Daeth mwy na 1200 o bobl yno o bob rhan o ogledd Cymru, gan gynnwys dros 200 o blant. Yr ŵyl eleni oedd y fwyaf i’w chynnal ers sefydlu’r digwyddiad yn 2018, a llwyddodd i godi dros £5,000 i Ymddiriedolaeth Sophie Williams, gan ddangos cydweithio cymunedol ar ei orau.
Dechreuodd yr ŵyl trwy roi sylw i lesiant gyda dosbarth chi gong a dosbarth ioga, wedi eu dilyn gan weithgareddau amrywiol gan gynnwys gwaith somatig gyda Lawrence Toye, sesiwn stori a chân famol gan y ddŵla Laura o Birthing Mamams, technegau hunan-dylino yng nghwmni Kyezha y Mentor Symud, tai chi gyda Lydia, cylch merched, kirtan, baddonau sain a gofod tylino pen Indiaidd gyda Cheymoon O'Reilly. Cynhaliwyd y profiadau hyn yn y dolydd llesiant sy’n swatio hyd ymylon y coetir.
Ar y diwrnod roedd yno amrywiaeth o stondinau o’r gymuned leol ac yn eu plith Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Tyddyn Teg, Ffabrig Cwyr Gwenyn Croeso Menai ac Ynys Twca, Gardd Goedwigol Bangor, Gweithredu dros yr Hinsawdd Gogledd Cymru, Spirit of the Hedgrider, Menter Pandy. Gyda phwyslais cryf ar deuluoedd, cefnogwyd Draig Beats gan Ysgol y Goedwig Elfennau Gwyllt, perfformiadau Syrcas gan Syrcas Chimera CBC, Paula Pretzel a Freya Beath.
Roedd cerddoriaeth yn plethu’r digwyddiad ynghyd, gyda dau lwyfan yn dathlu’r talentau lleol gorau gan gynnwys Sue Denim, Jodie Melodie, Triawd Jochen Eisentraut a Martin Daws. Roedd y Babell Fawr Biws yn llwyfan i Y Band, Band Ceilidh Braichmelyn a dawnswyr bol, ac uchafbwynt y diwrnod oedd perfformiadau cyfareddol Drymbago a Banda Bacana.
Gan barhau â’i ymrwymiad i gynwysoldeb, bu Draig Beats yn gweithio mewn partneriaeth unwaith eto â Chroeso Menai i ddarparu mynediad am ddim i ffoaduriaid, gan eu galluogi i wneud cysylltiadau a dathlu eu treftadaeth trwy gelf, bwyd, dawns a cherddoriaeth.
Cynhelir yr ŵyl yn gyfan gwbl trwy waith gwirfoddolwyr – grŵp craidd o drefnwyr ymroddedig, ac yna galwad i’r gymuned a ymatebodd gydag ymroddiad mawr i’r paratoadau, ar ddiwrnod yr ŵyl ei hun ac yn dilyn hynny. Fel erioed, cawsom ein cefnogi gan grŵp o griw gwych o fyfyrwyr o bob Coleg a roddodd eu hamser o’u gwirfodd ar ôl y cyfnod arholiadau i helpu yn yr ŵyl: yn addurno’r safle, yn codi strwythurau ac yn stiwardio a chadw trefn ar y traffig ar y diwrnod. Mae hwn yn brofiad gwaith amhrisiadwy, ac yn gyfle gwych i rwydweithio a chreu cysylltiadau parhaol.
Mae’r ŵyl hefyd yn ddathliad o haelioni ac arbenigedd Prifysgol Bangor. Fe wnaeth y tîm Rheoli Ystadau a’r tîm Gwasanaethau Campws ein cefnogi gyda diogelwch, trydan a rheoli gwastraff a daeth ein cydweithwyr academaidd a ffrindiau Sophie at ei gilydd i ffurfio tîm bws mini gwych i gludo pawb yn ddiogel i’r digwyddiad ac oddi yno.
Dywedodd Iwan Williams, Uwch Swyddog Cenhadaeth Ddinesig, “Roedd yn ŵyl wych gyda rhywbeth at ddant pawb. Roedd digonedd o weithgareddau, gweithdai, stondinau, adloniant a lluniaeth ar gael, ac awyrgylch gwych, hamddenol ar ddiwrnod perffaith o haf. Mae Draig Beats yn gyfraniad arwyddocaol a phwysig i Genhadaeth Ddinesig y Brifysgol.”
Dywedodd Sarah Edgar, Aelod o Ymddiriedolaeth Sophie Williams a Chadeirydd Cyfeillion Treborth, “Mae Ymddiriedolaeth Sophie Williams yn hynod ddiolchgar am yr arian a godwyd gan wyliau Draig Beats dros y blynyddoedd. Rydym wedi gallu prynu offer i Sophie i helpu gyda rhai o’r anghenion gofal a hygyrchedd sy’n deillio o’i hanableddau cymhleth ac rydym hefyd wedi talu am waith paratoi i alluogi Sophie i ddychwelyd adref i’w chymuned yn y dyfodol. Bydd llwyddiant Draig Beats eleni yn helpu'r amcanion hyn ymhellach.
“Un o amcanion Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth yw cysylltu’r Ardd â’r gymuned leol, dangos harddwch yr Ardd i bobl a’u gwahodd i fwynhau a dysgu am yr amgylchedd naturiol. Dyma i raddau helaeth ethos Draig Beats hefyd, ac roeddem yn falch iawn o weld cymaint o bobl hapus yn mwynhau awyrgylch hyfryd yr Ardd.”
Sefydlwyd yr ŵyl hon yn wreiddiol i gefnogi Dr Sophie Williams, Darlithydd er Anrhydedd mewn Cadwraeth Planhigion yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol, ac mae’r ŵyl wedi blodeuo a datblygu i fod yn ddigwyddiad o bwys ar galendr cymunedol Gogledd Cymru. Mae gan ŵyl Draig Beats y gallu i ddatblygu’n sefydliad nid-er-elw gyda nifer o ganghennau llai ar ffurf digwyddiadau, gweithdai a grwpiau ffocws. Mae'n gyfuniad unigryw o natur, celf a gwyddoniaeth ac iddi botensial mawr.
Mae Draig Beats yn bump oed y flwyddyn nesaf felly cadwch lygad am newyddion ynglŷn â’n dathliadau hanner degawd!