Gwnaeth tîm o ymchwilwyr o Brifysgol Bangor y darganfyddiad cyffrous wrth wneud ymchwil ar boblogaeth gwiwerod coch yr ynys, sydd o bwysigrwydd cenedlaethol. Roedd Dr Simon Valle, Dr Graeme Shannon a Dr Craig Shuttleworth wedi gosod rhwydwaith o gamerâu mewn gwahanol fathau o goetiroedd ar draws Ynys Môn i fonitro niferoedd y gwiwerod coch lleol. Ariannwyd y project arloesol gan Gyfoeth Naturiol Cymru mewn ymgais i ddeall yn well pa gynefinoedd coetir sydd orau i wiwerod coch a sut gall newidiadau i reolaeth coedwigoedd effeithio ar eu niferoedd.
Wrth bori drwy dros 15,000 o ddelweddau o wiwerod coch, titwod mawr ac adar eraill y goedwig a gasglwyd yn ystod y gwanwyn eleni, daeth yr ymchwilwyr ar draws dair delwedd o fele’r coed yn heulwen y gwanwyn.
Meddai Dr Graeme Shannon,
“Ar ôl edrych drwy rhai cannoedd o luniau o ditwod mawr - gwelais dri llun o’r un bele’r coed yn hercian yn ôl ac ymlaen - roeddwn wrth fy modd i ddod ar draws tair delwedd glir o fele'r coed chwilfrydig yn edrych yn ôl ar y camera. Rhywogaeth a oedd tan yn ddiweddar yn hynod brin yng Nghymru. Darganfyddiad annisgwyl ond cyffrous iawn”
Rhyddhawyd belaod y coed ger Bangor yn 2018-20 fel rhan o broject bele'r coed Gwynedd ac yn achlysurol iawn mae gwyddonwyr wedi cael tystiolaeth ffotograffig o fele’r coed yng nghoedwig y Faenol ger pont reilffordd Britannia. Cafwyd adroddiadau anecdotaidd hefyd am fele’r coed ger Caergybi, sy'n codi amheuaeth efallai bod un ohonynt wedi dianc ar long o Iwerddon, ble mae'r rhywogaeth yn doreithiog. Yn ogystal, rhyddhawyd 51 bela’r coed yng nghanolbarth Cymru yn 2015-2017 i gynyddu niferoedd, ac mae rhai o’r anifeiliaid hynny wedi cael eu gweld dros 50km o’r man ble cawsant eu rhyddhau.
Mae bele'r coed yn ysglyfaethwyr canolig eu maint sy'n pwyso 1.5-2kg. Gallant ddringo coed ac mae ganddynt ddiet sy'n cynnwys wyau aderyn, ffrwythau coedwig, aeron coed, cnofilod bach ac weithiau gwiwerod coch a llwyd. Maent yn byw mewn grwpiau bychan iawn ac yn aml yn anodd dod o hyd iddynt, ond mae ymchwil diweddar wedi dangos y gallant chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o reoli gwiwerod llwyd, sy’n ymledol.
Meddai Dr Simon Valle,
“Mae'n galonogol gweld, hyd yn oed ar ynys sydd â chyn lleied o goed, bod gan goedwigoedd lleol y potensial o hyd i weld rhywogaeth garismatig fel bele'r coed yn dychwelyd. Efallai bod ein coedwigoedd yn llawer mwy gwyllt nag yr ydym yn meddwl”.
Mae rhagor o wybodaeth am fele’r coed ar gael yn
Byddai gan Dr Craig Shuttleworth ddiddordeb clywed gan unrhyw un a allai fod wedi gweld bele'r coed ar Ynys Môn. Gall unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth anfon e-bost at c.shuttleworth@bangor.ac.uk
Darganfod bele’r coed ar Ynys Môn am y tro cyntaf
Mae llun o fele'r coed prin wedi ei dynnu ar Ynys Môn. Dyma'r tro cyntaf i fele’r coed gael ei weld ar yr ynys ers dros ddeng mlynedd ar hugain o waith dwys yn monitro’r bywyd gwyllt yno.