Mae datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang yn greiddiol i strategaeth y Brifysgol, ac mae tablau cynghrair diweddaraf y prifysgolion bellach yn adlewyrchu鈥檙 nodau hynny. Unwaith eto, mae'r Brifysgol wedi cyrraedd y 100 uchaf, yn 64ain yn fyd-eang, ac yn 16eg yn y Deyrnas Unedig, a hynny trwy ein mesur yn erbyn Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.听 听
Defnyddiwyd y Nodau Datblygu Cynaliadwy hyn i asesu effaith gadarnhaol prifysgolion drwy adolygu 1,591 o brifysgolion ar draws y byd ar gyfer pumed cynghrair Effaith Addysg Uwch y Times.听 听
Dywedodd Dr Christian Dunn, y Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol dros Gynaliadwyedd, 鈥淢ae ein hawydd i roi cynaliadwyedd ar waith yn ystyriaeth gyson sy鈥檔 plethu trwy ein gweithgareddau a鈥檔 camau gweithredu, boed hynny trwy ein haddysgu, ein hymchwil neu wrth ymgysylltu 芒鈥檙 cyhoedd. Mae'n galonogol gweld bod y bwriad hwn yn cael ei adlewyrchu gan ein safle uchel yn y gynghrair, o gymharu 芒 sefydliadau eraill ar draws y byd. Gobeithio y bydd ein gwaith yn llusern i oleuo鈥檙 ffordd ymlaen i eraill.听 听
Ychwanegodd, 鈥淎r hyn o bryd rydym yn cynnal ymgyrch uchelgeisiol i dorri ein hallyriadau carbon deuocsid o 25% o fewn dim ond tair blynedd. Ond mae datblygu cynaliadwy yn ymwneud 芒 mwy na鈥檙 amgylchedd, ac rydym yn gweithio tuag at wella ein nodau datblygu cynaliadwy ar draws ein gweithgareddau.鈥澨 听
Cafodd Prifysgol Bangor ei mesur yn erbyn saith o 17 categori'r nodau datblygu cynaliadwy:听 Iechyd Da a Lles, Cydraddoldeb Rhywiol, Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd, Llai o Anghydraddoldeb, Treuliant a Chynhyrchu Cyfrifol, Heddwch, Cyfiawnder a Sefydliadau Cadarn a Phartneriaeth i Gyflawni鈥檙 Nodau.听