Mae’r diwydiant twristiaeth yn gwella’n gyflym ar ôl bron i 2 flynedd o gyfnod clo oherwydd COVID-19, meddai Dr Linda Osti, sy’n arwain y cwrs rheoli twristiaeth newydd ym Mhrifysgol Bangor ac sy’n arbenigwraig ar ymddygiad defnyddwyr mewn Twristiaeth.
“Mae angen graddedigion medrus a gwybodus newydd os ydym am i dwristiaeth gynnal lles y cymunedau sy’n eu croesawu. Y Pasg yw dechrau tymor haf newydd ar gyfer cyrchfannau a rhai sy’n rhedeg busnesau twristiaeth ledled Ewrop, gyda sawl cyrchfan yn gweithredu gwahanol strategaethau i reoli llif ymwelwyr, sicrhau diogelwch, osgoi tarfu ar gymunedau, ac yn y pen draw, cynyddu boddhad ymwelwyr.”
“Er enghraifft, mae tref Portofino yn yr Eidal ardaloedd “parth coch” mewn dau fan sy’n boblogaidd iawn ar instagram, lle gallai cerddwyr gael dirwy o hyd at € 275 os ydyn nhw'n stopio am gyfnod rhy hir wrth dynnu llun neu edmygu harddwch y golygfeydd.
“Mae Fenis unwaith eto wedi trafod strategaeth i gyflwyno tâl mynediad i ymwelwyr dydd yn amrywio o €3 i €10 yn dibynnu ar y nifer a ragwelir o gyrraedd, ac mae ymwelwyr dros nos eisoes , tra’n agosach at adref yng ngogledd Cymru, cafodd bron i 40 o gerbydau eu symud yn Llyn Ogwen a Phen y Pass ar ddechrau gwyliau’r Pasg.”
Dyna un o’r rhesymau pam oedd yn hanfodol i Ysgol Busnes Bangor sicrhau y byddai ei rhaglen radd BSc newydd mewn rheoli twristiaeth yn cael ei theilwra i anghenion sector mor ddeinamig, gan helpu myfyrwyr ac eraill sy'n ymwneud â'r sector twristiaeth i ddeall yr angen i gydbwyso anghenion economaidd a chymdeithasol-ddiwylliannol y cymunedau croeso, wrth gynnig profiadau cofiadwy i dwristiaid.
Meddai Dr Osti, “Fel prifysgol sydd wedi’i lleoli mewn ardal rhwng y mynyddoedd a’r môr sydd mor adnabyddus fel cyrchfan i dwristiaid, a gyda thirwedd llechi Gogledd Orllewin Cymru wedi’i dynodi’n statws Treftadaeth y Byd yn ddiweddar, rydym yn gallu tynnu ar arbenigedd lleol sy’n arwain y diwydiant mewn sawl agwedd o dwristiaeth yma ar garreg ein drws, yn ogystal â’n cysylltiadau â diwydiant ledled y DU a ledled y byd.”
“Mae siarad â busnesau sy’n lleol i ni yma fel Halen Môn, y Sw Fynydd Gymreig, a Pharc Cenedlaethol Eryri wedi ein galluogi ni i ddarganfod pa sgiliau sydd eu hangen ar fusnesau a sefydliadau twristiaeth go iawn wrth drafod swyddi ar lefel graddedigion.
“Dyma rai o’r cwestiynau mawr i arweinwyr twristiaeth ar hyn o bryd: sut mae defnyddio’r datblygiadau cyffrous o ran argaeledd data amser real a realiti estynedig i wneud twristiaeth yn ddoethach? Sut mae gwneud twristiaeth yn fwy gwydn, yn fwy cynaliadwy, a’i wneud i weithio'n well gyda'r gymuned ehangach? Beth yw’r tueddiadau mawr sy’n newid ymddygiad defnyddwyr o ran twristiaeth?”
“Mae ein cwrs wedi’i gynllunio i roi’r sylfaen hollbwysig honno mewn theori i fyfyrwyr, ac yna symud ymlaen i astudiaeth fwy cymhwysol yn yr ail a’r drydedd flwyddyn, gyda theithiau maes i fusnesau twristiaeth. Mae prosiect cymhwysol gyda sefydliad twristiaeth hefyd wedi'i ymgorffori fel rhan o'r cwrs, yn ogystal ag opsiwn i ymgymryd â blwyddyn leoliad ychwanegol naill ai yn y DU neu dramor.”
Er bod y rhaglen radd hon yn newydd, mae’n debyg bod Prifysgol Bangor wedi chwarae rhan arwyddocaol yn natblygiad theori twristiaeth dros y blynyddoedd.
“Pan fydd myfyrwyr yn astudio twristiaeth, un o’r damcaniaethau cyntaf y byddan nhw’n ei astudio fydd y lluosydd twristiaeth, sy’n esbonio sawl gwaith mae’r arian sy’n cael ei wario gan dwristiaid yn cylchredeg trwy economi gwlad.
“Datblygodd yr Athro Brian Archer, sy’n enw adnabyddus ym maes economeg twristiaeth, fodelau lluosydd am y tro cyntaf yn ystod ei gyfnod ym Mhrifysgol Bangor, gan edrych yn gyntaf ar sut roedd gwariant twristiaeth yn ffurfio rhan sylweddol o economi Ynys Môn a Gwynedd, cyn i’w ymchwil yma fynd a fo ar draws y byd i gynnal astudiaethau effaith twristiaeth.
“Dechreuodd dau economegydd o fri rhyngwladol sy'n adnabyddus am eu gwaith arloesol ym maes effaith twristiaeth, yr Athro Stephen Wanhill a'r Athro John Fletcher, eu gyrfaoedd ym Mangor hefyd dan oruchwyliaeth gychwynnol Brian Archer.
“Gyda’r hanes balch yma mewn cof, mae Prifysgol Bangor yn edrych ymlaen at chwarae rhan mewn arfogi myfyrwyr â’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lunio diwydiant twristiaeth lwyddiannus a chynaliadwy.”
I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs, cliciwch