Mae cynllun sy’n torri tir newydd, gyda’r nod o ysbrydoli brwdfrydedd am ddysgu ymhlith plant a phobl ifanc yng ngogledd Cymru drwy hyrwyddo mynediad at weithgareddau allgyrsiol, yn cael ei ymestyn ar ôl sicrhau cyllid gwerth dros £800,000.
Bydd Prifysgol Bangor yn gweithio gyda Prifysgol Glyndŵr Wrecsam (PGW) a nifer o bartneriaid eraill i roi’r cynllun dan brawf dros y flwyddyn nesaf fel rhan o ymrwymiad i genhadaeth ddinesig gyffredin i weithio mewn partneriaeth er mwyn rhoi diwedd ar anghydraddoldeb cymdeithasol yn y rhanbarth.
Bydd y cyllid newydd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn galluogi'r partneriaid i adeiladu ar lwyddiant prosiect peilot llwyddiannus Prifysgol y Plant Wrecsam a Sir y Fflint, a alluogwyd gan PGW a Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus Wrecsam a Sir y Fflint.
Roedd y prosiect peilot yn gweithio gydag ysgolion, grwpiau cymunedol a pharthau dysgu ar draws yr ardal, yn annog plant a phobl ifanc i gwblhau 30 awr o weithgareddau allgyrsiol a gwirfoddol, a'r nod yn y pendraw oedd gwella uchelgais a gwobrwyo cyfranogiad.
Fel rhan o ymestyn y cynllun, bydd Prifysgol Bangor yn arwain y gwaith o gyflwyno Prifysgol y Plant yng ngogledd-orllewin Cymru.
Gyda diolch i gyllid gan CCAUC, gall Prifysgol y Plant gefnogi'r gwaith o weithredu’r Cwricwlwm newydd i Gymru a blaenoriaethau allweddol eraill Llywodraeth Cymru.
Meddai Nina Ruddle, Pennaeth Ymgysylltiad Polisi Cyhoeddus yn PGW: “Mae sicrhau'r cyllid hwn yn gam cyffrous ymlaen ar gyfer Prifysgol y Plant yng ngogledd Cymru ac yn rhan bwysig o’n cenhadaeth ddinesig ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam i roi diwedd ar anghydraddoldeb cymdeithasol ar draws y rhanbarth.
“Mae’n dyst i’r bartneriaeth gref sydd gennym ni yma yng ngogledd Cymru - mae ystod eang o bartneriaid yn cynnwys Prifysgol Bangor, GwE, Coleg Cambria, Grŵp Llandrillo Menai, y byrddau gwasanaeth cyhoeddus, awdurdodau lleol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a nifer eraill wedi dod ynghyd i gefnogi’r cynllun pwysig hwn er plant a phobl ifanc ein rhanbarth.
“Rhagwelwn mai drwy'r cyllid hwn y gallwn gyrraedd llawer mwy o blant a phobl ifanc a’u hymgysylltu â’r cynllun cyffrous hwn. Yn bwysicach fyth, mae’r cynllun hefyd yn creu nifer o swyddi newydd i gefnogi gyda darparu'r prosiect uchelgeisiol hwn ar draws y rhanbarth.”
Dywedodd yr Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer cenhadaeth ddinesig ym Mhrifysgol Bangor: “Mae Prifysgol Bangor yn falch o fod yn gweithio gyda PGW a phartneriaid ar draws y rhanbarth i ymestyn Prifysgol y Plant i ogledd-orllewin Cymru.”
Ychwanegodd Dr Lowri Hughes, Dirprwy Is-ganghellor Cyswllt ar gyfer Ymgysylltiad Dinesig ym Mhrifysgol Bangor: “Mae codi uchelgais a gwella ansawdd bywyd wrth galon strategaeth ymgysylltiad dinesig Prifysgol Bangor. Bydd y partneriaethau sy’n cael eu magu drwy Brifysgol y Plant yn chwarae rôl bwysig o ran cefnogi plant a phobl ifanc i gyrraedd eu potensial.”
Ers lansio peilot Prifysgol y Plant yn 2021 ar draws Wrecsam a Sir y Fflint, mae gwerth dros 6,100 o oriau o weithgareddau wedi’u cwblhau gan 170 o ddisgyblion a gymerodd ran yn y peilot dros chwe mis.
Cymerodd disgyblion o ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg a Saesneg ran yn y peilot. Cafodd y rheini a gwblhaodd y peilot gyfle i fynychu seremoni raddio arbennig gyda’u rhieni, gofalwyr ac athrawon.
Enillodd y rheini a gymerodd ran yn y cynllun godau stamp i wobrwyo eu hamser dysgu mewn gweithgareddau dilys er mwyn dangos eu hamser a’u cynnydd.
Mae’r cynllun yn hysbysebu nifer o swyddi ar hyn o bryd yng Ngogledd Orllewin Cymru, .
Rhagor o wybodaeth am Brifysgol y Plant