Mae ymchwilwyr Prifysgol Bangor wedi cyfrannu at ddau bapur newydd a gyhoeddwyd heddiw yn Science, sydd gyda'i gilydd yn rhoi adolygiad pwysig o fioamrywiaeth eithriadol Madagascar. Dan arweiniad ymchwilwyr o’r Royal Botanic Gardens, Kew, roedd y gwaith yn cynnwys partneriaid o dros 50 o sefydliadau byd-eang. Gan ddwyn ynghyd yr adnoddau diweddaraf a defnyddio technegau blaengar i ragfynegi statws cadwraeth, bu’r tîm yn gwerthuso’r bygythiadau sy’n wynebu bioamrywiaeth daear a dŵr croyw ac edrych ar gyfleoedd yn y dyfodol ar gyfer cadwraeth ac adfer.
Mae Madagascar yn un o brif fannau bioamrywiaeth y byd, gyda chasgliad unigryw o blanhigion, anifeiliaid a ffyngau, y mwyafrif ohonynt wedi esblygu ar yr ynys ac nid ydynt yn unman arall. Ond mae'r papurau hyn yn amlygu bod llawer i'w ddysgu o hyd, yn enwedig ar gyfer grwpiau fel ffyngau ac infertebratau, lle mae disgrifiadau rhywogaethau gwyddonol cyfredol yn cynrychioli ffracsiwn bach o'r amrywiaeth lawn sy'n bresennol. Er bod y broses o ddisgrifio rhywogaethau wedi cyflymu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llawer i'w wneud i ddisgrifio'r amrywiaeth lawn o rywogaethau ym Madagascar ac i ddeall eu gorffennol, eu presennol a'u dyfodol.
Mae deall tarddiad, esblygiad, dosbarthiad presennol, a’r defnydd o fioamrywiaeth anhygoel Madagascar yn y modd hwn yn hollbwysig i amlygu ei bwysigrwydd byd-eang ac arwain ymdrechion cadwriaethol ar frys. Amcangyfrifir bod 11,516 o rywogaethau planhigion fasgwlar brodorol Madagascar wedi'u disgrifio, ac mae 82% ohonynt yn endemig. Ymhlith y 1,314 o rywogaethau o fertebratau daear a dŵr croyw brodorol, mae'r ffigwr hyd yn oed yn uwch - gyda 90% o endemigrwydd yn gyffredinol.
Mae'r amrywiaeth unigryw hon mewn perygl difrifol. Casglodd y tîm ymchwil ddata asesu sydd ar gael gan yr IUCN ar blanhigion a fertebratau, gan ddefnyddio dysgu peirianyddol i ragfynegi’r risgiau difodiant ar gyfer rhywogaethau planhigion sydd heb eu hasesu. Dim ond un rhan o dair o’r holl rywogaethau o blanhigion Madagascar (ychydig llai na hanner y rhywogaethau brodorol) sydd wedi’u hasesu’n ffurfiol, ond gwelodd ymchwilwyr fod Madagascar yn gartref i nifer anghymesur o uchel o rywogaethau esblygiadol nodedig ac sydd mewn perygl yn fyd-eang ac efallai bod nifer y rhedyn a’r rhywogaethau sy’n perthyn iddynt sydd dan fygythiad wedi'u tanamcangyfrif. Dangosodd eu dadansoddiadau fod gor-ecsbloetio (hela a chynaeafu rhywogaethau yn uniongyrchol) ac arferion amaethyddol anghynaliadwy yn effeithio ar 62.1% a 56.8% o rywogaethau fertebratau, yn y drefn honno, a phob un yn effeithio ar bron i 90% o holl rywogaethau planhigion. Daethant i’r casgliad bod y wybodaeth gyfredol am fioamrywiaeth Madagascar a’i dirywiad yn dangos bod angen gweithredu ar frys.
