鶹ý

Fy ngwlad:
lab testing

Rhaglen monitro dŵr gwastraff wedi'i hymestyn i gynnwys ysbytai a monitro y tu hwnt i COVID-19

Mae rhaglen wedi ei arwain gan Lywodraeth Cymru, gyda Phrifysgol Bangor yn un o'r prif bartneriaid, i brofi dŵr gwastraff ar gyfer COVID-19 erbyn hyn yn medru cynnal profion am glefydau trosglwyddadwy ac yn cydweithio ag ysbytai.

Mae data dŵr gwastraff wedi bod yn allweddol i’n helpu i ddeall sut mae’r firws COVID-19 wedi addasu dros amser ac wedi rhoi data allweddol i ni, sydd wedi ein galluogi i olrhain y firws trwy ein cymunedau.

“Bydd ehangu monitro i’r safleoedd allweddol hyn ac ymchwilio i firysau y tu hwnt i COVID-19 yn rhoi mewnwelediad hyd yn oed yn fwy gwerthfawr inni, gan lywio sut yr ydym yn ymateb i glefydau trosglwyddadwy a’n helpu i amddiffyn y rhai hynny sy’n fwyaf agored i niwed.

Eluned Morgan ,  Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru

Mae monitro dŵr gwastraff yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am lefelau COVID-19 yn ein cymunedau. Ehangu’r nifer o safleoedd ac ymchwilio i glefydau trosglwyddadwy eraill yw’r cam nesaf wrth i ni ddatblygu’r data ac ehangu ein dealltwriaeth hyd yn oed ymhellach. “Rydym am barhau i ddefnyddio monitro dŵr gwastraff fel rhan allweddol o’n harfdy yn erbyn COVID-19, yn ogystal â defnyddio ei botensial i fonitro firysau fel y ffliw ac ymwrthedd gwrth-ficrobaidd yn y dyfodol.

Dr Rob Orford,  Prif Gynghorydd Gwyddonol Iechyd Llywodraeth Cymru