Ystyrir bod arsylwi’r rhan fwyaf o lynnoedd gogleddol yn fodd o fesur newid amgylcheddol, ond mae ymchwil yn dangos y gall canlyniadau newid yn yr hinsawdd effeithio ar unrhyw un o fwy na 100 miliwn o lynnoedd y byd.
I gael darlun cydlynol o sut mae newid yn yr hinsawdd yn bygwth llynnoedd, bu’r Darllenydd R. Iestyn Woolway o Brifysgol Bangor, Cymru, yr Athro Cyswllt Sapna Sharma o Brifysgol York yng Nghanada, a’r Athro Prifysgol nodedig John Smol o Brifysgol y Frenhines, yn adolygu a chywain yr astudiaethau sydd ar gael ar lynnoedd dŵr croyw o bob rhan o'r byd.
Canfu’r tîm ymchwil fod newid yn yr hinsawdd yn aml yn effeithio ar lynnoedd mewn amryfal ffyrdd. Mae tymereddau dŵr cynhesach yn arwain at newidiadau mewn cyfundrefnau haenu, gostyngiad mewn ocsigen tawdd, risg uwch o algâu cyanobacteriol, yn ogystal â cholli cynefin ar gyfer pysgod dŵr oer brodorol. Gall effeithio nid yn unig ar ansawdd a swm dŵr, ond hefyd ar weithgareddau diwylliannol a hamdden, ac economïau lleol.
Mae canlyniadau ecolegol newid yn yr hinsawdd ynghyd ag effeithiau achosion hinsawdd eithafol eisoes i’w gweld mewn llynnoedd ar draws y byd a byddant yn parhau yn y dyfodol, yn aml heb rybudd nac amser i addasu,” meddai Woolway.
Mae canlyniadau’r mathau hyn o newidiadau wedi’u gweld mewn llynnoedd o Barc Algonquin yn Ontario i Lyn Chad yn Affrica, Ardal y Llynnoedd yn Lloegr yn y Deyrnas Unedig i Lake Mead yn yr Unol Daleithiau.
Ôl-effeithiau cymdeithasol ac ecolegol pellgyrhaeddol
Wrth sôn am sut y gall y newidiadau effeithio nid yn unig ar ansawdd a chyfanswm dŵr, ond hefyd ar weithgareddau diwylliannol a hamdden ac economïau lleol, dywedodd Sapna Sharma o Brifysgol Efrog yng Nghanada:
“Mae gan newid yn yr hinsawdd ôl-effeithiau cymdeithasol ac ecolegol pellgyrhaeddol, ond yn aml ni ddeellir effeithiau newid yn yr hinsawdd, ynghyd â phwysau amgylcheddol eraill, ac ni sylweddolir eu harwyddocâd yn fyd-eang. Mae llawer o waith eto i’w wneud.”
Gall tymereddau aer cynhesach effeithio ar y gorchudd rhew sy’n ymffurfio yn y gaeaf yn achos llynnoedd y gogledd. Colli rhew yw un o ganlyniadau mwyaf amlwg cynhesu’r hinsawdd ar lynnoedd, a all gynyddu cyfraddau anweddu yn y gaeaf a thymheredd dŵr, ac arwain at lu o effeithiau ffisegol a chemegol, gan gynnwys mwy o halltedd. Disgwylir i anweddiad blynyddol cymedrig byd-eang llynnoedd gynyddu 16 y cant erbyn diwedd y ganrif. Yn ogystal, gall llai o law hefyd gael effaith sylweddol ar lefelau llynnoedd.
Gall gostyngiadau mewn lefelau dŵr fod yn ddifrifol mewn rhai rhanbarthau. Mae Llyn Chad wedi ei gyfrif yn hanesyddol yn un o lynnoedd mwyaf Affrica. Mae’n ffinio â Chad, Camerŵn, Niger a Nigeria, ond mae’r llyn wedi lleihau’n sylweddol oherwydd llai o law yn lleol a dŵr yn llifo o'i ddalgylch, yn ogystal â mwy o anweddiad.
“Gall digwyddiadau fel tymor haf cynharach hefyd achosi anghydweddiad rhwng yr amser mae pysgod silio a’r amser lle chwilotir am fwyd, yn aml gyda goblygiadau eang i’r we fwyd. Er y gallai llawer o fythynwyr a gwersyllwyr groesawu ‘haf hirach’, mae tywydd o’r fath yn cynyddu’r risg o dyfiant algaidd sylweddol, ac yn enwedig algâu cyanobacteriol, a all gael canlyniadau ecolegol pellgyrhaeddol a hyd yn oed wneud dŵr yfed yn wenwynig,” meddai Sapna Smol.
