Mae George Reese, sy’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor ac sy’n dod o Lugwardine, ger Henffordd wedi cael ei ddewis i ymgymryd ag un o heriau mwyaf uchelgeisiol y byd, a her nad oes neb erioed wedi llwyddo i’w chyflawni o’r blaen, sef cyrraedd.
Mae George yn astudio Bioleg Môr a Swoleg ac mae wedi cael ei ddewis gan Jim McNeill, y fforiwr byd enwog, i gymryd rhan yn un o alldeithiau pegynol pwysicaf a mwyaf uchelgeisiol ein hoes. Bwriad yr alldaith yw bod y cyntaf i gyrraedd Pegwn Anhygyrch y Gogledd, gan gasglu data hanfodol am newid hinsawdd ar hyd y daith.
Diffinnir Pegwn Anhygyrch y Gogledd fel y pwynt pellaf oddi wrth unrhyw dir yng Nghefnfor yr Arctig, ac felly’r canol. Dyma’r man olaf yn y rhanbarthau pegynol nad yw dynolryw wedi llwyddo i’w gyrraedd. Mae dros 270 milltir ymhellach na Phegwn Daearyddol y Gogledd. Bydd y daith gyfan bron yn 800 milltir o lannau gogleddol Canada.
Nid yn unig y mae’r alldaith hon yn ymgais i osod record byd, ond bydd hefyd yn casglu setiau data hanfodol i feincnodi cyflwr y cefnfor. Bydd y data’n cael ei ddefnyddio gan wyddonwyr y National Snow and Ice Data Center (NSIDC) a ariennir gan NASA, ac sydd dan arweiniad y gwyddonydd Walt Meier, sydd yn enillydd Gwobr Nobel. Bydd y setiau data hyn, ynghyd â data am y tywydd, llygredd a nifer yr eirth a welir, yn adlewyrchu realiti newid hinsawdd ac yn gwneud yr holl ymdrech yn werthfawr a phwrpasol.
Ers cael ei ddewis i gymryd rhan yn alldaith yr Ice Warrior #LASTPOLE Expedition, mae George, sydd wedi cymryd blwyddyn allan o’i astudiaethau, yn dilyn rhaglen hyfforddi gynhwysfawr a dwys (rhwng Chwefror 2022 ac Ionawr 2023). Bydd George yn ymgymryd ag un o bedwar cymal 20 diwrnod o hyd ar draws Cefnfor yr Arctig.
Her sydd am newid bywyd
Dywedodd George,
“Dwi’n angerddol am fyd natur, ac mae gen i ddiddordeb mawr mewn newid hinsawdd a’i effaith ar y blaned. Mi wnes i benderfynu astudio ym Mhrifysgol Bangor oherwydd ei henw da, ac oherwydd bod yr Ysgol Gwyddorau Naturiol a’r Ysgol Gwyddorau’r Eigion yn anhygoel.
Pan wnes i glywed am broject yr Ice Warrior, ro’n i’n gwybod fy mod i eisiau cymryd rhan ynddo fo. Ro’n i’n meddwl y gallwn i gyfrannu at y gwaith o gasglu data ac at yr ymchwil wyddonol, a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar faint dan ni’n ei ddeall am effeithiau newid hinsawdd yn y rhanbarthau pegynol. Dwi wastad wedi breuddwydio am fod yn archwiliwr pegynol a chymryd rhan mewn alldaith fawr fel hon. Bydd bod yn rhan o’r alldaith yma yn fy helpu i ddeall mwy am fy astudiaethau gwyddonol ac mi ga i gyfle i gasglu data gwyddonol ar hyd y ffordd.
Bydd her fel hon yn siŵr o newid fy mywyd, a gwella fy rhagolygon gyrfa yn y diwydiant ffilmiau byd natur. Dros y deuddeg mis diwethaf, mae’r hyfforddiant cynhwysfawr dwi wedi bod yn ei ddilyn wedi cynnwys cymorth cyntaf trwyadl a sgiliau craidd ar gyfer yr alldaith. Dwi bellach yn paratoi i wneud hyfforddiant pegynol yn Svalbard ym mis Ionawr 2023. Mae’r profiadau dwi wedi eu cael a’r heriau dwi wedi eu hwynebu hyd yma’n golygu fy mod i bellach yn edrych ymlaen at ymgymryd â her yr alldaith yma i begwn olaf y gogledd.
Y bwriad yw gadael am y Pegwn Anhygyrch ym mis Chwefror 2023.”
Dywedodd Jim McNeill, arweinydd yr alldaith a sylfaenydd Ice Warrior, “Dwi’n falch iawn o gael George yn rhan o dîm yr alldaith a dwi’n edrych ymlaen at ei hyfforddi ym mhob agwedd o’r daith er mwyn iddo fod yn deithiwr pegynol medrus iawn.”
Dywedodd yr Athro John Turner, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Eigion:
“Rydym i gyd yn falch iawn o George am ymgymryd â’r antur hon. Mae Gwyddorau’r Eigion yn ei hanfod yn bwnc anturus, felly roeddem yn gyffro i gyd wrth glywed bod George eisio cymryd rhan mewn alldaith mor bwysig. Byddwn yn dilyn ei gynnydd gyda diddordeb mawr. Pob lwc i George, Jim a gweddill tîm Ice Warrior.”