Plant Cymru鈥檔 cael lleisiau synthetig trwy Ddeallusrwydd Artiffisial
Mae Prifysgol Bangor a CereProc wedi ennill contract i gyflenwi 16 o leisiau synthetig pwrpasol i Wasanaeth Iechyd Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc yn eu harddegau. Bydd hynny鈥檔 fodd i chwalu鈥檙 rhwystrau i gyfathrebu y mae plant Cymru yn eu hwynebu wrth ddefnyddio dyfeisiau cyfathrebu uwch-dechnolegol trwy roi llais iddynt sy鈥檔 adlewyrchu pwy ydynt a鈥檜 cefndir diwylliannol.
听Mae angen offer cyfathrebu ar oddeutu 330,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig i'w helpu nhw siarad, oherwydd amrywiaeth o afiechydon ac anawsterau dysgu. Caiff offer Cyfathrebu Atodol ac Amgen (AAC) ei ddefnyddio i ategu a gwella sgiliau cyfathrebu cyfyngedig, ond i blant bu'n anodd dod o hyd i acenion rhanbarthol sy'n briodol i'w hoedran. 听
Caiff y lleisiau pwrpasol eu creu gyda lleisiau gwrywaidd a benywaidd (plant a phobl ifanc yn eu harddegau) ac acenion y gogledd a鈥檙 de, a byddant ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Bydd pob un o鈥檙 16 llais yn barod i鈥檞 defnyddio cyn hydref 2023.
Mae CereProc yn cydweithio ag Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor, sef uned ymchwil hunan-gyllidol sy鈥檔 arbenigo mewn Technolegau Iaith ar gyfer ieithoedd sydd 芒 llai o adnoddau, a鈥檙 Gymraeg yn bennaf. Mae ganddi arbenigedd mewn Safoni Termau, Prosesu Iaith Naturiol (NLP) a Thechnolegau Llais (Testun i Leferydd [TTS], Adnabod Lleferydd [ASR]).
Bu CereProc, partner arweiniol y project, yn gweithio ar broject a ariannwyd gan Lywodraeth yr Alban 'n' 听a bydd yn gyfrifol am greu'r lleisiau synthetig ac am roi cefnogaeth barhaus. 听Bydd yr Uned Technolegau Iaith yn gyfrifol am ddod o hyd i ddoniau Cymraeg a bydd yn darparu gwybodaeth Ieithyddol Gymraeg. Caiff y lleisiau eu creu trwy ddefnyddio uwch dechnoleg Deallusrwydd Artiffisial / DNN CereWave CereProc.
Dywedodd Dr Jeffrey Morris, Pennaeth Gwasanaeth Technoleg Gynorthwyol Electronig GIG Cymru ac arweinydd cyflwyno lleisiau newydd Cymru: 鈥淥herwydd y costau datblygu, yn anffodus, yn y gorffennol methodd y cwmn茂au sy鈥檔 gweithredu yn y maes 芒 blaenoriaethu tafodieithoedd a modelau iaith, ac felly rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am gamu i鈥檙 adwy ac ariannu鈥檙 gwaith pwysig hwn a fydd yn cael effaith aruthrol ar y plant sy'n dibynnu ar y dyfeisiau. Rhagwelwn y bydd y lleisiau newydd yn lleihau鈥檙 rhwystrau i blant sy鈥檔 defnyddio dyfeisiau cyfathrebu uwch-dechnolegol yng Nghymru, a chaniat谩u iddynt siarad ag acen ac iaith sy鈥檔 debyg i鈥檞 teulu a鈥檜 cyfoedion.鈥
Dywedodd yr Athro Delyth Prys 鈥 Pennaeth yr Uned Technolegau Ieithoedd: 鈥淢ae Prifysgol Bangor yn hapus iawn i weithio gyda CereProc ar y project hwn. Mae鈥檙 cyfuniad o arbenigedd synthesis lleferydd masnachol CereProc a phrofiad a gwybodaeth Bangor o dechnoleg lleferydd i鈥檙 iaith Gymraeg yn ffrwythlon iawn a gobeithiwn barhau 芒鈥檙 bartneriaeth lwyddiannus honno yn y dyfodol鈥.
Dywedodd Paul Welham 鈥 Cadeirydd Gweithredol CereProc 鈥淢ae dyfarnu鈥檙 contract i greu 16 o leisiau Deallusrwydd Artiffisial synthetig pwrpasol ar y cyd 芒 Bangor yn gamp a hanner i鈥檙 ddau sefydliad. Mae'n dangos yn glir mai strategaeth CereProc o weithio mewn partneriaeth 芒 sefydliadau, megis Bangor, NLB (Norwy) ac MTM (Sweden), yw'r un iawn. Mae鈥檙 strategaeth honno鈥檔 darparu lleisiau a gynhyrchir gan Ddeallusrwydd Artiffisial i unrhyw sefydliadau鈥檔 gost effeithiol, ar gyfer bron pob dyfais.鈥澨
Ychwanegodd 鈥淏u gweithio gyda鈥檙 t卯m ym Mangor yn llwyddiant mawr ac yn bleser o鈥檙 mwyaf.鈥
听