Prifysgol Bangor yn addo mynd i'r afael 芒 stigma iechyd meddwl yn y gweithle
Mae Prifysgol Bangor wedi arwyddo Adduned Cyflogwr .
Mae'r addewid yn ddatganiad cyhoeddus bod y Brifysgol wedi ymrwymo i fynd i'r afael 芒 stigma iechyd meddwl a gwahaniaethu o amgylch iechyd meddwl, ac mae cynllun gweithredu yn amlinellu'r camau y bydd Prifysgol Bangor yn eu cymryd fel rhan o'r addewid.
Ariennir Amser i Newid Cymru gan Lywodraeth Cymru a鈥檌 ddarparu ar y cyd gan Adferiad/Recovery a Mind Cymru ac, ac yn ddiweddar cyflwynodd y sefydliad sesiwn ymwybyddiaeth i hyrwyddwyr lles staff a hyfforddwyr lles newydd Prifysgol Bangor.
Mae 2 o bob 5 gweithiwr yng Nghymru yn cael eu heffeithio gan broblemau iechyd meddwl fel gorbryder, iselder a straen lle'r oedd bywyd gwaith yn ffactor a gyfrannodd. Datgelodd arolwg o fwy na 44,000 o weithwyr mai dim ond hanner y rhai a oedd wedi profi iechyd meddwl gwael oedd wedi siarad 芒鈥檜 cyflogwr amdano, gan awgrymu bod cymaint ag 1 o bob 4 o weithwyr y DU yn cael trafferth yn dawel, sy鈥檔 atgyfnerthu鈥檙 stigma ynghylch iechyd meddwl (Mental Health at Work: Time to take Ownership, Business in the Community, 2019).
Dywedodd Rachelle Bright o Amser i Newid Cymru yn y lansiad swyddogol yr wythnos hon:
鈥淩wy鈥檔 falch iawn o fod yma ym Mhrifysgol Bangor yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl i weld y brifysgol yn llofnodi Adduned Cyflogwr Amser i Newid.
"Mae Amser i Newid Cymru yn falch iawn o gefnogi Prifysgol Bangor i dorri'r distawrwydd o amgylch iechyd meddwl ymhellach. Dychmygwch pe bai pob sefydliad yng Nghymru yn gwneud addewid cyhoeddus i fynd i'r afael 芒 stigma: cyflogwyr mawr a bach, cynghorau, prifysgolion, clybiau p锚l-droed, addoldai, elusennau鈥 byddai鈥檔 anfon neges bwerus bod iechyd meddwl yn rhywbeth y gellir siarad amdano, ac nad oes croeso i stigma a gwahaniaethu!鈥
Dywedodd yr Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-ganghellor gyda chyfrifoldeb am yrru agenda iechyd a lles Prifysgol Bangor,
鈥淢ae鈥檙 addewid hwn yn ymrwymiad cyhoeddus i newid y ffordd yr ydym yn meddwl ac yn gweithredu am iechyd meddwl ar bob lefel o Brifysgol Bangor.
鈥淓r mwyn arwyddo鈥檙 Addewid, cyflwynwyd cynllun gweithredu yn manylu ar yr hyn y byddem fel sefydliad yn ei wneud. Ymysg y pwyntiau gweithredu mae gwneud iechyd meddwl a lles yn rhan o鈥檙 broses sefydlu, annog staff i rannu straeon am sut y maent yn cefnogi eu hiechyd meddwl a鈥檜 lles eu hunain, trefnu digwyddiadau a hyfforddiant ar y pynciau hyn, a chyfeirio a chodi ymwybyddiaeth yn gyffredinol ar draws y brifysgol. Rwy鈥檔 gobeithio y byddwn ni i gyd yn gadael y digwyddiad yma heddiw gan fyfyrio ar sut rydyn ni鈥檔 cyfathrebu 芒鈥檔 gilydd ac yn cefnogi ein gilydd dros y blynyddoedd i ddod.鈥
Am ragor o fanylion am Amser i Newid Cymru ewch i
Am ragor o wybodaeth ynglyn 芒 iechyd a lles ym Mhrifysgol Bangor, ewch i /cy/iechyd-a-lles