Meddwl v. Canfod: Mae gwahaniaethau ymenyddol yn awgrymu bod plant ac oedolion yn defnyddio gwahanol strategaethau i ddeall rhyngweithio cymdeithasol
Mae deall ystyr rhyngweithiadau cymdeithasol yn allu dynol pwysig sy'n dibynnu ar ddehongli gwahanol fathau o wybodaeth gymdeithasol. Er enghraifft, canfod gwybodaeth am y corff a'r wyneb, a deall bwriadau pobl eraill. Trwy brofiad cymdeithasol helaeth, gall oedolion ddeall senarios cymdeithasol cymhleth yn gymharol hawdd. I鈥檙 gwrthwyneb, mae plant yn gorfod dysgu meistroli galluoedd cymdeithasol cymhleth, ac mae deall sut y cyflawnir hyn yn nod pwysig ym maes seicoleg ddatblygiadol a niwrowyddoniaeth.
Mae cydweithrediad diweddar rhwng ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor (Kami Koldewyn) a Phrifysgol Coimbra ym Mhortiwgal (Jorge Almeida; Jon Walbrin - Prifysgol Bangor gynt) yn datgelu gwahaniaeth ymenyddol trawiadol rhwng oedolion a phlant sydd o bosib yn esbonio鈥檙 gwahaniaethau datblygiadol o ran deall rhyngweithio cymdeithasol. Roedd yr astudiaeth ddelweddu magnetig swyddogaethol - a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn y Journal of Neuroscience - yn cynnwys sganio ymennydd plant (6-12 oed) ac oedolion (18+) wrth iddynt wylio fideos byr o 2 o bobl yn rhyngweithio. Mesurwyd ymatebion actifadu yn y swlcws arleisiol uwch - y rhan o鈥檙 ymennydd sy'n ymwneud 芒 phrosesu rhyngweithiadau cymdeithasol yn weledol - a'u cyfuno 芒 mesurau cysylltedd 芒 rhannau eraill o'r ymennydd. Mae'r canlyniadau'n dangos, mewn oedolion, bod ymateb y swlcws arleisiol uwch i ryngweithio cymdeithasol yn gysylltiedig 芒 chysylltedd 芒 rhannau o鈥檙 ymennydd sy'n ymwneud 芒 phrosesu gwybodaeth corff statig a deinamig; ond mewn plant, mae ymateb y swlcws arleisiol uwch yn gysylltiedig 芒 chysylltedd 芒 rhannau o鈥檙 ymennydd sy'n ymwneud 芒 llunio barn gymdeithasol ddyfnach am syniadau a chredoau cudd pobl eraill (proses a elwir yn 鈥渕entalise鈥 yn Saesneg).
Meddai鈥檙 prif awdur Jon Walbrin: 鈥Mae鈥檙 rhan fwyaf o鈥檙 astudiaethau niwrowyddoniaeth gymdeithasol blaenorol wedi canolbwyntio ar fesur ymatebion i bobl eraill fel unigolion. Ond yn fwy diweddar, mae diddordeb cynyddol mewn deall ymatebion yr ymennydd i bobl eraill yng nghyd-destun rhyngweithiadau cymdeithasol. Ond ychydig iawn sy'n hysbys ar hyn o bryd am sut mae ymatebion o'r fath yn datblygu yn ystod plentyndod. Mae鈥檙 canlyniadau hyn yn awgrymu y gallai plant ac oedolion ddefnyddio gwahanol strategaethau i ddeall rhyngweithio: Mae oedolion yn dibynnu mwy ar wybodaeth weladwy sy'n seiliedig ar y corff, tra bod plant - sydd 芒 llai o brofiad cymdeithasol - yn gorfod ymdrechu i ymresymu am yr hyn y mae eraill yn ei feddwl ac yn ei deimlo wrth ryngweithio. Mae hyn yn debygol o adlewyrchu'r broses o ddysgu deall ymddygiad rhyngweithiol鈥.
Meddai Kami Koldewyn 'Mae canlyniadau鈥檙 astudiaeth yn ein helpu i ddeall yn well sut mae rhwydweithiau'r ymennydd sy'n ymwneud 芒 gwybyddiaeth gymdeithasol yn newid yn ystod datblygiad. Nid oes rhaid i'r rhan fwyaf o oedolion feddwl er mwyn deall rhyngweithiadau cymdeithasol; maent yn gallu deall rhyngweithio cymdeithasol cymhleth trwy ddefnyddio gwybodaeth weladwy yn unig. Efallai bod rhaid i blant, sydd 芒 llawer llai o brofiad cymdeithasol, feddwl am fwriadau a theimladau'r bobl er mwyn deall senarios cymdeithasol o'r fath. Mae'r newidiadau yn y rhwydweithiau sy'n cefnogi dealltwriaeth gymdeithasol yn ystod datblygiad yn debygol o adlewyrchu newidiadau ymenyddol wrth i blant ddysgu am y byd cymdeithasol, gan gynnwys sut i ragfynegi a deall yr ymwneud cymdeithasol maent yn ei weld o'u cwmpas.
Mae鈥檙 canlyniadau hyn yn gam pwysig tuag at ddeall yn well sut mae鈥檙 ymennydd yn datblygu yn ystod plentyndod, ac mae鈥檙 awduron yn awgrymu y dylid ceisio cymharu ymatebion tebyg yn ystod llencyndod yn ogystal ag ymhlith oedolion h欧n yn y dyfodol.