Mae Prifysgol Bangor yn dathlu 100 mlynedd o gerddoriaeth eleni, ac wrth i Gerddorfa Symffoni a Chorws Prifysgol Bangor baratoi ar gyfer eu cyngerdd nesaf ar ddydd Sul 27 Tachwedd, mae aelodau presennol y Corws, rhyw 50 o aelodau, wedi bod yn rhannu鈥檙 budd y maent yn ei gael o ddod at ei gilydd i ganu yn rheolaidd.
Mae鈥檙 Corws yn rhyngwladol ei natur, gyda鈥檙 myfyrwyr a鈥檙 aelodau lleol yn dod o bob rhan o鈥檙 byd 鈥 mae鈥檙 aelodaeth bresennol yn cynrychioli Cymru, Lloegr, yr Alban, Iwerddon, Gwlad Pwyl, y Seychelles, Trinidad, yr Almaen, Ffrainc, UDA, Japan, Gwlad Groeg a'r Eidal.
Gydag aelodau o bob oed ac o gefndiroedd gwahanol, mae鈥檔 gorws cynhwysol a鈥檙 llawenydd pur o ganu a chreu cerddoriaeth sy鈥檔 ganolog i bopeth.
Ond yn 么l yr aelodau mae dod ynghyd i ganu yn dod 芒 llawer o fanteision eraill: gwneud ffrindiau, seibiant oddi wrth astudio a hefyd y cyfle i ganu gyda'r gerddorfa, sydd yn ei dro yn dod 芒 buddion iechyd meddwl go iawn.
听
Yn ystod un ymarfer dwedodd un aelod o鈥檙 gerddorfa yn dawel, 鈥淔e wnes i golli fy ng诺r yn annisgwyl y llynedd. Ro鈥檔 i'n meddwl na fyddwn i byth yn teimlo fel canu eto. Ond roedd gen i ffrindiau yma, ac fe wnes i barhau i ddod. Mae wir wedi fy helpu i ddod trwy鈥檙 brofedigaeth.鈥
Mae鈥檙 corws ar hyn o bryd yn brysur yn ymarfer bob nos Fercher ar gyfer eu cyngerdd nesaf gyda cherddorfa symffoni Prifysgol Bangor a ch么r lleol Cantorion Menai yn Neuadd Prichard-Jones ar 27 Tachwedd, lle byddant yn canu gweithiau cyfansoddwyr a chanddynt gysylltiad agos 芒 Bangor mewn rhyw ffordd neu鈥檌 gilydd.
Mae鈥檙 rhaglen yn cynnwys gwaith gan Gyfarwyddwr Cerdd cyntaf y Brifysgol yn 1912, E T Davies, Dilys Elwyn Edwards, John Hywel,听Caradog Roberts a William Mathias, a bydd yn cyngerdd yn cael ei arwain gan Gyfarwyddwr Cerdd presennol y brifysgol, Gwyn L Williams a鈥檙 Arweinydd Chris Atherton, a鈥檙 unawdwyr fydd y soprano Sioned Terry, y tenor Robyn Lyn Evans a鈥檙 bariton Jeffrey Williams.
Ceir rhagor o fanylion a thocynnau ar wefan Pontio:
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno 芒 chorws y brifysgol, cysylltwch trwy鈥檙 dudalen hon
听
听