Papur yn gwrthbrofi honiad y gellir cymharu effeithiau treillio ar waelod y môr ar garbon glas â rhai teithio awyr byd-eang
Gallai symudiadau i ddefnyddio credydau carbon a gronnwyd drwy wahardd treillio fod yn cyfeirio ymdrechion oddi wrth ddulliau mwy effeithiol.
Yn sy’n meintioli manteision dod â threillio gwaelod y môr i ben ar allyriadau carbon mae'r Athro Jan Hiddink o Ysgol Gwyddorau Eigion byd-enwog Prifysgol Bangor, ac eraill, yn esbonio bod y fethodoleg a ddefnyddiwyd yn y papur gwreiddiol yn llawer rhy syml ac yn goramcangyfrif allyriadau carbon yn fawr. Wrth gyfrifo'r CO2 a ryddheir trwy dreillio ar waelod y môr, roedd y papur yn modelu faint o garbon a derfid arno, a thybiai’r awduron y trawsnewidid y rhan fwyaf o hwn yn CO2. Fodd bynnag, byddai’r rhan fwyaf o’r carbon organig hwn ar wely’r môr yn dadelfennu ac yn cael ei ryddhau fel CO2 ni waeth a yw treillio ar waelod y môr yn tarfu arno ai peidio. Dengys Hiddink et al. felly mai dim ond cyfran fach iawn o garbon gwely'r môr sy'n ymateb i’r tarfu arno drwy dreillio.
“Mae manteision dod â threillio ar waelod y môr i ben ar leihau carbon wedi’u gorbwysleisio yn aruthrol yn y papur hwn” eglura Hiddink. “Er bod treillio ar waelod y môr yn ddi-os yn tarfu ar y fflwcsau carbon naturiol ac yn tarfu ar fyd natur y gwaelodion, mae llifoedd carbon gwely'r môr yn gymhleth iawn ac mae angen ymchwilio ymhellach iddynt.
Gan gwestiynu a oedd yr amcangyfrifon yn y papur yn realistig, adolygodd Hiddink 49 o astudiaethau eraill ar y gwahaniaethau CO2 a fesurwyd cyn ac ar ôl treillio – ac roedd y canfyddiadau’n amrywio, gyda 60% o’r papurau’n canfod dim effaith arwyddocaol, 29% yn canfod carbon organig is a 10% yn canfod mwy. Pe bai canfyddiadau Sala et al yn gywir, oni chai’r niferoedd enfawr ac arwyddocaol hyn eu hadlewyrchu yn yr astudiaethau hyn?
Mae Hiddink yn dadlau bod papur Sala wedi drysu’r carbon ffres yn yr haen uchaf, a ryddheid yn gyflym gan brosesau naturiol beth bynnag, gyda’r carbon llawer llai adweithiol a storir yn y gwaddod dyfnach. Gan y trawsnewidir carbon yr haen arwynebol yn CO2 beth bynnag, nid yw cymryd yn ganiataol bod treillio yn effeithio arno yn gwneud unrhyw synnwyr, ac mae'n chwyddo'r allyriadau CO2 tybiedig yn aruthrol.
Awgryma Hiddink y byddai ffigur sydd rhwng cant a mil gwaith yn is na’r hyn a gyfrifwyd ym mhapur Sala o ran faint o garbon a ryddheir drwy dreillio yn fwy priodol.
“Dydym ni ddim yn gwybod digon am yr hyn y mae treillio ar y gwaelodion yn ei wneud i storfeydd carbon gwely'r môr i allu gwneud amcangyfrifon byd-eang cadarn am effeithiau treillio ar y gwaelod.
“Mae defnyddio’r ffigurau hyn yn peri pryder, gan fod llawer o lywodraethau a sefydliadau eraill yn cynnig gwahardd treillio ar waelod y môr a defnyddio’r ‘credydau carbon’ i wrthbwyso gweithgareddau eraill. Fodd bynnag, os caiff allyriadau carbon eu goramcangyfrif yn sylweddol, rydym ni mewn perygl o gynyddu allyriadau CO2 yn gyffredinol gan leihau’r cyflenwad bwyd byd-eang ar yr un pryd”.