Prifysgol Bangor yn arddangos ymchwil i Brif Ymgynghorydd Gwyddonol Cymru
Heddiw, croesawodd Prifysgol Bangor Brif Ymgynghorydd Gwyddonol newydd Cymru, yr Athro Jas Pal Badyal, wrth iddo gychwyn ar daith o amgylch prifysgolion Cymru.
Mae’r Prif Ymgynghorydd Gwyddonol yn awyddus i wybod sut mae prifysgolion Cymru yn arwain y ffordd mewn ymchwil wyddonol o’r radd flaenaf sy’n mynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf sy’n wynebu dynoliaeth, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, diraddiad amgylcheddol, ynni adnewyddadwy, diogelu'r cyflenwad bwyd, gofal iechyd ac anghydraddoldebau cymdeithasol cynyddol.
Dangosodd Prifysgol Bangor beth o'i hymchwil ym meysydd yr amgylchedd, iechyd a lles pobl a'r blaned, a chynaliadwyedd.
Ymunodd rhai o’r ymchwilwyr sy'n creu effeithiau yn y byd go iawn, â thrafodaeth bord gron gyda'r Athro Badyal. Roedd y pynciau trafod yn cynnwys: ehangu’r ymchwil, dan arweiniad Prifysgol Bangor, i brofi dŵr gwastraff am COVID-19 er mwyn cynnwys clefydau trosglwyddadwy eraill, gwaith ym maes gwerthuso effaith cadwraeth ac effaith ymyriadau cadwraeth megis gwrthbwyso bioamrywiaeth ac ardaloedd gwarchodedig, ymchwil i faterion amgylcheddol megis newid yn yr hinsawdd, ac ymchwil a wnaed ym maes biotechnoleg amgylcheddol a datblygu deunyddiau pacio a deunyddiau adeiladu cynaliadwy.
Cafodd y Prif Ymgynghorydd Gwyddonol a chydweithwyr o’r brifysgol hefyd glywed y datblygiadau diweddaraf am y Sefydliad Dyfodol Niwclear, y Ganolfan Prosesu Signalau Digidol, ac am sefydlu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor.
Bu’r Athro Badyal hefyd yn ymweld â pharc gwyddoniaeth M-SParc, is-gwmni dan berchnogaeth lwyr Prifysgol Bangor, ar Ynys Môn i drafod symud ymchwil i mewn i’r farchnad gyda busnesau gwyddonol yng Ngogledd Cymru gan gynnwys tenantiaid M-SParc, sef Animated Tech ac EcoMetrics, a chymdeithas dai Adra, yn ogystal â chynrychiolwyr Uchelgais Gogledd Cymru, Menter Môn a Chyngor Môn.
Dywedodd Paul Spencer, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ac Arloesi, “Roedd hwn yn gyfle gwych i groesawu Prif Ymgynghorydd Gwyddonol newydd Cymru ac i arddangos ymchwil blaenllaw Prifysgol Bangor a’i budd cymdeithasol.”
Rwyf wedi bod yn falch iawn o gwrdd ag ymchwilwyr gwyddonol yn ystod fy ymweliad heddiw a dysgu mwy am uchelgais Prifysgol Bangor o ran troi ymchwil wyddonol yn fudd economaidd a chymdeithasol i bobl Cymru a thu hwnt.