Mewn cymdeithas ranedig, pwy sy’n ymddiried yn yr heddlu?
Beth sy’n diffinio fy hunaniaeth genedlaethol ac ym mha sefydliadau gwladol rydw i’n ymddiried ynddyn nhw? Dyma gwestiynau sy’n gorgyffwrdd ac yn rhai y mae amryw yn gofyn iddyn nhw eu hunain. Mae’r heddlu yn un o asintau mwyaf pwerus sy’n cynrychioli’r wlad. Mewn cymdeithas ranedig, efallai y bydd pobl yn ystyried ar ba ochr mae’r heddlu. Yng Nghymru, mae rhai pobl weithiau’n amrywio yn eu safbwyntiau o asiantau gwladol a hynny’n ddibynnol ar eu dehongliad o ‘Gymreictod’ a ‘Seisnigrwydd’. Mae statws yr iaith Gymraeg yn allweddol yn y gwrthdaro hyn. Yng Ngogledd Cymru, mae gwasanaeth yr heddlu’n ddwyieithog a hynny am reswm da.Â
Mae athro mewn Troseddeg, Stefan Machura o Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas, a’i fyfyrwyr MA, Salim Alminoni, Boris Vavrik ac Einir Williams wedi cynnal astudiaeth empiraidd o faint o ymddiriedaeth sydd gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn yr heddlu. Meant bellach wedi cyhoeddi eu canlyniadau ymchwil yn yr International Journal of Politics, Culture, and Society. Mae’r testun, ‘Welsh Nationalism, Language and Students’ Trust in the UK Police’, ar gael drwy fynediad agored (https://doi.org/10.1007/s10767-020-09379-z). Tueddai myfyrwyr Prifysgol Bangor a ffafriai gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg ymddiried yn llai yn yr heddlu.Â
Gellir darllen y canfyddiad hwn mewn perthynas ag astudiaeth yr Athro Machura o ymddiriedaeth mewn gwasanaeth yr heddlu lleol, Heddlu Gogledd Cymru. (Machura, Stefan, et al. (2019). National Identity and Distrust in the Police: The Case of North West Wales. In: European Journal of Criminology.) Roedd yr ymatebion yma yn cynnwys trawstoriad o’r genedl, nid myfyrwyr yn unig. Ymddangosodd fod y bobl leol a oedd yn eu hystyried eu hunain yn genedlaetholwyr Seisnig yn ymddiried llai yn Heddlu Gogledd Cymru.Â
Mae barn dinasyddion o wahanol hunaniaethau cenedlaethol yn gallu bod yn broblem fawr i’r heddlu. Ond mae y ddwy astudiaeth gan yr Athro Machura a’i fyfyrwyr yn dangos sut y gall awdurdodau’r heddlu eu hunain helpu i wella perthnasau rhwng pobl o bob cefndir â nhw: a hynny drwy safon eu gwasanaeth, yn enwedig triniaeth deg unigolion. Yn ogystal, mae portreadau cadarnhaol o’r heddlu yn y cyfryngau yn arwain at fwy o ymddiriedaeth yn yr heddlu fel sefydliad.Â