Ar un adeg roedd mangrofau yn cael eu gweld fel corsydd digroeso llawn malaria, ac roedden nhw ymhlith y cynefinoedd a oedd yn diflannu gyflymaf yn y byd.听 Nawr, gyda mewnbwn gan Brifysgol Bangor, mae un project cymunedol yn Kenya yn gweithio i adfer mangrofau mewn project sydd o fudd i gymunedau lleol.
Mae Dr Martin Skov o'r Ysgol Gwyddorau Eigion yn rhan o'r bartneriaeth yn ne Kenya.听 Mae鈥檙 gwaith hwn yn adeiladu ar bartneriaeth hirdymor rhwng Dr James Kairo o Sefydliad Ymchwil M么r a Physgodfeydd Kenya (KMFRI), yr Athro Mark Huxham o Brifysgol Napier Caeredin, Dr Martin Skov o Brifysgol Bangor, a chydweithwyr eraill.
Sefydlodd y bartneriaeth brojectau masnachu carbon cyntaf y byd yn deillio o ddiogelu system f么r. Cafodd project cymunedol Mikoko Pamoja (sy鈥檔 golygu Mangrofau ar y Cyd yn Swahili) yn ne Kenya ei achredu yn 2013 ac mae wedi ennill sawl gwobr. Mae ail broject, Vanga Blue Forests, wedi'i greu ers hynny ac mae mwy ar y gweill. Sefydlodd y t卯m yr elusen ACES i reoli masnachu credydau carbon sy'n deillio o warchod mangrofau, a hyrwyddo projectau cadwraeth gydag ecosystemau arfordirol yn Affrica. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan ACES.
Esbonia Martin,
鈥淢ae mangrofau yn digwydd ledled y byd yn y trofannau, yn enwedig o fewn pum gradd i'r cyhydedd. C芒nt eu hadnabod fel ecosystemau carbon glas, ac maent yn gartref i gorsydd d诺r heli, peithiau morwellt, a choedwigoedd morol.听 Mae mangrofau yn hanfodol i newid hinsawdd.听 Dim ond 0.1% o arwyneb y ddaear y maen nhw'n ei orchuddio ond maen nhw'n dal ac yn storio bron i bum gwaith yn fwy o garbon na choedwigoedd glaw. Pan fydd coed ar y tir yn marw maen nhw'n rhyddhau carbon i'r atmosffer. Gyda mangrofau, fodd bynnag, mae carbon yn cael ei ddal yn y gwreiddiau a'r mwd lle gall aros, o dan y d诺r, am filoedd o flynyddoedd.鈥澨
Nawr, diolch i fuddsoddiad a phrojectau fel Mikoko Pamoja, mae sefydliadau'n talu am blannu a chadwraeth mangrofau, er mwyn gwrthbwyso eu carbon.听 Mae hyn nid yn unig yn helpu'r mangrofau; mae鈥檔 helpu cymunedau lleol i ffynnu ac mae鈥檔 enghraifft o鈥檙 gwaith sy鈥檔 newid y byd a wneir ym Mhrifysgol Bangor.
听