Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn llwyddo unwaith eto
Enillodd cyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor Matt Evans y wobr Newydd-ddyfodiad Gorau yn Nigwyddiad Dathlu Gogledd Creadigol yn Theatr Clwyd ar nos Iau 2il o Chwefror. Enwebwyd Matt a chyn-fyfyriwr arall o’r Brifysgol, Shafin Basheer, ar gyfer y wobr hon, yn dilyn blwyddyn lwyddiannus i’r ddau.
Roedd Matt a Shafin wedi cael llwyddiant mawr yng ngwobrau myfyrwyr RTS Cymru llynedd, gan gipio dwy wobr bob un, ac ers hynny maent wedi cynhyrchu ffilmiau eraill sydd hefyd wedi cael cydnabyddiaeth mewn gwyliau a chystadleuthau ffilm.
Yn ôl Dr Geraint Ellis o adran Ffilm, Cyfryngau a Newyddiaduraeth y Brifysgol: ‘Mae pawb yn falch iawn o lwyddiant Matt a Shafin. Mae’r ddau yn ffilmwyr talentog sydd wedi cynhyrchu gwaith safonol iawn dros y blynyddoedd diwethaf, er gwaethaf amgylchiadau anodd.’
Ychwanegodd Geraint, ‘Mae’n braf gweld digwyddiadau fel hyn sydd yn rhoi llwyfan i’r gweithgareddau cyffrous yn y diwydiannau creadigol yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd a’r cynlluniau sydd ar y gweill. Roedd y noson yn Theatr Clwyd yn gyfle i ddathlu a hyrwyddo’r datblygiadau hyn, ac mae pobl ifanc fel Matt a Shafin yn haeddu pob canmoliaeth a chefnogaeth ym mha bynnag lwybrau byddant yn eu dilyn yn y dyfodol.’
Ìý