Yn ogystal â gweld aflonyddwch ar wyneb y môr, gwnaethant gofnodi tswnamis tanddwr 'mewnol' oedd mor uchel â thŷ, ffenomen a gollwyd yn flaenorol wrth geisio deall cymysgu moroedd. Mae’r tîm a oedd yn cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Bangor, dan arweiniad Arolwg Antarctig Prydain, yn adrodd eu harsylwadau heddiw (dydd Mercher, 23 Tachwedd) yn y cyfnodolyn Science Advances.
Mae tswnamis mewnol yn ffactor pwysig mewn cymysgu moroedd, sy'n effeithio ar fywyd yn y môr, tymheredd ar wahanol ddyfnderoedd, a faint o rew y gall y cefnfor doddi.
Mae’r rhew yn Antarctica yn llifo i'r arfordir ar hyd dyffrynnoedd llawn rhewlifoedd. Tra bod rhywfaint o rew yn toddi i'r cefnfor, mae llawer yn torri i ffwrdd yn fynyddoedd rhew, sy'n amrywio o ran maint o ddarnau bach hyd at faint gwlad. Roedd tîm ar fwrdd llong ymchwil Arolwg Antarctig Prydain, yr RRS James Clark Ross, yn cymryd mesuriadau’r môr yn agos at Rewlif William, sydd ar Benrhyn yr Antarctig, wrth i'w flaen chwalu'n ddramatig yn filoedd o ddarnau bach.
Fel rheol mae Rhewlif William yn ymrannu ar raddfa fawr unwaith neu ddwywaith y flwyddyn, ac amcangyfrifodd y tîm fod tua 78,000 metr sgwâr o rew wedi torri i ffwrdd yn y digwyddiad hwn - gymaint â 10 cae pêl-droed - gyda blaen y rhewlif yn codi 40m uwchlaw lefel y môr. Cyn iddo dorri i ffwrdd, roedd tymheredd y dŵr yn oerach ar ddyfnder o tua 50-100m ac yn gynhesach yn is na hynny. Ar ôl yr ymrannu newidiodd hyn yn ddramatig, gyda'r tymheredd yn mynd yn fwy gwastad ar draws wahanol ddyfnderoedd.
Ymunodd Katrien Van Landeghem a myfyrwraig ôl-radd, Kate Retallick o Ysgol Gwyddorau’r Eigion Prifysgol Bangor â'r arolygon ym Mhenrhyn Gorllewin yr Antarctig i fapio gwely môr y ffiordydd yn union o flaen y rhewlifoedd sy'n encilio.
Roedd y llong yn aml mor agos at y rhewlifoedd fel y gallent hefyd fapio siâp blaen y rhew lle mae'n eistedd ar wely’r môr. Mae’r data unigryw hwn yn dangos swyddogaeth prosesau daearegol mewn enciliad rhewlifol ac yn helpu i ddatgelu’r effeithiau a gaiff blaen rhew sy’n chwalu ar y corff cyfan o ddŵr a’r ecosystemau sy’n ffynnu yno.
Dywedodd Katrien:
“Ar ôl gweld yr ymrannu sydyn a bod mor agos at y digwyddiad, sylwodd y tîm fod y mynyddoedd rhew mawr a oedd yn torri i ffwrdd o’r rhewlifoedd yn achosi tswnami tanddwr “mewnol” ac yn cymysgu’r golofn ddŵr. Gyda’r rhagfynegi y bydd rhewlifoedd yn chwalu hyd yn oed yn fwy dramatig yn ein moroedd sy’n cynhesu, dylai pwysigrwydd deall yr effaith y mae ymrannu o’r fath yn ei chael ar weddill yr ecosystemau pegynol gael ei ystyried ar raddfa fwy.”
Arsylwad ar hap o bwys
Ychwanegodd prif awdur yr astudiaeth yr Athro Michael Meredith, pennaeth tîm y Cefnforoedd Pegynol yn Arolwg Antarctig Prydain:
“Pan fydd rhewlifoedd yn ymrannu, mae’r tonnau mewnol hyn yn gwneud i’r môr gymysgu ac mae hyn yn effeithio ar fywyd yn y môr, pa mor gynnes y mae ar wahanol ddyfnderoedd a faint o rew y gall doddi.
“Mae hyn yn bwysig i ni ddeall yn well. Mae cymysgu moroedd yn dylanwadu ar le mae maetholion yn y dŵr ac mae hynny’n bwysig i ecosystemau a bioamrywiaeth. Roeddem yn meddwl ein bod yn gwybod beth oedd yn achosi’r cymysgu hwn – yn yr haf, roeddem yn meddwl mai gwynt a llanw oedd yn bennaf gyfrifol, ond ni wnaethom erioed feddwl y gallai mynydd rhew yn ymrannu achosi tswnami mewnol a fyddai’n cymysgu pethau mor sylweddol.”
Yn wahanol i'r tonnau a achosir gan wynt a llanw, mae tswnamis yn cael eu hachosi gan ddigwyddiadau geoffisegol lle mae dŵr yn symud yn sydyn, er enghraifft gan ddaeargryn neu dirlithriad. Mae tswnamis mewnol wedi cael eu gweld mewn ychydig o leoedd, a achoswyd gan dirlithriadau. Hyd yma, nid oedd neb wedi sylwi eu bod yn digwydd o amgylch Antarctica, drwy'r amser mae’n debyg oherwydd y miloedd o rewlifoedd sy’n ymrannu yno. Mae lleoedd eraill â rhewlifoedd yn debygol o gael eu heffeithio hefyd, gan gynnwys yr Ynys Las a mannau eraill yn yr Arctig.
Mae’r hyn rydym wedi ei arsylwi a’i ddeall ar hap o’r digwyddiad hwn yn bwysig, wrth i rewlifoedd encilio ac ymrannu mwy wrth i gynhesu byd-eang barhau. Mae'n debygol y gallai hyn gynyddu nifer y tswnamis mewnol sy'n cael eu creu a'r cymysgu y maent yn ei achosi.
Tswnami tanfor
Nid yw'r broses hon wedi'i chynnwys mewn modelau cyfrifiadurol cyfredol sy'n ein galluogi i ragweld beth allai ddigwydd o amgylch Antarctica. Mae'r darganfyddiad hwn yn newid ein dealltwriaeth o sut mae'r cefnfor o amgylch Antarctica yn cymysgu a bydd yn gwella gwybodaeth am yr hyn y mae'n ei olygu i’r hinsawdd, yr ecosystem a lefel y môr yn codi.
Meddai Michael Meredith: “Mae ein hamseriad ffodus yn dangos gymaint mwy sydd angen i ni ei ddysgu am yr amgylcheddau anghysbell hyn a sut maent yn bwysig i'n planed.”
Roedd fordaith ymchwil ar RRS James Clark Ross yn rhan o broject ICEBERGS a chafodd ei ariannu gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol.
Mae gan Michael P. Meredith, Mark E. Inall, J. Alexander Brearley, Tobias Ehmen, Katy Sheen, David Munday, Alison Cook, Katherine Retallick, Katrien Van Landeghem, Laura Gerrish, Amber Annett, Filipa Carvalho, Rhiannon Jones, Alberto C. Naveira Garabato, Christopher Y. S. Bull, Benjamin J. Wallis, Anna E. Hogg, James Scourse wedi'i gyhoeddi yn y cyfnodolyn Science Advances.