Darganfuwyd y llong a anfonodd rybudd am y mynydd iâ i'r RMS Titanic, cyn i'r llong honno suddo, yn gorwedd ym Môr Iwerddon.
Yn 1912 roedd y stemar fasnachol SS Mesaba yn croesi Môr Iwerydd ac anfonodd neges radio’n rhybuddio’r RMS Titanic. Derbyniwyd y neges, ond ni chyrhaeddodd honno mo’r capten. Yn ddiweddarach y noson honno, tarodd y Titanic, llong y credid na ellid mo’i suddo, y mynydd iâ a suddo ar ei mordaith gyntaf. Bu farw 1,500 o bobl yn llongddrylliad enwocaf y byd.
Parhaodd SS Mesaba fel llong fasnachol am y chwe blynedd nesaf cyn cael ei tharo gan dorpido a hithau mewn confoi ym 1918.
Sonar aml-belydr o’r radd flaenaf
Bu ymchwilwyr Prifysgol Bangor yn defnyddio sonar aml-belydr o’r radd flaenaf i chwilio amdani. Ymhen hir a hwyr daethant o hyd i’r llongddrylliad a datgelu ei safle am y tro cyntaf erioed.
I’r archeolegydd morol, gall sonar aml-belydr fod mor effeithiol ag y bu awyrluniau i archeoleg dirweddol. Mae sonar aml-belydr yn fodd i fapio gwely'r môr yn fanwl iawn a datgelu manylion strwythurau yn y delweddau sonar.
Mae'r SS Mesaba yn un o 273 o longddrylliadau sy’n gorwedd mewn 7500 milltir sgwâr o Fôr Iwerddon, a gafodd eu sganio a'u croesgyfeirio yn ôl cronfa ddata Swyddfa Hydrograffig y Deyrnas Unedig o longddrylliadau a ffynonellau eraill.
Tybid bod 101 o longddrylliadau’n weddill heb eu hadnabod, ond yr oedd nifer y llongddrylliadau a ddarganfuwyd o’r newydd yn uwch o lawer, oherwydd y cawsai nifer, gan gynnwys SS Mesaba, eu cofnodi'n anghywir yn y gorffennol.
Cyhoeddwyd manylion yr holl longddrylliadau mewn llyfr newydd, Echoes from the Deep gan Dr Innes McCartney o Brifysgol Bangor ac a wnaed o dan Gymrodoriaeth Leverhulme tra oedd ym Mhrifysgol Bournemouth.
Dywedodd Innes,
“Mae canlyniadau'r gwaith a ddisgrifir yn y llyfr wedi dilysu'r dechneg amlddisgyblaethol a ddefnyddir ac mae'n 'newid y gêm’ i archaeoleg forol.
“Yn flaenorol byddem yn gallu plymio i ychydig o safleoedd y flwyddyn yn unig i adnabod llongddrylliadau’n weledol. Bu galluoedd sonar unigryw’r Tywysog Madog yn fodd inni ddatblygu dull cymharol rad o archwilio'r llongddrylliadau. Gallwn gysylltu hynny â’r wybodaeth hanesyddol heb orfod archwlio pob safle’n gorfforol sy’n waith costus iawn.
Dylai fod o ddiddordeb ysol i wyddonwyr morol, asiantaethau amgylcheddol, hydrograffwyr, rheolwyr treftadaeth, archeolegwyr morol, a haneswyr.”
Eglurodd Dr Michael Roberts a arweiniodd yr arolygon sonar,
“Mae arbenigedd ac adnoddau unigryw Prifysgol Bangor, megis y ‘Tywysog Madog’ yn fodd inni gyflawni ymchwil gwyddonol o safon uchel yn hynod gost-effeithiol. Un enghraifft yn unig o hyn yw darganfod y llongddrylliadau sy’n cael eu dogfennu yn y cyhoeddiad ar gyfer ymchwil hanesyddol ac astudiaethau effaith amgylcheddol. Buom hefyd yn archwilio safleoedd y llongddrylliadau i ddeall yn well sut mae gwrthrychau ar wely’r môr yn rhyngweithio â phrosesau ffisegol a biolegol. Gall hynny yn ei dro helpu gwyddonwyr gefnogi datblygiad a thwf y sector ynni morol.”