Eleni, mewn cynllun peilot wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, bydd tri myfyriwr ar eu blwyddyn gyntaf sy’n astudio’r rhaglen radd Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael y cyfle i astudio cymhwyster Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant law yn llaw â’u cwrs.
Mae’r cydweithio ochr-yn-ochr yma yn ymateb i’r galw cynyddol am staff dwyieithog ym maes gofal ac addysg plant ifanc, a’r her o recriwtio unigolion sy’n siarad Cymraeg a gyda’r cymhwysterau angenrheidiol.
“Rydym yn falch iawn o fod yn cydweithio fel hyn gyda’r Mudiad, sydd wedi gwneud cymaint dros y blynyddoedd i gynnal addysg a gofal Gymraegi’n plant ifancaf. Fel hyn, bydd ein myfyrwyr yn gadael y brifysgol yn meddu ar radd a chymhwyster proffesiynol, ac o’r herwydd, byddant yn hynod gyflogadwy yn y gweithlu plant cyfrwng Cymraeg, sy’n dda iddyn nhw ac i’r sector,” esbonia Rhian Tomos, darlithydd mewn Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid yn Ysgol Gwyddorau Addysg Prifysgol Bangor.
Bydd y myfyrwyr yn gweithio mewn lleoliadau fel rhan o’r hyfforddiant, gan feddu ar brofiad ymarferol mewn Cylch Meithrin neu Feithrinfa Ddydd, a dyfnhau eu dealltwriaeth a’u gwybodaeth o ddatblygiad ac anghenion plant.
Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin, “Ry’n ni’n falch iawn o’r cyfle newydd hwn i weithio ochr yn ochr â Phrifysgol Bangor. Mae ansawdd a safon ein Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol Cam wrth Gam yn gyson uchel gydag adroddiadau gwych gwirwyr allanol CBAC a City and Guilds yn adlewryrchu proffesiynoldeb ein haseswyr wrth gefnogi ein dysgwyr, a safon eu gwaith.”
“Drwy’r cynllun hwn â Phrifysgol Bangor byddwn ni yn medru cynnig mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ennill eu cymhwyster Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant. Bydd hyn o fudd i’n Cylchoedd Meithrin ni a’n Meithrinfeydd Dydd, ac felly yn y pendraw yn cefnogi pob plentyn bach yn ein cymunedau”.
Yn ôl yr Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-Ganghellor dros y Gymraeg a Chenhadaeth Ddinesig, “Mae’r datblygiad hwn yn dyst i ymrwymiad y Brifysgol i gyfoethogi profiadau addysgol ein myfyrwyr. Drwy gynllun o’r fath, caiff myfyrwyr y cyfle i ehangu eu dealltwriaeth a chymhwyso ar gyfer y byd gwaith, gan gyfrannu at dwf a pharhad y Gymraeg ymysg plant.”