Mae rhai o effeithiau newid yn yr hinsawdd yn creu amodau lle mae llynnoedd yn colli ocsigen sydd ei angen ar bysgod a rhywogaethau dyfrol eraill. Gall y deocsigeniad hwn gael ei waethygu gan algâu cyanobacteriol. Mae gostyngiad mewn faint o dŵr yfed diogel sydd ar gael oherwydd planhigion algaidd niweidiol gryn dipyn yn waeth o'i gyfuno â lleihad yng nghyfaint dŵr. Yn 2014, oherwydd algâu cyanobacteriol yn Llyn Erie bu’n rhaid rhwystro’r cyflenwad dŵr yn Toledo, Ohio, tra bod nifer enfawr o algâu cyanobacteriol gwenwynig yn Llyn Taihu, Tsieina, wedi gorfodi terfynu’r cyflenwad dŵr i ddwy filiwn o bobl am wythnos yn ninas Wuxi.
“Gall tyfiant algâu sylweddol rwystro golau’r haul rhag cyrraedd y dyfroedd dyfnach a gall dadelfeniad bacteriol algâu gwaddodol arwain at ostyngiad mewn ocsigen ar gyfer pysgod dŵr dwfn a bywyd dyfrol arall,” meddai Iestyn Woolway. “Yn ogystal, gall stormydd achlysurol achosi maetholion i lifo’n sydyn i mewn i lynnoedd a meithrin datblygiad algâu cyanobacteriol.”
“Mae hafau cynhesach yn creu’r amodau perffaith i algâu dyfu’n gynharach, yn amlach ac yn fwy dwys, fel y rhai a welir yn aml yn Llyn Tegid yng ngogledd Cymru. Gall algâu gwyrddlas niweidiol sy’n aml yn arnofio ar wyneb y dyfroedd fod yn fygythiad difrifol i iechyd gwartheg, anifeiliaid anwes, bywyd gwyllt a bodau dynol” meddai Iestyn Woolway.
“Gallai’r blodau hyn hefyd effeithio ar dwristiaeth a gwerth eiddo ar lannau llynnoedd.”
Ychwanega: “Wrth i ansawdd dŵr llynnoedd ddirywio, gellir disgwyl i’r gwasanaethau ecosystem a ddarperir gan lynnoedd ddilyn yr un trywydd. Er enghraifft, cafodd digwyddiad nofio gwyllt mwyaf y Deyrnas Unedig, y ‘Great North Swim’, ei ganslo yn 2010 o ganlyniad i dyfiant algâu sylweddol, ac mae’n bosib y bydd cyflenwad dŵr yfed ffres dan fygythiad yn fuan.”
Gall tymheredd dŵr cynhesach, tyfiant algâu sylweddol, dechrau cynharach i’r tymor tyfu, a chyfnodau hirach o haeniad thermol, ynghyd â chrynodiadau ocsigen toddedig is, gael effeithiau cronnol pwysig ac o bosib negyddol ar organebau dyfrol, megis pysgod.
“Mae effeithiau newid yn yr hinsawdd hefyd yn effeithio ar sawl ffactor amgylcheddol sy’n gwaethygu problemau gyda chyfanswm ac ansawdd dŵr, gan gynnwys halltiad, halogiad, a lledaeniad rhywogaethau ymledol,” meddai Sapna Smol. “Gan na all bodau dynol oroesi heb ddŵr, mae angen gwell dealltwriaeth o sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar sut mae llynnoedd yn gweithio, ynghyd ag adnabyddiaeth o arwyddion rhybudd cynnar.”
Mae'r ymchwilwyr yn gobeithio y bydd datblygiadau diweddar mewn technoleg, megis synhwyro o bell a DNA amgylcheddol, ynghyd â mwy o weithio ar draws ffiniau meysydd traddodiadol, yn caniatáu gwell dealltwriaeth o’r effaith ar lynnoedd yn y dyfodol.
Er mwyn gwireddu Nod Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig o fynediad teg at ddŵr glân erbyn 2030, bydd cynnwys lleisiau amrywiol gan ymchwilwyr ledled y byd, gan gynnwys rhannau deheuol y byd, a rhannu syniadau ar draws disgyblaethau, yn hanfodol.
Mae'r papur, wedi ei gyhoeddi heddiw yn y cyfnodolyn BioScience.