Eglurodd Mari, "Mae hanes wrth wraidd hunaniaeth tîm Cymru yn y Cwpan y Byd eleni. Mae’r cefnogwyr, y chwaraewyr a'r cyfryngau wedi cyfeirio’n barhaus at 1958, ac mae'r hiraeth am y flwyddyn honno - yr unig Gwpan y Byd yn yr 20fed ganrif oedd â thîm Cymru yn y rowndiau terfynol - wedi dod yn debyg i'r 'Ysbryd '66' yn hanes pêl-droed Lloegr.
"Ynghyd â hyn, mae Cymdeithas Pêl-droed Cymru ar ei chyfryngau cymdeithasol ac o ran eu marchnata ynllawn o gyfeiriadau at orffennol Cymreig modern. Cân swyddogol Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yw, wrth gwrs, 'Yma o Hyd', anthem Dafydd Iwan o 1983, gyda'i chyseiniannau o brotestiadau a gweithrediadau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Fodd bynnag, yn fwy swynol fyth, mae'r fideo ar gyfer y gân yn cynnwys amrywiaeth o ddelweddau sy’n cyfeirio at 'orthrwm' ac eiconau hanesyddol yng Nghymru, o Dryweryn i Streic y Glowyr ac Aneurin Bevan. Mae’r fideo wedi ymwreiddio pêl-droed Cymreig yn gryf yng nghalon hunaniaeth genedlaetholgar Gymreig, sy'n newid dramatig o 1958, pan nad oedd fawr o ddiddordeb gan y wasg yng Nghymru, yn enwedig y papurau newydd cyfrwng Cymraeg, ym mhresenoldeb y tîm cenedlaethol yn Sweden."
O safbwynt cymdeithasegol, esboniodd Rhian, "Fel cymdeithasegwyr rydym yn aml yn ceisio gwneud synnwyr o gymdeithas a'r byd cymdeithasol yr ydym yn perthyn ynddo. Mae astudio chwaraeon tîm fel pêl-droed yn darparu bychanfyd o'n cymdeithas ac yn cynnig cipolwg ar normau a gwerthoedd cyfunol allweddol cymdeithas.
"Mae llwyddiant tîm pêl-droed Cymru wrth gyrraedd Cwpan y Byd 2020 yn amlygu cysyniadau cymdeithasegol allweddol o iaith, cenedlgarwch, hunaniaeth genedlaethol a chenedlaetholdeb. Rwy'n dysgu modiwl, Cymdeithaseg Cerddoriaeth, lle rydym yn archwilio pwysigrwydd chwaraeon fel nodwr hunaniaeth genedlaethol yng Nghymru. Rydyn ni'n astudio pwysigrwydd y dorf mewn gemau pêl-droed o ran creu 12fed person ar y cae a sut mae hyn yn medru rhoi mantais o ran chwaraeon. Mae Wal Goch Cymru yn enghraifft berffaith o ba mor bwysig y gall cefnogwyr fod drwy ysbrydoli eu tîm i fuddugoliaeth ac uno cenedl trwy bêl-droed ...yr hetiau bwced a phopeth ."
Roedd modiwl pwnc arbennig Mari 'Cenedlaetholdeb yn y Deyrnas Unedig' y tro hwn â dosbarth newydd ar 'ysbryd 1958 a 1966: pêl-droed a hunaniaeth genedlaethol', ac roedd ei myfyrwyr trydedd flwyddyn wedi ymgolli yn y modd y mae sefyllfa pêl-droed fel camp genedlaethol yng Nghymru wedi gwaethygu dros y degawdau diwethaf.
Meddai Beth Jones, myfyriwr Hanes gydag Astudiaethau Ffilm o Benllech, "Rwy'n credu ei bod yn wych bod Cymru yn cymryd rhan yng Nghwpan y Byd ac wrth iddynt chwarae yn erbyn Lloegr, byddent yn tynnu sylw at y ffaith bod Cymru yn genedl wahanol â'i gwlad ei hun. Mae Cwpan y Byd hefyd wedi agor trafodaethau am amrywiaeth eang o bynciau gan gynnwys hawliau LHDTC+, gan ddangos bod mwy i'r twrnamaint na phêl-droed."
Dywedodd Jac Jones, myfyriwr Gwleidyddiaeth o Waunfawr: "Mae'r modiwl wedi bod yn agoriad llygad wrth ddysgu am, a deall, hunaniaeth. Erbyn hyn rwy'n sylweddoli sut mae hyd yn oed y pethau mwyaf di-nod o'n cwmpas yn gwneud i chi feddwl am hunaniaeth. Er enghraifft, mae'r hetiau bwced coch a melyn wedi dod yn hollol gyfystyr â Chymru ers iddyn nhw gael eu mabwysiadu gan gefnogwyr pêl-droed Cymru."
Dywedodd Kieran Havelock, myfyriwr Hanes o Borthmadog, "Mae'r modiwl yn trafod sut rydym yn destun mynegiant cenedlaethol yn ddyddiol heb i ni sylweddoli hynny. Dwi wedi dysgu am sut mae'r hyn rydyn ni'n ei glywed yn y newyddion a'r eirfa sy'n cael ei defnyddio yn gallu cael islais cenedlaetholgar ac mae'n ddiddorol gweld pa mor gyffredin ydy hyn yng nghymdeithas.
"Yn aml ar lwyfan y byd, yn enwedig mewn gwleidyddiaeth, mae Prydain yn cael ei gweld fel un genedl, un endid. Oherwydd hyn, rwy'n teimlo nad yw llawer o bobl yn ymwybodol o'n bodolaeth (Cymru), neu rydym yn cael ein gweld fel rhanbarth o Loegr. Rwy'n credu bod y Cwpan y Byd yma’n gyfle gwych i ni ddefnyddio ein hymdeimlad cryf o hunaniaeth genedlaethol i ddangos i'r byd pwy ydyn ni go iawn."
Cymaint oedd y diddordeb yn y modiwl, mae Mari bellach yn bwriadu integreiddio mwy o hanes pêl-droed Cymru yn ei haddysgu, ac mae'n gweithio gyda thîm Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol i ddefnyddio eu casgliad o effemera yn archif Pêl-droed Bangor.