Mae Achrediad Rhyngwladol Cadwraeth y Gerddi Botaneg (BGCI) ar gyfer sefydliadau botanegol sy'n dymuno sefydlu eu rhinweddau ac mae cyflawni’r achrediad yn dangos bod yr Ardd yn cydymffurfio â'r safonau rhyngwladol uchaf fel gardd fotaneg.
Dywedodd y curadur, Natalie Chivers, “Dyma benllanw dros ddwy flynedd o waith i ddangos ein bod yn bodloni’r meini prawf llym i ennill cydnabyddiaeth y BGCI fel Gardd Fotaneg Achrededig, sy’n ein gosod ar y llwyfan rhyngwladol gyda gerddi botaneg eraill o fri fel Gardd Fotaneg Frenhinol Caeredin, Gardd Fotaneg Prifysgol Caergrawnt, yr Eden Project a’r ardd sy’n bartner inni yng Nghymru, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ymhlith llawer o sefydliadau eraill o bwys ledled y byd. Bu Paul Smith, Swyddog Cofnodion Planhigion gwirfoddol, wrthi am fisoedd lawer yn casglu ac yn paratoi’r dystiolaeth ac yn cysylltu â BGCI a rhanddeiliaid eraill, i’n helpu ni lunio’r cais a’i gyflwyno. Dyma lwyddiant i’r Ardd Fotaneg ar y cyd â Chyfeillion Gardd Fotaneg Treborth, sy’n darparu miloedd o oriau o gymorth gwirfoddol i’r Ardd bob blwyddyn”.
Caiff Gerddi Botaneg sy'n gwneud cais am Achrediad eu hasesu ar feini prawf sy'n cwmpasu arweinyddiaeth, arbenigedd garddwriaethol arbenigol, rheoli casgliadau, addysg gyhoeddus, gweithgareddau cymunedol a diwylliannol, gweithredoedd cadwraeth, ymchwil gwyddonol, staff, rhwydweithio a chynaliadwyedd.
Dywedodd Paul Smith, “Pan welais yr ohebiaeth oddi wrth BGCI yn dweud y bu’r cais yn llwyddiannus, roeddwn wrth fy modd ac roedd yn rhyddhad hefyd. Bu’n broses fanwl iawn a oedd cwmpasu llawer o wahanol agweddau o Dreborth nad oeddwn wedi’u gwerthfawrogi’n llawn cyn dechrau helpu gyda’r gwaith hwn. Yn ogystal â darparu crynodeb a throsolwg o gasgliad planhigion Treborth, rydym wedi cyflwyno rhestrau o ddwsinau o bapurau ymchwil a thraethodau ymchwil a wnaed yn Nhreborth, sy’n dogfennu’n fanwl ein cyfraniad helaeth at addysg myfyrwyr prifysgol a’r cyhoedd, ac eglurodd ein rôl o ran lles ymwelwyr, a rhoddodd dystiolaeth o’n gwaith cadwraeth ar nifer o rywogaethau prin iawn megis y Cotoneaster cambricus sydd mewn perygl difrifol ac sy'n tyfu ar y Gogarth yn unig a hynny dim ond 20 milltir ar hyd yr arfordir o'r Ardd Fotaneg. Dyma gydnabyddiaeth haeddiannol i bopeth a gyflawnodd Treborth a phroffesiynoldeb y staff a’r gwirfoddolwyr.”
Mae BGCI yn gweithio gyda dros 800 o erddi botaneg mewn 118 o wledydd, y mae eu gwaith cyfunol yn ffurfio’r rhwydwaith cadwraeth planhigion mwyaf yn y byd. Daw’r Achrediad 60 mlynedd ar ôl sefydlu Gardd Fotaneg Treborth ac mae’n nodi cyfnod newydd cyffrous yn ei datblygiad o fewn y Brifysgol a’r gymuned gadwraeth fyd-eang.