Mae Prifysgol Bangor yn arwain un o wyth project a ariennir gan Asiantaeth Ofod y Deyrnas Unedig i chwyldroi ein gallu i deithio ymhellach i’r gofod – a hyd yn oed teithio i’r blaned Mawrth.
Bydd y cyllid o £1.6 miliwn yn cefnogi ymchwil i wneud teithio i’r gofod yn fwy diogel ac effeithlon, gan ddefnyddio technolegau rheoli o bell a defnyddio cyflenwadau y gellir dod o hyd iddynt yn y gofod i gynnal gofodwyr a llongau gofod.
Bydd yr ymchwil sy’n cael ei gyllido ym Mhrifysgol Bangor, dan arweiniad Dr Phylis Makurunje, yn defnyddio technegau gweithgynhyrchu adiol i greu tanwyddau niwclear ar gyfer gyriant gofod. Mae systemau tanwydd niwclear sefydlog o'r fath yn hanfodol i alluogi teithiau i ddyfnder y gofod.
Bydd y prosesau newydd sy’n cael eu datblygu gan wyddonwyr o Sefydliad Dyfodol Niwclear Bangor yn galluogi datblygu a gweithgynhyrchu amrywiol gyfluniadau a dyluniadau tanwydd na ellir eu gwireddu’n hawdd trwy ddulliau gweithgynhyrchu confensiynol. Bydd yr ymchwil yn creu tanwyddau niwclear sy’n cynnwys syrconiwm metelaidd a seramig yn defnyddio dull gweithgynhyrchu adiol ac yna yn asesu eu perfformiad.
Meddai’r Athro mewn Deunyddiau Niwclear a Chyd-gyfarwyddwr Sefydliad Dyfodol Niwclear Prifysgol Bangor, yr Athro Simon Middleburgh: “Bydd y project hwn yn harneisio’r arbenigedd sydd gennym ym maes tanwydd niwclear yn y Sefydliad Dyfodol Niwclear ac yn ei gymhwyso i un o’r cymwysiadau mwyaf cyffrous posibl, sef archwilio’r gofod. Unwaith y bydd llong ofod yn teithio y tu hwnt i'n planed ni, ni all ddibynnu ar yr haul am ynni mwyach. Pŵer niwclear yw’r unig ffordd sydd gennym ar hyn o bryd i ddarparu’r pŵer ar gyfer teithio yn y gofod am gyfnod hir.”
Dywedodd George Freeman, y Gweinidog Gwladol sy’n gyfrifol am y Gofod yn yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg, a ffurfiwyd yn ddiweddar:
“Y gofod yw'r oror, y labordy a’r man profi eithaf i dechnoleg.
Mae hanes hir y Deyrnas Unedig o arwain mewn gwyddoniaeth ac ym maes archwilio dyfnder y gofod yn allweddol i ddeall cysawd ein haul a tharddiad bywyd, ac i greu cyfleoedd ar gyfer sector twf uchel Technoleg Gofod.
Mae’r cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn rhan o strategaeth y llywodraeth i ddefnyddio ein buddsoddiad o £5 biliwn yng ngwyddoniaeth a thechnoleg y gofod i dyfu ein sector gofod masnachol, sy’n werth £16.5 biliwn, i greu busnesau, swyddi a chyfleoedd ar gyfer yfory, a chlystyrau gofod o Gernyw i’r Alban.”
Dywedodd Prif Weithredwr Asiantaeth Ofod y Deyrnas Unedig, Dr Paul Bate:
“Mae’r cysyniad o archwilio’n ddyfnach i’r gofod – boed hynny’n golygu dychwelyd i wyneb y lleuad drwy’r rhaglen Artemis, neu weithio allan sut y gallem deithio i’r blaned Mawrth a goroesi arni – yn uchelgais byd-eang sydd wedi bod yn tyfu ers y tro cyntaf i ddynolryw ymgyrraedd at y gofod yn y 1950au.
Bydd cefnogi technolegau sy’n gwireddu’r uchelgais hwnnw’n helpu i godi proffil rhyngwladol sgiliau ac arbenigedd gofod y Deyrnas Unedig. Nid yn unig y mae hyn wrth reswm yn datgloi cyfleoedd busnes ar hyd y gadwyn gyflenwi, ond mae’n helpu i ysbrydoli pobl ifanc i ystyried y posibilrwydd o gael gyrfa yn y gofod heb orfod gadael y Deyrnas Unedig.
Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i sector archwilio’r gofod, ac edrychaf ymlaen at weld pa mor bell y bydd canlyniadau’r projectau hyn yn mynd â ni.”
Dangosodd yr adroddiad diweddaraf am faint ac iechyd sector gofod y Deyrnas Unedig fod o leiaf 47,000 o bobl yn cael eu cyflogi mewn swyddi sy’n ymwneud â’r gofod mewn bron i 1,300 o sefydliadau gofod yn y Deyrnas Unedig. Nododd hefyd gynnydd o 19% mewn buddsoddiad ymchwil a datblygu sy’n gysylltiedig â’r gofod hyd at 2021.