ategodd Emma Marshall, Pennaeth y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni, 鈥淩ydym ni, ym Mhrifysgol Bangor, yn eithriadol o falch o鈥檔 cyn-fyfyrwyr sydd wedi mynd ymlaen i weithio yn y GIG. Mae cyn-fyfyrwyr Bangor yn cyfrannu mewn ffyrdd arwyddocaol i lawer ac amrywiol o feysydd ein GIG. Rydyn ni鈥檔 diolch iddyn nhw ac yn eu hanrhydeddu wrth iddynt dathlu鈥檙 pen-blwydd hwn yn 75 oed.鈥
/cy/gwyddorau-meddygol-iechyd/gig-75
Dathlu 75 Mlynedd o'r GIG: Etifeddiaeth o Ragoriaeth ym Mhrifysgol Bangor
Yr wythnos hon, rydym yn dathlu penblwydd y GIG yn 75 gyda llawenydd a balchder.