Trwy ddefnyddio'r dechnoleg newydd, mae’r ymchwilwyr yn echdynnu gwres o'r dŵr gwastraff poeth sy'n llifo allan o'r ceginau, ac sydd rywle rhwng 20°C a 55°C, ac yn ei ddefnyddio i gynhesu'r dŵr oer sy'n mynd i mewn i'r ceginau. Mae’r system adennill gwres wedi bod yn weithredol ers mis Chwefror 2022 yng Nghastell Penrhyn. Cynhaliwyd digwyddiad lansio ffurfiol ar ddydd Mawrth, 11 Hydref i dynnu sylw at yr effaith o ran arbed ynni a’r effaith ar yr hinsawdd y llwyddodd y dechnoleg hon i’w chael yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Dywedodd Dr Aonghus McNabola, Athro mewn Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol y Drindod Dulun, ac arweinydd y project , “Rydym ni, ynghyd â'n partneriaid ym Mhrifysgol Bangor, wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar y project hwn dros y 6 mlynedd ddiwethaf. Rydym yn obeithiol y byddwn yn gallu datblygu ychwaneg ar y dechnoleg newydd a chyffrous hon i adennill gwres ac y gellir ei defnyddio'n ehangach yn y sector bwyd a lletygarwch.”
“Mae gan y dechnoleg hon y potensial i leihau defnydd ynni ystafelloedd te Castell Penrhyn gan fwy na 230 kWh y mis. Gyda phrisiau ynni yn eithriadol o uchel ar hyn o bryd byddai’r system yn talu amdani ei hun mewn ychydig dros flwyddyn. Gall gynhyrchu dros £1,770 y flwyddyn mewn arbedion gwres. Rydym yn teimlo’n gyffrous am y posibiliadau hyn ac yn ddiolchgar iawn am y cyfle i gael cynllunio, gweithredu ac arddangos y system gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.”
Ar hyn o bryd caiff y gwres hwn ei ddarparu gan brif ddolen wresogi, ac mae'r gwres yn cael ei gynhyrchu mewn bwylerdy biomas, ac yna’n cael ei bwmpio i ystafelloedd y castell. Disgwylir felly i'r arbedion fod yn ddeublyg, nid yn unig y bydd y boeler yn defnyddio llai o belenni, ond, yn bwysicach, bydd y defnydd o drydan, a ddefnyddir i yrru'r pympiau, yn lleihau hefyd.
Mae Dr Prysor Williams sy'n arwain y tîm ym Mhrifysgol Bangor, yn gyfrifol am gyfrifo effeithiau gosod y dechnoleg. Dywedodd, “Yn ogystal â'r arbedion ariannol amlwg, rydym yn disgwyl i'r project hwn arwain at arbedion mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr o ychydig dros 750 kg y flwyddyn. Os caiff y dechnoleg ei rhoi ar waith yn fwy eang, gallai gynnig manteision economaidd ac amgylcheddol go iawn - lle mae pawb yn amlwg ar eu hennill."
Os bydd yn llwyddiannus yng Nghastell Penrhyn, caiff y dechnoleg ei chyflwyno mewn safleoedd eraill ar draws Iwerddon a'r Deyrnas Unedig, lle dylai gefnogi'r sector adennill ynni, sy'n sector sydd ar ei phrifiant, a gallai gynnig arbedion ariannol ac arbedion carbon sylweddol dros y blynyddoedd nesaf i sefydliadau a busnesau sy'n cynhyrchu llawer iawn o ddŵr poeth gwastraff, megis gwestai, bwytai a cheginau masnachol.
Dywedodd Paul Southall, sef Rheolwr Ymgynghorol yn nhîm Hinsawdd, Tir, yr Awyr Agored a Natur, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, “Ar adeg pan fo costau byw ar ei uchaf erioed, mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd o ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon – ond mae angen i ni wneud mwy na dim ond lleihau defnydd. Mae hefyd yn ymwneud ag ailddefnyddio gwastraff, neu’r hyn yr ydym yn ei ystyried ar hyn o bryd fel gwastraff.
“Rydym yn gweithio i wella systemau ynni yn ein safleoedd, yn enwedig mewn safleoedd treftadaeth adeiledig a all fod yn anodd eu gwresogi a lle gall fod yn anodd gweithredu systemau newydd oherwydd costau ac anghenion cadwraeth. Fodd bynnag, mae’r dechnoleg hon wedi profi y gellir ei hintegreiddio’n llwyddiannus yn rhan o’n hadeiladau, am gost fforddiadwy o gymharu â systemau ynni eraill, tra’n dod â’r un math o fanteision.
“Mae’r ynni a gynhyrchir o’r system adennill gwres yn cynhyrchu dros 2,760 kWh y flwyddyn sy’n pweru chwarter ein hanghenion dŵr poeth yn yr ystafell de, neu mewn termau eraill, bydd yr ynni a gynhyrchir yn ein galluogi i wneud dros 88,000 paned y flwyddyn! Gyda 100,000 o ymwelwyr y flwyddyn, mae hynny bron yn ddigon i roi paned o de i bob ymwelydd!
“Mae’r system adfer gwres yng Nghastell Penrhyn yn gam bach i ddod yn garbon net sero erbyn 2030, ond gallai fod yn gam mawr ymlaen pe baem yn integreiddio systemau tebyg ar draws ein holl safleoedd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae ganddo hefyd y potensial i wneud arbedion cost sylweddol ar draws y sefydliad a fyddai’n caniatáu i ni barhau i fuddsoddi arian elusennol i ofalu am ein safleoedd, i bawb, am byth.”
Mae'r dechneg a gafodd ei threialu yng Nghastell Penrhyn yn cynnwys defnyddio'r dŵr poeth gwastraff, o hyd at 57°C, i gynhesu'r prif gyflenwad dŵr cyn iddo fynd i mewn i'r system wresogi (biomas) bresennol yn y castell. Diolch i'r cynhesu ymlaen llaw hwn, bydd angen llai o ynni i gynhesu'r dŵr poeth, gan arbed ynni ac arian, a hefyd yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Cefnogir y project hwn gan sawl cwmni gwahanol sydd wedi darparu arbenigedd wrth ddatblygu'r project hwn, yn cynnwys , defnyddiwyd eu technoleg i fonitro llif dŵr gwastraff, a , caiff eu technoleg ei haddasu i adennill gwres yn y Castell.
Mae project Dŵr Uisce yn rhan o broject 2014-2020, Rhaglen Gydweithredu rhwng Iwerddon a Chymru a gefnogir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF).