Fel dyn ifanc gydag anabledd deallusrwydd, mae gan Paul ddirnadaeth werthfawr y mae’n ei rhannu efo myfyrwyr nyrsio'r Brifysgol. Credir mai Paul yw’r unig berson yn y Deyrnas Unedig yn y rôl unigryw yma.
Meddai Paul pan ofynnwyd am ei rôl,
“Mi wnes i gysylltu efo’r Brifysgol gan ei fod yn rhywbeth nad oeddwn i wedi ei wneud o’r blaen, ac i weld beth ddigwyddai. Ces gyfarfod a rŵan dwi’n siarad efo myfyrwyr. Rydw i’n hoffi bod yn Ddarlithydd er Anrhydedd. Rydw i’n cael mynd i seminarau ac rydw i’n mynd i gynhadledd ar anableddau dysgu flwyddyn nesaf, a’r tro nesaf byddaf yn siarad mewn cynhadledd ar anableddau dysgu. Bydd hyn yn brofiad newydd.
Dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig helpu myfyrwyr i ddeall yn well sut mae rhywun fel fi yn gweld y byd. Mae’n bwysig bod y nyrsys yn gweld sut mae’n wahanol. Bydd myfyrwyr nyrsio oedolion yn trin pawb. Siaradais efo’r myfyrwyr hyn a’r nyrsys anableddau dysgu, fel bod pawb yn deall yn well.
Rydw i’n mwynhau cyfarfod myfyrwyr. Maen nhw’n gofyn cwestiynau, yn torri ar draws, ac yn fy nilyn i ar y cyfryngau cymdeithasol i ddweud diolch am ddod ac am eich sgyrsiau cyhoeddus.”
Esboniwyd y cefndir gan Dr Jason Michael Devereux, Darlithydd mewn Gwyddorau Gofal Iechyd (Anabledd Dysgu) a ddywedodd,
“Mae Paul wedi bod yn cyfrannu at ddysgu ein myfyrwyr nyrsio ers sawl blwyddyn. Dechreuodd gydweithio â mi ar sesiynau lle byddem yn dysgu ein holl fyfyrwyr sut beth fyddai mynd i’r ysbyty i rywun efo amhariad deallusrwydd. Roedd y myfyrwyr yn gwerthfawrogi’r sesiynau’n fawr.
Ers hyn, mae’n gwneud mwy, ac mae bellach yn cydweithio efo sawl aelod o staff, yn dysgu nyrsys iechyd meddwl ac anabledd dysgu am ei brofiad iechyd meddwl, ac mae hefyd yn dysgu mewn sesiynau sy’n efelychu sefyllfaoedd clinigol yn y pedwar maes nyrsio.”
Ychwanegodd Dr Elizabeth Mason, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd:
“Mae clywed profiadau real anhawster dysgu yn brofiad dysgu gwerthfawr i’n myfyrwyr. Mae cyfraniad Paul yn sylweddol yn yr ystyr ei fod yn tanlinellu pwysigrwydd trin pawb yr un fath a chydag urddas pan maen nhw’n derbyn gofal iechyd, gan bwysleisio pwysigrwydd cyfathrebu a derbyn amrywiaeth.”
Yn ogystal â dysgu mae Paul yn cymryd rhan ac yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at nifer o weithgareddau eraill yn yr Ysgol.
Prifysgol yn penodi'r Darlithydd er Anrhydedd cyntaf yn y DU sydd efo anabledd deallusrwydd
Mae Paul Taylor wedi ei wneud yn Ddarlithydd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor ac wedi bod i’w seremoni raddio gyntaf yn y rôl honno yr wythnos hon.