Fel yr eglurodd Dr Alex Papadopulos o Brifysgol Bangor, a gyfrannodd i’r ymchwil,
“Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar yr hyn a wyddom am fioamrywiaeth unigryw Madagascar, y bygythiadau y mae’n eu hwynebu, a’r heriau o gadw a defnyddio systemau naturiol ar yr un pryd. Mae’n amlygu’r ffaith bod diffyg gwybodaeth yn fater arwyddocaol: dim ond un rhan o dair o rywogaethau planhigion ym Madagascar sydd wedi cael eu hasesu o ran statws cadwraeth ac rydym hyd yn oed yn gwybod llai am faint a chanlyniadau erydiad amrywiaeth genetig mewn organebau gwyllt. Mae'n amlwg y gellir cymryd camau cadarnhaol i ddiogelu a defnyddio byd natur yn gynaliadwy, gan gynnwys monitro amrywiaeth ac iechyd genetig yn ehangach, ond mae angen gweithredu ar y cyd ar frys."
Blas ar fioamrywiaeth unigryw Madagascar
Natur yw ein hased mwyaf
Meddai’r Athro Alexandre Antonelli, Cyfarwyddwr Gwyddoniaeth yn Royal Botanic Gardens, Kew,
“Natur yw ein hased mwyaf yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd ac ansicrwydd bwyd. Ond rydym wedi diraddio pob ecosystem ar y blaned hon i ffracsiwn o'u maint yn y gorffennol, gan ladd nifer fawr o rywogaethau a rhoi llawer mwy mewn perygl. Mae Madagascar yn cynrychioli pwynt: mae ei bioamrywiaeth yn unigryw ac mae dan fygythiad. Roeddem eisiau dangos bod hwn yn un o’r mannau pwysicaf yn y byd ac amlinellu'r camau gweithredu sydd eu hangen i ailosod ein perthynas â natur a sicrhau ei bod yn cael ei gwarchod a'i defnyddio'n gynaliadwy. Yr ateb allweddol yw ymdrin ag anghenion pobl”.
Ar hyn o bryd, mae ardaloedd gwarchodedig yn gorchuddio 10.4% o Fadagascar ac mewn sefyllfa gymharol dda i gofnodi bioamrywiaeth yr ynys. Gwelodd y tîm fod y rhwydwaith yn rhoi sylw da i’r prif gynefinoedd, yn enwedig mangrofau, coedwigoedd pigog, coedwig laith, a thapia, ond nid oes gan goedwigoedd islaith ac ardaloedd sy’n frith o laswelltir a choetir lawer o warchodaeth (5.7% ac 1.8% yn y drefn honno). Serch hynny, mae 79.6% o blanhigion dan fygythiad a 97.7% o fertebratau dan fygythiad o fewn o leiaf un ardal warchodedig. Yn ychwanegol at hyn, mae gan gasgliadau ex situ 18% o rywogaethau fertebratau a 23% o rywogaethau planhigion. Bydd cynnal a gwella ansawdd y warchodaeth yn y meysydd hyn, ynghyd â chadwraeth ex situ effeithiol, megis banciau hadau a rhaglenni bridio ac ailgyflwyno, a rhaglenni cymunedol integredig, yn allweddol i sicrhau llwyddiant.
Mae bioamrywiaeth gyfoethog Madagascar, yn enwedig ei fflora amrywiol, wedi darparu llawer o gyfleoedd at ddefnydd pobl ac mae llawer mwy o briodweddau defnyddiol yn aros i gael eu datgloi. O'r 40,283 o rywogaethau planhigion y cofnodwyd eu bod yn cael eu defnyddio gan bobl ledled y byd, mae 1,916 (5%) ohonynt ym Madagascar. O'r rhain, mae 1,596 yn frodorol ac yn endemig i'r ynys. Yr her yw dod o hyd i gydbwysedd rhwng defnydd lleol o fioamrywiaeth a gwarchod purdeb ardaloedd gwarchodedig. Mae'r rhan fwyaf o dros 28 miliwn o drigolion Madagascar yn byw y tu allan i ardaloedd gwarchodedig, ond yn aml yn agos iawn atynt. Mae'r cymunedau hyn yn wynebu heriau sy'n gysylltiedig â thlodi eang, sydd ynddo'i hun yn ymwneud â diraddio cyfalaf naturiol yn y dirwedd, mynediad cyfyngedig i addysg ffurfiol, gofal iechyd a materion rheoleiddio gan gynnwys deiliadaeth tir.
