Nid yw’r wybodaeth yn y yn seiliedig ar wybodaeth sydd wedi’i darparu gan y prifysgolion, ond yn hytrach, mae’n defnyddio pedwar maen prawf: addysg, cyflogadwyedd, cyfadran ac ymchwil er mwyn llunio tabl. Mae’r tabl yn cynnwys dros 20,500 o brifysgolion yn fyd-eang ac yn ystyried 62 miliwn o bwyntiau data.
Mae Prifysgol Bangor yn perfformio’n dda ym meysydd addysg a chyfadran o ystyried ei maint, gan gael ei chynnwys yn y 200 uchaf, a mymryn tu hwnt i’r 250 uchaf am y naill a’r llall. Mae’r meini prawf hyn yn canolbwyntio ar lwyddiant academaidd cymuned graddedigion a staff academaidd y Brifysgol, gan ystyried faint sydd wedi derbyn gwobrau a medalau o bwys fel gwobrau Nobel a Turing, a Medal Fields o gymharu â maint y Brifysgol.
Gan groesawu’r canlyniadau diweddaraf, dywedodd Michael Wilson, Prif Swyddog Strategaeth a Chynllunio, Prifysgol Bangor.
“Mae tablau cynghrair yn un o nifer o adnoddau mae darpar fyfyrwyr ac eraill yn eu defnyddio wrth ystyried pa brifysgol i’w dewis. Rwy’n falch o gael dweud bod y tablau cynghrair hyn yn adlewyrchu enw da cynyddol yn rhyngwladol sydd i’r brifysgol. Rydym yn cynnal ymchwil wych ac mae ein haddysgu dan arweiniad ymchwil yn cynhyrchu graddedigion sy’n mynd yn eu blaenau i wneud gwahaniaeth yn y byd.”
Mae CWUR yn gorff ymgynghori sy’n cyhoeddi cynghrair byd eang awdurdodol ar gyfer prifysgolion. Cânt eu hadnabod am eu gwrthrychedd, tryloywder, a’u cysondeb, ac mae gan fyfyrwyr, academyddion, gweinyddwyr prifysgol a llywodraethau ffydd ynddynt.
Mae’r tabl cynghrair diweddaraf yn dilyn cyhoeddiad cynghrair byd-eang arall yn ddiweddar, y tro hwn yn canolbwyntio ar ansawdd ymchwil prifysgolion. Roedd argraffiad 2023 y QS World University Rankings by Subject<https://www.qs.com/rankings-released-qs-world-university-rankings-by-subject-2023/> yn ystyried data o 1,500 o sefydliadau ledled y byd, gyda thua 160 o brifysgolion ym Mhrydain. Gosodwyd y brifysgol mewn chwe thabl disgyblaeth.