Ysgol Busnes Bangor yn rhoi'n ôl y Nadolig hwn
Mae rhoi ein hamser a gwirfoddoli yn ein cymuned leol yn rhan bwysig o’n cymdeithas yma yn Ysgol Busnes Bangor. Y flwyddyn hon mae ein Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli Adnoddau Dynol Dr Clair Doloriert yn cymryd rhan mewn Dip Mawr ar Gŵyl San Steffan ar Ynys Môn. Bydd Dr Doloriert a’i chefndryd, un o raddedigion Prifysgol Bangor Ceri Cochran ac Aled Roberts, yn ceisio codi arian tuag at Hosbis Dewi Sant lle mae Ceri yn Nyrs Gofal Lliniarol (diwedd oes) yng Nghaergybi.
Elusen leol yw sy’n gofalu am bobl leol ac yn darparu gofal arbenigol i oedolion ac i rheini gyda salwch sy’n cyfyngu ar fywyd neu’r rhai sydd angen gofal diwedd oes. Bob blwyddyn, mae hyn yn cyffwrdd â bywydau dros 1000 o bobl o fewn ein cymunedau lleol ar draws siroedd Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn.
Mae'r elusen yn cynnig gofal 24 awr, 365 diwrnod y flwyddyn gan ddarparu gwasanaeth clinigol â chymorth emosiynol, corfforol ac ysbrydol. Yn eu Canolfannau Therapi Dydd (Llandudno a Bangor), maent yn darparu gwasanaethau gofal claf, profedigaeth a chynghori. Yn eu canolfan Hunedau Cleifion Mewnol (Llandudno a Chaergybi) maent yn cynnig rheolaeth symptomau, seibiant, a gofal diwedd oes.
Eleni bydd hi'n costio dros £5 miliwn i redeg Hosbis Dewi Sant gyda dim ond 9% o’r ffigur hwnnw’n dod gan Lywodraeth Cymru a’r Bwrdd Iechyd Lleol. Daw'r rhan fwyaf o’r cyllid drwy godi arian yn y gymuned. Nid yw’r costau hyn yn cael eu trosglwyddo i’r cleifion, eu teuluoedd na’u gofalwyr, oherwydd mae gofal Hosbis Dewi Sant am ddim i bawb.
Os hoffech chi gefnogi Ceri, Clair ac Aled, a holl staff Hosbis Trochwyr Gŵyl San Steffan sy’n herio’r dip mawr rhewllyd ar y diwrnod,
Ìý
Ìý