Mae鈥檙 garreg filltir hon yn nodi llwyddiant mawr gan mai nhw yw鈥檙 rhai cyntaf i gwblhau eu haddysg feddygol gynhwysfawr yn gyfan gwbl yng ngogledd Cymru. I anrhydeddu eu llwyddiannau, cynhelir dathliad arbennig i gydnabod eu swyddogaeth arloesol, eu hymroddiad a'u gwaith caled.
Wedi鈥檌 sefydlu fel partneriaeth rhwng Prifysgol Bangor, Llywodraeth Cymru, Prifysgol Caerdydd, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, nod Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yw ymdrin ag anghenion gofal iechyd y rhanbarth drwy hyfforddi meddygon yn y rhanbarth. Bydd y digwyddiad hefyd yn dathlu llwyddiant y cydweithio rhwng y timau academaidd yn y ddwy brifysgol a鈥檙 cymunedau iechyd rhanbarthol sydd wedi darparu cefnogaeth hanfodol.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: 鈥Mae'n wych gweld y myfyrwyr cyntaf a dderbyniwyd i astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Bangor yn graddio'n llwyddiannus. Nhw yw dyfodol meddygaeth yng ngogledd Cymru. Y meddygon newydd hyn yw鈥檙 cyntaf i dderbyn y rhan fwyaf o鈥檜 hyfforddiant meddygol yng ngogledd Cymru ac mae鈥檙 foment hon yn garreg filltir bwysig nid yn unig yn eu bywydau ond hefyd ar gyfer creu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, a fydd yn ein helpu i hyfforddi鈥檙 staff meddygol rydym eu hangen ar gyfer y dyfodol. Mae'n hwb gwirioneddol i ogledd Cymru a Phrifysgol Bangor a gobeithio y bydd llawer o'r meddygon newydd yn parhau 芒'u gyrfaoedd meddygol a'u hyfforddiant yng Ngogledd Cymru. Llongyfarchiadau i chi gyd. Edrychaf ymlaen at weld y garfan newydd o fyfyrwyr meddygol yn dechrau ym mis Medi.鈥
Bydd hyfforddiant annibynnol a achredir gan Brifysgol Bangor yn dechrau, yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol, yn 2024 gyda nifer y myfyrwyr yn cynyddu nes cyrraedd ei gapasiti erbyn 2029. Mae'r twf cynyddol hwn yn caniat谩u ar gyfer asesiad gofalus o ansawdd addysg a phrofiad myfyrwyr ac mae'n darparu cam allweddol yn nhaith Prifysgol Bangor i sicrhau achrediad annibynnol y Cyngor Meddygol Cyffredinol.
Mae sefydlu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn adlewyrchu ymroddiad y brifysgol i ddarparu cyfleoedd addysgol sydd 芒 chysylltiadau dwfn 芒'r gymuned leol.听
Ychwanegodd yr Athro Mike Larvin, Pennaeth Gweithredol Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd y Brifysgol, "Rydym yn hynod falch o鈥檙 dosbarth cyntaf sydd wedi astudio Meddygaeth yn gyfan gwbl o fewn ein rhanbarth, ac rydym eisiau rhoi鈥檙 cyfle cyffrous i hyd yn oed rhagor o fyfyrwyr fod yn rhan o鈥檔 cymunedau bywiog yng ngogledd Cymru ar gyfer eu blwyddyn gyntaf o astudiaethau clinigol. Ein nod yw meithrin myfyrwyr meddygaeth sy'n cael eu haddysgu yn y rhanbarth a'u hannog i aros, gan helpu i fynd i'r afael 芒'r her o recriwtio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ogledd Cymru. 听Mae鈥檙 gefnogaeth ragorol a diwyro gan ein partneriaid ym Mhrifysgol Caerdydd wedi bod yn hollbwysig i lwyddiant y cydweithio presennol ac wedi paratoi鈥檙 ffordd ar gyfer symud ymlaen tuag at Ysgol Feddygol annibynnol yng ngogledd Cymru.鈥
Yn ymuno 芒鈥檙 garfan i ddathlu eu llwyddiannau oedd y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, yr Athro Chris Jones a ddywedodd:听鈥淩wy鈥檔 falch o fod yn rhan o鈥檙 dathliad hwn ym Mhrifysgol Bangor, wrth i鈥檙 flwyddyn gyntaf o fyfyrwyr meddygaeth ym Mangor gwblhau eu cwrs. Mae hon yn garreg filltir bwysig ac yn gam cyntaf cyffrous wrth ehangu hyfforddiant meddygol yng ngogledd Cymru a recriwtio a chadw meddygon yn y rhanbarth. Mae gan Ysgol Feddygol Gogledd Cymru botensial enfawr a bydd myfyrwyr, cleifion a'r gwasanaeth iechyd yn elwa o hyn. Rwy鈥檔 llongyfarch pawb sy鈥檔 graddio eleni ac yn dymuno pob lwc iddynt yn eu gyrfaoedd meddygol.鈥
听