Prifysgol Bangor yn penodi Prif Swyddog Trawsnewid
Penodwyd Michael Flanagan FRICS i swydd newydd Prif Swyddog Trawsnewid ym Mhrifysgol Bangor.
Bydd Michael yn ymuno 芒鈥檙 Brifysgol fel aelod o鈥檌 Bwrdd Gweithredol ddydd Llun, 13 Mawrth 2023. Ar hyn o bryd mae'n Gyfarwyddwr Ystadau a Gwasanaethau Digidol ym Mhrifysgol Caerl欧r.
Yn syrf毛wr wrth ei alwedigaeth, bydd Michael yn arwain y gwaith o ddatblygu a darparu dull trawsnewidiol, cydlynol sy鈥檔 canolbwyntio ar y dyfodol ar gyfer ein isadeiledd digidol ac ystadau. Gan adrodd i鈥檙 Prif Swyddog Gweithredu, Dr Kevin Mundy, bydd Michael yn gweithio鈥檔 agos gyda鈥檙 Dirprwy i鈥檙 Is-Ganghellor, y Prif Swyddog Gweithredu, y Prif Swyddog Cyllid a Chyfarwyddwyr Gwasanaethau Campws a鈥檙 Gwasanaethau Digidol.
鈥Mae鈥檙 cyfle i arwain rhaglen drawsnewid uchelgeisiol ym Mhrifysgol Bangor, y mae ei gwreiddiau a鈥檌 hetifeddiaeth barhaus yn seiliedig ar arloesi, addysgu ac ymchwil sy鈥檔 cael ei gyrru gan effaith, yn gyffrous iawn,鈥 meddai Michael. 鈥淕an eistedd ochr yn ochr 芒 phobl, mae ein hasedau 鈥 adeiladau a thechnoleg 鈥 yn allweddol i brofiad a rhagoriaeth, gan ddarparu鈥檙 gofod a chysylltedd digidol i ddysgu, creu, arloesi ac adeiladu rhwydweithiau a phartneriaethau.
鈥淩wy鈥檔 gyffrous i weithio gyda fy nghydweithwyr newydd i wella campws cynaliadwy i holl gymuned y Brifysgol, ochr yn ochr 芒 chreu cyfleoedd i fyfyrwyr gael yr elw mwyaf posibl o鈥檙 buddsoddiad sylweddol a wn芒nt a鈥檜 paratoi ar gyfer y dyfodol.鈥
Meddai鈥檙 Prif Swyddog Gweithredu, Dr Kevin Mundy, 鈥淢ae Michael yn weithiwr proffesiynol sy鈥檔 arwain y diwydiant ac sydd wedi dod ag atebion arloesol o ran pobl, lle a thechnoleg ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a鈥檙 trydydd sector. Mae鈥檔 bleser gennym ei groesawu i Fangor lle bydd ei arbenigedd yn gyrru ein gweledigaeth, ein strategaeth a鈥檔 cynllunio ymlaen i alluogi amgylchedd digidol a ffisegol cydlynol ac integredig sy鈥檔 gwella enw da ein Prifysgol, ac yn ymateb i anghenion staff a myfyrwyr, a bydd yn ategu ein hymdrechion i ysgogi perfformiad cyffredinol y Brifysgol.鈥
Yng Nghaerl欧r, bu Michael yn goruchwylio gwariant rhaglen gyfalaf o 拢250m, gan gynnwys darpariaeth ystadau a digidol integredig ysgol busnes newydd gwerth 拢20m, canolfan myfyrwyr newydd gwerth 拢25m, project gwerth 拢50m i gyflwyno Space Park Leicester, sydd wedi ennill gwobrau, sy鈥檔 cael ei rannu 芒 cydweithwyr gan gynnwys Rolls Royce, Airbus a Satellite Catapult, a chynllun adeiladau preswyl ac academaidd gwerth 拢150m DBFO (Dylunio-Adeiladu-Cyllid-Gweithredu). Cyn hynny bu'n aelod o d卯m Gweithredol Prifysgol Greenwich ac yn gyn-gyfarwyddwr ac ymgynghorydd i鈥檙 London Legacy Development Corporation ar brif gynllunio a hyfywedd ar gyfer blaenoriaethau adfywio maerol. Bu鈥檔 arwain rheolaeth ystadau a chyfleusterau Parc Olympaidd y Frenhines Elisabeth a鈥檙 stadiwm Olympaidd ac mae wedi arwain ar isadeiledd a digidol integredig ar sawl cynllun adfywio yn Llundain.