Mae eigionegwyr Prifysgol Bangor yn galw am waith ymchwil newydd i effaith amgylcheddol y tyrfedd a achosir gan lif y llanw heibio i ffermydd gwynt sy’n arnofio mewn dŵr dwfn.
Mae’r Deyrnas Unedig ymhlith y gwledydd mwyaf cynhyrchiol lle mae ynni gwynt y môr yn y cwestiwn, ac mae’r pŵer a gynhyrchir ar hyn o bryd yn diwallu traean o’r galw cenedlaethol (~10GW).
Mae tyrbinau gwynt alltraeth newydd sy'n arnofio ym moroedd dwfn y silff yn elfen bwysig iawn o’r daith tuag at gyflawni SeroNet y Deyrnas Unedig. Mae gan y dechnoleg dan sylw dargedau twf estynedig - y targed presennol yw i gynhyrchu 50GW erbyn 2030 sy’n gynnydd o 67% ar y targed a osodwyd gwta 12 mis yn ôl.
Ond ac 20,000 o dyrbinau gwynt ychwanegol ar fin cael eu hadeiladu, rhaid sicrhau ein bod yn gwbl ymwybodol o'r effeithiau cadarnhaol a negyddol ar yr amgylchedd o'u cwmpas.
Saif y rhan fwyaf o ffermydd gwynt y byd yn gyfleus ddigon yn y dyfroedd bas oddi ar y glannau. Fodd bynnag, mae safleoedd alltraeth newydd ar ddyfnder o dros 50 metr yn wahanol iawn i'r safleoedd bas ger y glannau a ddefnyddid hyd yma.
Fel yr eglura Dr Ben Lincoln o Brifysgol Bangor,
“Mae moroedd y silff yn gwbl gymysg yn ystod y gaeaf, ond ym misoedd yr haf mae’r mannau dyfnach yn haenu, a haen gynnes yr arwyneb yn gorchuddio’r dŵr oerach oddi tano. Mae hynny’n sbarduno twf y ffytoplancton ac mi allwn weld hynny o’r gofod. Mae'n sylfaen i’r gadwyn fwyd forol, sy’n cynnal pysgod, adar môr a morfilod. Ym misoedd yr haf ar ôl twf y gwanwyn, cynhelir twf y ffytoplancton gan y maetholion a gaiff eu codi o’r môr oddi tanynt gan dyrfedd sy'n gysylltiedig â'r gwynt a'r llanw. Mae’r tyrfedd hwnnw hefyd yn cymysgu ocsigen i lawr hyd y dŵr dwfn, lle mae ei angen at brosesau biolegol allweddol eraill.”
Mae angen ymchwil newydd i ddeall sut y gallai lleoli gwahanol fathau o dyrbinau gwynt effeithio ar wely’r môr, yn ogystal â’r dyfroedd, a phopeth sydd ynddynt.
“Bu’r asesiadau amgylcheddol ar foroedd bas y silff yn canolbwyntio ar y creaduriaid a’r planhigion sy'n defnyddio neu'n byw o fewn yr ardaloedd yr effeithir arnynt. Y gwahaniaeth gyda’r moroedd dyfnach yw’r effaith bosib ar weithrediad sylfaenol y moroedd eu hunain,” eglura Dr Lincoln.
“Mae’r cymysgu tyrfeddol yn pennu amseriad a chyfradd y cyflenwad bwyd y mae ecosystemau morol a rhywogaethau allweddol yn dibynnu arno. Bydd y llif heibio i ffermydd gwynt y dŵr dwfn yn cyflwyno tyrfedd 'anthropogenig' o waith dyn, ac yn cynyddu’r cymysgu. Gallai’r newid sylfaenol hwnnw arwain at effeithiau rhanbarthol sylweddol, ac mae’n rhaid eu hasesu. Fodd bynnag, nid yw'r effeithiau o reidrwydd yn negyddol, ac mae potensial i wella cynhyrchiant a gwrthbwyso’r haenu cynyddol a ddaw gyda’r newid yn yr hinsawdd.
“Yn sicr mae twf ynni adnewyddadwy’n hanfodol i gyflawni’r ymrwymiadau Sero Net byd-eang erbyn 2050.
Fodd bynnag, mae angen dealltwriaeth ddyfnach ar frys o’r ddeinameg sydd ynghlwm wrth osod ffermydd gwynt ar y môr, boed yn uned sengl neu luosog, a sut y bydd hynny’n effeithio ar weithrediad ecosystemau’r silff. Bydd y ddealltwriaeth honno’n helpu arwain cynlluniau ffermydd gwynt newydd i sicrhau y cânt effaith gadarnhaol ar yr ecosystem”.
Mae'r erthygl hon yn seiliedig ar bapur ymchwila gyhoeddwyd yn Frontiers.