Meddai Dr Hélène Ralimanana, Arweinydd Tîm Gweithrediadau Canolfan Gadwraeth Kew Madagascar,
“Mae Madagascar wastad wedi cael ei hadnabod fel un o fannau pwysig bioamrywiaeth. Mae canlyniadau’r dadansoddiad yn y papurau hyn yn frawychus gan fod bioamrywiaeth a thirwedd Madagascar wedi newid yn aruthrol dros y degawdau diwethaf. Mae y tu hwnt i amgyffred y byddwn yn colli'r cyfoeth hwn os na weithredir ar frys. Mae pobl Madagascar ar hyn o bryd yn teimlo effeithiau newid yn yr hinsawdd, sy'n effeithio ar fywoliaeth aelwydydd. Mae achub bioamrywiaeth Madagascar yn gyfrifoldeb i bawb gan gynnwys cymdeithasau sifil, gwneuthurwyr polisi a chymunedau sydd wedi'u lleoli, dyma'r amser i weithredu.”
Mae Madagascar wedi gwneud cynnydd pwysig tuag at gyflawni nodau hinsawdd, bioamrywiaeth a datblygu cynaliadwy rhyngwladol; gan ddarparu sylfaen i adeiladu arni yn y degawdau nesaf. Mae'r ymchwilwyr yn ystyried bioamrywiaeth fel y cyfle mwyaf a'r ased mwyaf gwerthfawr ar gyfer datblygiad Madagascar yn y dyfodol - adnodd allweddol ar gyfer dyfodol cynaliadwy a llesiant ei ddinasyddion.
Maent yn cynnig pum cyfle ar gyfer gweithredu i hybu cadwraeth mewn ffordd gyfiawn a theg:
- Rhaid i fuddsoddi mewn cadwraeth ac adfer fod yn seiliedig ar dystiolaeth ac effeithiolrwydd, yn hytrach na metrigau syml ar sail ardal ac wedi ei deilwra i gwrdd â heriau'r dyfodol trwy atebion cynhwysol.
- Mae monitro bioamrywiaeth ehangach, gan gynnwys cynhyrchu mwy o setiau data a sicrhau eu bod ar gael, yn allweddol i ddiogelu asedau naturiol mwyaf gwerthfawr Madagascar.
- Mae gwella effeithiolrwydd ardaloedd gwarchodedig presennol, er enghraifft trwy ymgysylltu â’r gymuned, hyfforddiant, a chyfleoedd incwm, yn bwysicach na chreu rhai newydd.
- Ni ddylai cadwraeth ac adfer ganolbwyntio'n unig ar y rhwydwaith ardaloedd gwarchodedig ond dylai hefyd gynnwys y tirweddau a'r cymunedau cyfagos.
- Rhaid i gamau cadwraeth fynd i'r afael ag achosion sylfaenol colli bioamrywiaeth, gan gynnwys tlodi ac ansicrwydd bwyd.
Mae'r corff hwn o ymchwil a'r dystiolaeth a gasglwyd yn gwneud achos clir i wneud Madagascar yn un o brif flaenoriaethau cadwraeth y byd. Mae'r ymchwilwyr wedi cyflwyno dealltwriaeth fanylach a chliriach nag erioed o'r blaen o amrywiaeth Madagascar yn y gorffennol a'r presennol, ei dosbarthiad presennol a'r bygythiadau y mae'n eu hwynebu. Mae'r data sylfaenol yn gynnyrch degawdau o ymchwil gan fiolegwyr ym Magadascar ac yn rhyngwladol ac mae'r awduron yn dadlau bod yn rhaid i'r gwaith o gasglu a dadansoddi data barhau a chyflymu os ydym am ddiogelu biota unigryw Madagascar.
Madagascar’s extraordinary biodiversity: Evolution, distribution, and use,Science
Madagascar’s extraordinary biodiversity: Threats and opportunities,Science