O fis Mawrth 2023, gall pobl sy’n byw ym Mhowys sydd eisiau ymuno â’r proffesiwn nyrsio ddilyn rhaglen nyrsio cyn-gofrestru ar gyfer nyrsio oedolion ac iechyd meddwl, gan ganiatáu i fyfyrwyr ennill gradd nyrsio, tra’n astudio yn eu cymuned leol.
Mae’r rhaglen ‘Dysgu Gwasgaredig’ newydd yn cynnig dull cyfunol o ddysgu trwy ddysgu ar-lein a sesiynau personol gyda thîm academaidd Prifysgol Bangor mewn ardaloedd ledled Powys gan ddefnyddio hybiau fel Academi Iechyd a Gofal Powys ym Mronllys. Mae’r rhaglen llawn-amser, tair blynedd yn cyfuno dysgu theori a lleoliad ymarfer. Bydd lleoliadau yn cael eu darparu gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys ar draws ysbytai a thimau cymunedol ym Mhowys. Ariennir y Rhaglen Dysgu Gwasgaredig gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru ar gyfer ffioedd, bwrsariaethau, a dyfarniadau prawf modd, gweler https://aagic.gig.cymru/addysg-a-hyfforddiant/addysg-israddedig-ar-gyfer-gweithwyr-iechyd-proffesiynol/bwrsariaeth-y-gig/
Eglurodd Dr Elizabeth Mason, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd Prifysgol Bangor,
“Mae’r llwybr newydd hwn ar gyfer addysg nyrsio cyn-gofrestru yn cynnig cyfle unigryw i’r rhai sy’n byw ym Mhowys gael gyrfa mewn nyrsio. Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i weithio gydag AaGIC, Byrddau Iechyd Addysgu Powys a chymunedau lleol i wella mynediad i addysg uwch ar gyfer rhaglenni nyrsio, i gefnogi datblygiad gweithlu’r dyfodol o fewn y GIG ym Mhowys. Mae’n gyfle gwych i Brifysgol Bangor weithio gyda chydweithwyr ym Mhowys i gefnogi recriwtio i yrfaoedd nyrsio ac edrychwn ymlaen at groesawu myfyrwyr nyrsio newydd y gwanwyn hwn!”
Dywedodd Katelyn Falvey, Pennaeth Dylunio Sefydliadol a Thrawsnewid y Gweithlu, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys,
“Rydym yn gyffrous iawn i fod yn gweithio gyda Phrifysgol Bangor ar y rhaglen ddysgu newydd hon. Mae gallu rhoi cyfle i bobl Powys adeiladu gyrfa nyrsio heb orfod gadael eu sir enedigol yn wych. Edrychwn ymlaen at gefnogi ein pobl leol i hyfforddi, gweithio a byw ym Mhowys ac mae’r rhaglen hon yn rhoi’r cyfle hwn, gan ein helpu i ‘dyfu ein gweithlu nyrsio ein hunain’ ar gyfer y dyfodol.”
Dywedodd Claire Roche, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys,
“Rwyf wrth fy modd bod gennym gyfle i weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor i ehangu ein cynnig i bobl sy'n dyheu am fod yn nyrs gofrestredig. Ar ôl bod mewn nyrsio a bydwreigiaeth ers 35 mlynedd, gallaf ddweud yn onest mai dyma’r proffesiwn mwyaf rhyfeddol a gwerth chweil i fod yn rhan ohono ac edrychaf ymlaen at gwrdd â’n myfyrwyr nyrsio newydd yn fuan.”
Mae’r rhaglen ‘Dysgu Gwasgaredig’ yn dechrau ym mis Mawrth a mis Medi. Darganfyddwch fwy trwy ymweld
/cy/courses/undergraduate/b744-nyrsio-oedolion-llwybr-dysgu-gwasgaredig-i-fyfyrwyr-ym-mhowys-bn-anrh
/cy/courses/undergraduate/b770-nyrsio-iechyd-meddwl-llwybr-dysgu-gwasgaredig-i-fyfyrwyr-ym-mhowys-bn