Cafodd cerddorion ar raglenni israddedig ac ôl-raddedig yn Adran Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio Prifysgol Bangor gyfle prin i weithio gyda rhai o gerddorion clasurol cyfoes gorau Prydain fel rhan o’u hastudiaethau cyfansoddi a dathliadau’r brifysgol o 100 mlynedd o gerddoriaeth ym Mangor.
Treuliodd Hero Douglas, Ivan Pierre Quiterio, Polly Olden-Chandler a Joe Davis amser gyda chwaraewyr o’r London Sinfonietta yn Neuadd Powis Prifysgol Bangor, yn gweithio trwy eu sgoriau.
Cyn y digwyddiad, dywedodd Ivan Pierre Quiterio – sy’n astudio gradd Meistr ym Mangor ac o’r Weriniaeth Ddominicaidd, “O ran fy mhroses, dechreuais drwy gymryd syniadau gan gyfansoddwyr sy’n fy ysbrydoli, felly Bartók a Ligeti sydd wedi bod yn dylanwadol iawn i mi.
Yna am gyd-destun, o ran fy mhrofiad fy hun yn dod o’r Weriniaeth Ddominicaidd, ambell ddarn melodig o’r Gagá sy’n arddull Affro-Dominaidd o gerddoriaeth.
Enw’r darn yw ‘On Touch’ ac mae hwn yn mynd i fod yn ysgogiad gwych - i gael cerddorion arbennig i berfformio’r darn a gweld sut mae’n dod yn fyw.”
Bydd Polly Olden-Chandler, sydd hefyd yn fyfyriwr Meistr hefyd yn clywed ei darn hithau, Dawning, yn cael ei chwarae am y tro cyntaf.
Meddai Polly, “Mae’r darn arbennig hwn yn edrych i mewn i’r eiliad yna o sylweddoli, wedi colli rhywun, a’r cyferbyniad emosiynol a’r amrediad o emosiynau sy’n digwydd ar yr adeg honno.
“Wrth eistedd i lawr i gyfansoddi darn, mae’n fwy o fater o geisio cyfathrebu sut dw i’n teimlo a’i roi yn y gerddoriaeth ei hun, felly mae’n hawdd iawn fel cyfansoddwr i fynd yn sownd ar y dotiau yn y dudalen.
“Mae’n dod â dyfnder newydd iddo pan fyddwch chi’n ychwanegu person arall i’r gymysgedd – mae gennych chi berson arall sy’n dod â’i emosiwn eu hunain, felly mae’n gyffrous iawn cael rhywun i wneud hynny gyda’r darn.
Dyna beth mae pob cyfansoddwr ei eisiau, i gael perfformio eu darnau.”
Am gyfle gwych i’n cyfansoddwyr ifanc yw hwn. Mae’r gweithdy, sydd hefyd mewn cydweithrediad â Music Theatre Wales, yn rhoi llwyfan i’n myfyrwyr-gyfansoddwyr i wynebu sefyllfa bywyd go iawn o berfformiad proffesiynol, gan baratoi sgorau a rhannau, cyflwyno eu darnau ac wrth gwrs clywed eu cyfansoddiadau.
“Gyda phrofiad helaeth y ffliwtydd Michael Cox a’r feiolydd Paul Silverthorne cafodd y myfyrwyr hefyd adborth adeiladol ar eu cerddoriaeth, gan roi hwb i syniadau amgen a threiddio o dan groen pob darn o waith. Dyma’r math o gyfleoedd sy’n allweddol i ddatblygiad proffesiynol ein darpar gyfansoddwyr ar ddechrau eu taith greadigol.